Rownd 1 - Fforddolion v Glannau Teifi
Fforddolion v Glannau Teifi
Trydargerdd - Cyfarwyddiadau i athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi
Fforddolion
#carden@staffcyflenwi :Gwna’r desgie yn gyfleon, a cheisia, drwy chwys ein
disgyblion, nes i glwyd yr ysgol hon a’r walie droi’n orwelion.
Geraint Roberts - 9
Glannai Teifi
Mae'r tŷ bach ar waelod y cyntedd,
Cofiwch droi'r golau bant;
Peidiwch eistedd yn sedd y dirprwy,
Na byth droi eich cefn ar y plant!
Geraint Volc – 9
Cwpled caeth addas i’w osod wrth fynedfa siop sglodion
Fforddolion
Bola gwag? Rŷm ar agor!
Dere mewn, cei dir a môr!
Mari Lisa - 9
Glannau Teifi
Os am bysgod a sglodion,
Nid oes well - rhaid dewis hon.
Elfed Evans - 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Y gwneud, nid yr ennill, sy’n bwysig’
Fforddolion
Fe ddwedais wrth lunio fy limrig,
‘y gwneud, nid yr ennill sy’n bwysig’,
ond chefais ddim clod,
y marc isaf erio’d,
a diawl, ro’n i’n hynod siomedig.
Geraint Roberts - 8
Glannau Teifi
"Mewn Talwrn, neu unrhyw gêm ffyrnig,
Y gwneud, nid yr ennill, sy'n bwysig,"
Yw 'ngeiriau llawn ffydd
Os collwn ni'r dydd -
Ond O! rwy'n enillydd diawledig!
Carol Byrne Jones – 8.5
Hir a thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Mae ‘na wasanaeth mewn oes o weini’ neu ‘Mewn oes o weini mae ‘na wasanaeth’
Fforddolion
Cymundeb
Mae yno’n fisol yn gwirfoddoli
ei bâr o ddwylo i barhau’r addoli,
a throi i rannu fel gwnaeth ei rieni;
ac yn y gwin mae’r groes yn goroesi
a daw’r Un i’r ddau neu dri’n – gynhaliaeth,
mae ’na wasanaeth mewn oes o weini.
Geraint Roberts - 9
Glannau Teifi
(I gyfarch Gerallt Davies, Aberteifi, wedi iddo ymddeol fel ysgrifennydd Capel Degwel,
Llandudoch, Sir Benfro ar ôl cyfnod o 67 mlynedd yn y swydd, yn ogystal â bod yn ddiacon
a chodwr canu)
Mewn oes o weini, mae 'na wasanaeth
O rinwedd a nodwedd gwir genhadaeth;
Trwy gyfnod diddig, trwy brofedigaeth,
Ei Gapel Degwel oedd ei gymdogaeth,
A'i fyd, ei fywyd a'i faeth. - Yno o hyd
Ei gân a'i olud; yno'i gynhaliaeth.
Terwyn Tomos - 9
Triban beddargraff arwerthwr/arwerthwraig
Fforddolion
Fe werthodd fesul acer
ei henfro heb un pryder,
a'r henfro fwyn, gofalu wna'th
fod dwylath ar ei gyfer.
Dafydd Williams – 8.5
Glannau Teifi
Ei oes a roes i brisio,
I gynnig, a bargeinio;
Ond, wrth i'r morthwyl daro'r pren,
Mae'r fargen wedi'i selio.
Elfed Evans – 9
Cân ysgafn: Adnewyddu Castell
Fforddolion
"Cartref pob gŵr yw ei gastell"
Fe sylwodd Mari'r wraig un dydd, fod darn o'r staer â gwegiad,
a phan dynnais rhyw hen styllen fach nid oedd ond un canlyniad.
Efallai'i bod hi'n styllen fach ond lawr yn glep â'r cyfan
gan adael Mari'n fawr ei strach ar dop y staer yn sgrechan.
'Roedd carreg fechan yn fy ffordd i ddod ag ysgol ati
ac mewn un trawiad fach 'da gordd aeth pethau'n waeth -'na biti.
Daeth ffrynt y tŷ i gyd i lawr, a'r to'n ei ddilyn wedyn,
a’n teulu bach mewn gofid mawr heb le i fyw yn sydyn!
Byddai Cromwell yn cytuno, peth hawdd yw tynnu'i lawr
heb eisiau atgyweirio - dyna'r gwahaniaeth mawr.
Ches i ddim o'r cwmni 'swiriant, fe'i galwont yn "Act Of God",
ni allwn ddadlau'n bendant er ei fod yn honiad od.
Bu'r cynllunio'n hir ofnadw - fe aeth blwyddyn mwy neu lai -
ac fe allwch stwffo "Cadw" lle mae'r mwnci'n cadw cnau!
Bu'n rhaid troi ati f'hunan - fe gymrodd amser maith
a rhaid yw dweud yn fuan daeth pleser mawr o'r gwaith.
