Mae trydan yn ffynhonnell egni gyfleus a gallwn ni gynhyrchu trydan mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan ddefnyddio naill ai tanwyddau ffosil neu dechnolegau adnewyddadwy a chynaliadwy.
Wraniwm a phlwtoniwm yw’r prif danwyddau niwclear. Mewn atomfa, mae tanwydd niwclear yn mynd trwy adwaith cadwynolMae adwaith cadwynol niwclear yn digwydd pan mae niwtron yn hollti niwclews, gan ryddhau mwy o niwtronau, sydd yn eu tro yn mynd ymlaen i hollti mwy fyth o niwclysau. wedi ei reoli yn yr adweithydd i gynhyrchu gwres. Mae egni niwclear yn cael ei drawsnewid yn egni gwres:
mae gwres yn cael ei ddefnyddio i newid dŵr yn ager yn y boeler
mae’r ager yn gyrru’r tyrbin (gwres i egni cinetig)
mae hyn yn gyrru’r generadur i gynhyrchu trydan – egni cinetig i egni trydanol
Manteision pŵer niwclear
Yn wahanol i danwyddau ffosil, dydy tanwyddau niwclear ddim yn cynhyrchu carbon deuocsid na sylffwr deuocsid.
Mae atomfeydd yn ffynonellau egni dibynadwy, sy'n golygu eu bod yn gallu darparu trydan pryd bynnag y mae ei angen.
Mae 1 kg o danwydd niwclear yn cynhyrchu miliynau o weithiau yn fwy o egni nag 1 kg o lo.
Anfanteision pŵer niwclear
Fel tanwyddau ffosil, mae tanwyddau niwclear yn adnoddau egni anadnewyddadwy.
Er bod dyluniadau adweithyddion modern yn ddiogel iawn, pe bai damwain yn digwydd, gallai llawer o ddeunyddiau ymbelydrol gael eu rhyddhau i’r amgylchedd, gan achosi niwed am filoedd o flynyddoedd.
Mae gwastraff niwclear yn aros yn ymbelydrol ac mae’n berygl i iechyd pobl am filoedd o flynyddoedd, felly mae’n rhaid ei storio yn ddiogel.