Cynhyrchu trydanYmateb i’r galw

Mae trydan yn ffynhonnell egni gyfleus a gallwn ni gynhyrchu trydan mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan ddefnyddio naill ai tanwyddau ffosil neu dechnolegau adnewyddadwy a chynaliadwy.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Ymateb i’r galw

Mae’r galw am drydan yn amrywio drwy’r dydd.

Graff â’r teitl ‘Y galw am drydan ar 30 Ionawr 2014’. Mae’n plotio megawatt o 0 i 60,000 yn erbyn amser o'r dydd.

Os yw’r galw am drydan yn fwy na’r llwyth sylfaenol, mae’r Grid Cenedlaethol yn ymateb drwy ddarparu trydan ychwanegol.

Atomfeydd a gorsafoedd trydan glo sydd fel arfer yn darparu’r trydan llwyth sylfaenol. Mae’r rhain yn rhedeg drwy’r amser gan eu bod nhw’n cymryd amser hir i gychwyn. Mae gan orsafoedd trydan dŵr amser cychwyn byr iawn ac rydyn ni’n eu defnyddio nhw i ddarparu trydan ychwanegol ar adegau prysur. Rydyn ni hefyd yn mewnforio trydan o wledydd eraill yn Ewrop i ateb y galw ar adegau prysur. Rydyn ni hefyd yn gallu ei allforio ar adegau eraill.

Question

Trafoda pam mae’r galw am drydan yn amrywio drwy gydol y dydd a sut mae’r Grid Cenedlaethol yn ymateb i’r newid hwn yn y galw.

Question

Eglura pam mae’r Grid Cenedlaethol yn defnyddio newidyddion.