'Rol byw cyhyd mewn pabell - ein dau, y gath a'r ci -
(pabell â dwy ystafell - 'roedd un i'r ci a fi),
cawn ddychwelyd ymhen wythnos yn ôl i fyw'n y tŷ
wedi dysgu nad oes ysgol fel yr ysgol brofiad fu.
Dafydd Williams – 8.5
Glannau Teifi
Mae'r Arglwydd Rhys wedi danto; fe gododd e gastell neis
Lawr ar lan Afon Teifi - dim rhy fawr, dim rhy fach, jest y seis.
Ro'dd e'n barod erbyn Nadolig ac, er mwyn twymo'r lle,
Gwahoddodd e'i ffrindie i Steddfod, gogleddwyr a bois y de.
Er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yno, a phrinder dodrefn drwy'r wlad,
Roedd cadeiriau i ddau dalentog, ond safodd y lleill ar eu trâd.
Mi fuodd hi'n eisteddfod a hanner, digwyddiad i newid y byd,
Cymaint o lwyddiant, a dweud y gwir, maen nhw'n siarad amdani o hyd.
Ond a'th pethe o whith ar ôl hynny, a'r normaniaid wedd ar fai,
Fe ddethon nhw draw i drasho'r lle, ei losgi, a rhacso'r tai.
Doedd meibion Rhys yn fawr o help, wastad yn achosi trwbwl,
Yn cecran â'i gilydd o fore tan nos, nes iddyn nhw golli'r cwbwl.
Am oes o flynyddo'dd wedyn, normaniaid berchnogodd y lle,
Dim steddfod, dim telyn, dim canu cerdd dant a dim Cymrâg, bw na be.
A'th y welydd i edrych yn ddiflas, a bu'n rhaid eu propo nhw'n deit,
Doedd neb byth yn mynd i mewn i'r lle, 'mond y boi o'dd yn cwato rhag ffeit.
Ond, leni, roedd pethe fod newid, a theimlai'r hen Rhys lot yn well
O weld yr hen gartre ar newydd wedd, ar ôl bod a golwg mor bell.
Ond O! Dyna siom a gafodd, fe chwalwyd, diflaswyd ei fyd,
Dim ond cornel fach wedd ar ga'l iddo fe, a'r normaniaid "in charge" o hyd.
Carol Byrne Jones – 8
Ateb llinell ar y pryd – Ein lle ni yw llawenhau
Fforddolion
Dysgaist gwpledi’r desgiau,
Ein lle ni yw llawenhau.
0.5
Glannau Teifi
A Dwynwen yn un denau,
Ein lle ni yw llawenhau.
0.5
Telyneg mewn mydr ac odl: Treiglo’r Maen
Fforddolion
Treiglo’r Maen
“Ond, Mami, does dim yna!”
achwynodd yr un iau
ynghanol hyrddiau crïo
a chromen siocled frau.
Doedd honno ddim yn cyfri,
roedd lleng o’r pethau pŵl;
rhaid wrth yr anghyffredin
i droi’r di-nod yn cŵl.
Yn ôl yr amdo papur
warchodai gorff yr ŵy,
roedd hwn, er lleied ydoedd,
yn addo llawer mwy.
“Pwy aeth â’r cynnwys, Mami?
Fu lleidr yn y tŷ?”
Fe sefais yno’n gegrwth
heb allu’i hateb hi.
Mari Lisa - 9
Glannau Teifi
'Rôl treiglo'r maen, daw dechrau newydd
I flodau, llysiau, dail ar goedydd;
Dydd yn ymestyn a mwy o heulwen,
Haf ar y gorwel a dyddiau llawen.
Bydd arwyddion gobaith o'n cwmpas ym mhobman,
Ffair Calan Mai a'i dyddiau diddan;
Daw diwedd ar oerni a rhew y gaeaf
A'r ffermwr yn edrych ymlaen i'r cynhaeaf.
Ac i fi yn hen wraig daw gobaith newydd
O rifo'r wyrion, a'u cael nhw ar gynnydd;
Clywaf newyddion a rheiny'n llawn cyffro,
A minnau'n ail-fyw bod yn nain unwaith eto.
Carol Byrne Jones – 8
Englyn: Llaeth
Fforddolion
Ni a’r Ffermwyr
Gwyliwn bob ceiniog welw yn ein llaw,
heb weld lliw’r gwir elw,
nac anghyfiawnder chwerw
ein dwrn ni’n eu godro nhw.
Mererid Hopwood – 9.5
Glannau Teifi
Daw heno'n llawn daioni - i'w buro
Yn barod i'n porthi;
Ar y silff, ai gwir y si?
A oes arno flas surni?
Geraint Volc – 9
Cyfanswm
Fforddolion – 71
Glannau Teifi - 70













