Mae trydan yn ffynhonnell egni gyfleus a gallwn ni gynhyrchu trydan mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan ddefnyddio naill ai tanwyddau ffosil neu dechnolegau adnewyddadwy a chynaliadwy.
Mae gwynt yn cael ei greu gan cerrynt darfudiadSymudiad nwy neu hylif sy’n cael ei achosi gan egni thermol. yn atmosffer y Ddaear, sy’n cael eu gyrru gan egni gwres o’r Haul. Mae hyn yn golygu bod yr egni cinetig yn y gwynt yn adnodd egni adnewyddadwy – cyn belled â bod yr Haul yn bodoli, bydd y gwynt yn bodoli hefyd.
Tyrbinau gwynt
Mae tyrbinau gwynt yn defnyddio’r gwynt i yrru tyrbinau yn uniongyrchol. Mae ganddyn nhw lafnau enfawr wedi eu mowntio ar ben tŵr uchel. Mae’r llafnau wedi eu cysylltu â nasél, neu rigol, sy’n cynnwys gerau wedi eu cysylltu â generadurDyfais sy’n trawsnewid egni cinetig yn egni trydanol.. Wrth i’r gwynt chwythu, mae’n trosglwyddo rhywfaint o’i egni cinetigEgni cinetig yw'r egni sydd gan wrthrychau sy'n symud. i’r llafnau, sy’n troi ac yn gyrru’r generadur. Mae’n bosibl y bydd sawl tyrbin gwynt yn cael ei godi gyda’i gilydd mewn lle gwyntog i greu fferm wynt.
Manteision egni gwynt
Mae gwynt yn adnodd egni adnewyddadwy.
Does dim costau tanwydd.
Does dim nwyon niweidiol sy’n llygru yn cael eu cynhyrchu.
Anfanteision egni gwynt
Mae ffermydd gwynt yn swnllyd.
Mae lefel y trydan sy’n cael ei gynhyrchu yn dibynnu ar gryfder y gwynt.
Os nad oes gwynt, does dim trydan.
Mae adeiladu a chynnal ffermydd gwynt yn gallu bod yn gostus.
Mae rhai pobl leol yn gwrthwynebu ffermydd gwynt atraeth (ar y tir), gan ddadlau eu bod nhw’n difetha cefn gwlad.