Nodweddion tonnauOsgled, tonfedd a buanedd

Cyflwyno termau allweddol ar gyfer nodweddion tonnau, a rhoi sylw hefyd i briodweddau'r sbectrwm EM a sut i'w ddefnyddio, cyfrifo buanedd tonnau a chyfathrebu â lloeren.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Osgled, tonfedd a buanedd

Osgled

Wrth i donnau deithio, maen nhw’n creu patrymau cynnwrf. Osgled ton ydy ei chynnwrf mwyaf o’i safle digynnwrf.

Siâp ton wedi’i lunio ar graff heb ei labelu. Mae osgled a thonfedd y tonnau wedi’u labelu a’u dangos gan ddefnyddio saethau.

Tonfedd

Tonfedd (λ) ton yw'r pellter rhwng pwynt ar un don a'r un pwynt ar y don nesaf. Yn aml, y ffordd hawddaf o fesur hyn yw o frig (top) un don i frig y don nesaf, neu o gafn (gwaelod) un don i gafn y don nesaf. Does dim ots ble rwyt ti'n ei fesur, cyn belled â'i fod ar yr un pwynt ar bob ton (chwilia am lle mae'r patrwm yn ailadrodd).

Siâp tonnau wedi’u llunio ar gefndir sgwariau. Mae brig a chafnau’r tonnau wedi’u labelu. Mae’r tonfeddi wedi’u labelu â lambda. Mae’r osgled wedi’i labelu ag a.

Dylet ti hefyd allu cyfrif nifer y tonnau mewn diagram.

Dylet ti allu gweld bod y diagram isod yn cynnwys tair ton – mae'r patrwm yn ailadrodd tair gwaith.

Tair ton wedi’u llunio ar graff. Mae’r echelin-x wedi’i labelu â sero.

Amledd

Amledd ton ydy nifer y tonnau sy’n cael eu cynhyrchu gan ffynhonnell bob eiliad.

Uned amledd ydy’r hertz (Hz). Mae’n beth cyffredin i’r unedau cilohertz (kHz), megahertz (MHz) a gigahertz (GHz) gael eu defnyddio os oes gan y tonnau amleddau uchel iawn.

Cynrychioli ton ardraws mewn graff

Mae angen i ti wybod am ddau fath o graff rydyn ni'n gallu eu defnyddio i gynrychioli tonnau ardraws:

  • graffiau dadleoliad-pellter
  • graffiau dadleoliad-amser

Dadleoliad-pellter

Mae graff dadleoliad-pellter yn giplun o'r don ar unrhyw adeg benodol.

Dylet ti allu cyfrifo tonfedd ton o graff dadleoliad-pellter.

Question

Dwy don wedi’u llunio ar graff sy’n plotio Dadleoliad (cm) yn erbyn Pellter (cm). Mae’r dadleoliad ar yr echelin-y wedi’i rifo o 10 i -10. Mae’r pellter ar yr echelin-x wedi’i rifo o 0 i 80.

Faint o donnau cyflawn sydd wedi'u dangos yn y diagram? Dylai dy ateb gynnwys y donfedd a'r osgled.

Dadleoliad-amser

Dwy don wedi’u plotio ar graff dadleoliad-amser. Mae’r dadleoliad ar yr echelin-y wedi’i rifo o o 2 i -2. Nid oes label ar yr echelin-x.

Mae graff dadleoliad-amser yn dangos sut mae dadleoliad un pwynt ar y don yn amrywio dros amser.

Dylet ti allu cyfrifo amledd ton o graff dadleoliad-amser – cofia mai'r amledd yw nifer y tonnau bob eiliad.

Question

Dwy don wedi’u plotio ar graff dadleoliad-amser. Mae'n cymryd 0.1 eiliad i gynhyrchu ton.

Cyfrifa amledd y tonnau sydd wedi'u dangos yn y diagram.