Adlewyrchiad a phlygiant
Adlewyrchiad
Mae tonnau'n adlewyrchu oddi ar arwynebau. Mae'r ongl drawiadYr ongl rhwng y llinell normal a’r pelydryn trawol. yn hafal i'r ongl adlewyrchiadYr ongl rhwng y pelydryn adlewyrchol a'r llinell normal (y llinell ddychmygol sy’n cael ei thynnu ar 90 gradd i’r arwyneb sy’n adlewyrchu).. Dyma'r ddeddf adlewyrchu. Felly, os yw ton yn taro drych ar ongl o 36°, bydd hi'n cael ei hadlewyrchu ar yr un ongl (36°).
Mae pelydryn golau trawol yn taro drych plân ar ongl ac mae’n cael ei adlewyrchu yn ôl oddi arno. Mae’r ongl adlewyrchiad yn hafal i’r ongl drawiad. Mae’r ddwy ongl yn cael eu mesur o’r normal. Y normal ydy llinell ddychmygol ar ongl sgwâr i’r drych plân.
Gwna'n siŵr dy fod ti'n gallu labelu'r normal, yr ongl drawiad a'r ongl adlewyrchiad ar ddiagram o adlewyrchiad.
Plygiant
Mae tonnau sain a thonnau golau yn newid buanedd wrth iddyn nhw groesi’r ffin rhwng dau sylwedd sydd â gwahanol ddwysedd, megis aer a gwydr. Mae hyn yn achosi iddyn nhw newid cyfeiriad. Plygiant yw’r enw ar yr effaith hon.
Mae tonnau dŵr yn plygu wrth deithio o ddŵr dwfn i ddŵr bas (neu i'r gwrthwyneb).
Pam mae plygiant yn digwydd?
Mae plygiant yn digwydd oherwydd bod buanedd y don yn newid.
Mae golau'n teithio'n arafach (o gymharu â'i fuanedd mewn aer) mewn defnyddiau mwy dwys fel gwydr. Bydd y donfedd hefyd yn lleihau er mwyn cadw'r amledd yn gyson.
Mae tonnau dŵr yn teithio'n arafach mewn dŵr bas. Bydd y donfedd yn lleihau er mwyn cadw'r amledd yn gyson.
Mae newidiadau i donfedd mewn cyfranneddPan fydd rhywbeth yn cyfateb i faint neu nifer penodol, ee mae rhywbeth sydd mewn cyfranedd union â rhywbeth yn cynyddu neu ostwng ar yr un gyfradd. â newidiadau i fuanedd tonnau. Dydy'r amledd ddim yn newid.
Sylwa, dydy plygiant ddim yn digwydd os yw'r tonnau'n croesi'r ffin ar ongl o 90° (sef y normal) – yn yr achos hwn, maent yn mynd yn syth ymlaen.
Pan mae golau’n pasio o aer i flociau hanner crwn o bersbecs, dyma beth rydyn ni’n gweld.
Image caption, Mae nodweddion y don yn newid wrth iddi fynd i mewn i’r gwydr, ac yna’n dychwelyd i’w gwerthoedd gwreiddiol wrth adael
Image caption, Os yw pelydryn golau yn taro’r gwydr ar ongl, byd yn teithio drwy’r gwydr ar yr ong honno ac yna’n dychwelyd i’r cyfeiriad gwreiddiol wrth adael
Image caption, Mae’r pelydryn golau yn plygu tuag at y normal wrth iddo fynd i mewn i’r gwydr
1 of 3
Os yw'r ongl drawiad yn ddigon mawr, fydd y golau ddim yn dianc o'r bloc – caiff ei adlewyrchu'n fewnol yn gyflawn. Galli di ddysgu mwy am hyn yn y canllaw Adlewyrchiad mewnol cyflawn.