Cynhyrchu trydanEgni solar

Mae trydan yn ffynhonnell egni gyfleus a gallwn ni gynhyrchu trydan mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan ddefnyddio naill ai tanwyddau ffosil neu dechnolegau adnewyddadwy a chynaliadwy.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Egni solar

Figure caption,
Peiriant tocynnau sy’n defnyddio pŵer solar

Mae egni solar yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan a dŵr poeth. Mae egni solar yn egni sy’n cael ei ryddhau gan yn yr Haul.

Celloedd solar (ffotofoltaidd)

Dyfeisiau sy’n trawsnewid egni golau yn uniongyrchol yn egni trydanol yw celloedd solar, a chelloedd ffotofoltaidd yw’r enw cyffredin amdanyn nhw. Efallai dy fod wedi gweld celloedd solar bach mewn cyfrifianellau. Caiff rhesi o gelloedd solar eu defnyddio i ddarparu pŵer ar gyfer arwyddion ffyrdd mewn ardaloedd anghysbell ac, ar raddfa fwy, ar gyfer lloerennau sy’n cylchdroi o gwmpas y Ddaear.

Paneli solar

Dydy paneli solar ddim yn cynhyrchu trydan – maen nhw’n gwresogi dŵr. Yn aml maen nhw’n cael eu gosod ar doeon adeiladau lle maen nhw’n gallu derbyn egni gwres gan yr Haul.

Diagram yn dangos sut mae panel solar yn cynhesu dŵr. Mae'r diagram yn dangos panel solar, pwmp dŵr, tanc storio dŵr poeth a boeler.

Mae dŵr oer yn cael ei bwmpio i fyny i’r panel solar, mae’n gwresogi ac yn cael ei drosglwyddo i danc storio. Mae pwmp yn gwthio dŵr oer o’r tanc storio drwy bibellau yn y panel solar. Mae’r dŵr yn cael ei wresogi gan egni gwres o’r Haul ac yn dychwelyd i’r tanc. Mae rhai systemau yn defnyddio boeler confensiynol i gynyddu tymheredd y dŵr.

Manteision egni solar

  • Adnodd egni adnewyddadwy heb unrhyw gostau tanwydd yw egni solar.
  • Does dim nwyon niweidiol sy’n llygru yn cael eu cynhyrchu.

Anfanteision egni solar

  • Dydy paneli solar ddim yn gweithio yn ystod y nos.
  • Mewn hinsawdd heulog iawn, efallai mai dim ond dŵr poeth iawn fydd paneli solar yn ei gynhyrchu, ac mewn mannau oerach, efallai y bydd angen defnyddio boeler confensiynol i’w hategu nhw.
  • Er eu bod nhw’n gallu cynhyrchu dŵr cynnes hyd yn oed ar ddiwrnodau cymylog, dydy paneli solar ddim yn gweithio yn ystod y nos.