Rownd 1 - Tanau Tawe v Caernarfon
Tanau Tawe v Caernarfon
Trydargerdd: Pennill mawl neu ddychan i Bencampwyr
Tanau Tawe
(Gwerthwyd hawliau enwi stadiwm hanesyddol Real Madrid, y ‘Santiago Bernabeu’, i lywodraeth Abu Dhabi)
Och erw chwedlau a chewri – werthir
Fel torth mewn rhyw gaffi ;
Rhoi am bres ei hanes hi
A’i dybio’n ‘Abu Dhabi!’
Robat Powell - 9
Caernarfon
#cândibennillfwyncon’
O roi’r gader i Ceri, er gwaetha’r brygowthan a’r rhegi, cefais, i feirdd tre’r cofi, y warant i’n haeddiant ni.
Llion Jones - 9
Cwpled caeth addas i’w osod wrth fynedfa gorsaf heddlu
Tanau Tawe
Yn awr, mae ein gorsaf ni’n
Hafan, os dioddefi.
Elin Meek – 8.5
Caernarfon
Hen lu hyfryd mewn lifrai;
Hoff, hael, hardd – and pigs might fly.
Ifan Prys ac Ifor ap Glyn – 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Nid oeddwn i wedi bwriadu’.
Tanau Tawe
Nid oeddwn i wedi bwriadu,
Eleni ymroi i gystadlu ;
Ond â Saesneg yn rhan
O’r awdl - dwi’n ffan!
Nid Alan sydd wrthi’n beirnadu.
Gruff Williams – 8.5
Caernarfon
Mae pawb yn y ty’n galarnadu,
yn crio, wylofain a nadu.
Nid oeddwn i wedi
bwriadu lladd Tedi,
Ond llofrudd wyf, does ’na ddim gwadu.
Geraint Lovgreen – 8
Gwawdodyn Hir yn cynnwys y llinell ‘Hawdd yw gwawdio ein hoes ddigidol’
Tanau Tawe
Hawdd yw gwawdio ein hoes ddigidol,
Ond hon yw euroes beirdd arloesol!
Dewr drydarwyr y dwrdio heriol,
Adar yr idiom chwyldroadol ;
I’r bin â’r ’sgrifbin a’r sgrôl! – Hed o’n llwyn
Awen y gwanwyn ar wib gwennol!
Robat Powell – 9.5
Caernarfon
Hawdd yw gwawdio ein hoes ddigidol
am roi diwylliant yn y fantol,
heb brofi gwres neges unigol
yn dod o’r ether yn lledrithiol
na’r diléit mewn siarad lol drwy’r rhwydwaith;
byw ydyw’r iaith yn ei byd rhithiol.
Llion Jones – 9.5
Triban beddargraff tatŵydd
Tanau Tawe
Addurnodd lawer calon,
Ysgythrodd ar sawl dwyfron ;
Fe ddeil i grafu yn y gwres
Am fusnes gyda’r meirwon.
Harri Williams - 9
Caernarfon
Ta-ta i ti’r tatŵydd,
tatŵiaist ymhob tywydd.
Ar lin dy Dad dy inc ni red;
tatŵied yn dragywydd.
Ifor ap Glyn - 9
Cân Ysgafn: ‘Y Daith o’r De i’r Gogledd ’
Tanau Tawe
A’m hiraeth yn drwm, penderfynais ryw noson
Droi adre am awyr ddi-lwch Aberdaron ;
Fel balm byddai’r daith, yn ddi-ffws a diffwdan
Ym mynwes drugarog angylion Ieuan!
Cael bws i Gaerdydd mewn ychydig dros awr
A synnu nad oedd hi’n awyren mor fawr,
Esgynnwyd i’r nef ar gyflymder cynddeiriog
A hedfan fel Gabriel dros Fannau Brycheiniog,
Ond pechod bod niwl dros Bumlumon Fawr
A’r hen Gadair Idris er craffu i lawr.
“Mae’r Wyddfa dan gwmwl” medd llais dros y ffôn,
A glaniwyd yn esmwyth ar dir Ynys Môn.
Ond diwedd y daith nid oedd! Rhaid cael tacsi
Ac aros am hydoedd ar faes awyr Fali
Cyn llusgo ymlaen efo’r ‘Clynnog and Trefor’
A hwnnw mor araf â malwen o dractor.
Hen fws drwy Botwnnog a’r Sarn o Bwllheli
A dyna awr arall cyn cyrraedd Bro Enlli ;
Mae dilyn bois Mansel yn gynt o beth gythgam
Na chyrraedd Pen Llŷn ar angylion Ieuan!
Harri Williams - 8
Caernarfon
Anghofiwch am Route 66 neu Highway 61,
Y ffordd sy’n dwyn fy nghalon i bob amser ydi hon:
yr A470 ydi’r ffordd sy’n arwain tua’r De
a dyma’r ffordd i mi bob tro i gyrraedd seithfed ne’.
Rhaid stopio ger Dolgellau, dim ots faint fydd hi o’r gloch,
mae’r goleuadau traffig yno’n saff o fod ar goch;
a phan ddaw’r golau gwyrdd dydwi fawr callach yn y bôn,
mae ’na wastad ail un coch yn disgwyl ganllath lawr y lôn.
Ar ymyl ffordd yn Ganllwyd mae ’na blant bach sbwci iawn
yn sefyllian yno’n gwenu yn fygythiol drwy’r prynhawn;
dwi’n meddwl mai eu bwriad ydi deu’tha’i slofi lawr
ond dwi ar frys i fynd i’r De ac ar y ffordd ers awr.
Mae’r siwrne’n mynd yn weddol ond yn sydyn ar y gorwel
dacw siâp cyfarwydd pen ôl un o loris enwog Mansel;
mae’n wincio arna’i’n gynnil ac yn deud “dilyna fi”,
fel tase gen i ddewis ond mynd ’mlaen ’run ffordd â hi.
Mae’r siwrne yn ddiddiwedd rŵan ar ôl pedair awr,
a hynny er y gwn i fod yr holl daith ar i lawr;
nid mater bach yng Nghymru ydi mynd o fan i fan:
ond fory fydda i arni ’to, a’r tro ’ma yn mynd lan.
Geraint Lovgreen – 8.5
Llinell ar y pryd – Yn y bws awn gan bwyll bach / yn y bws af gan bwyll bach
Tanau Tawe
Yn y bws awn gan bwyll bach,
Ni rwyfwn yn arafach.
0.5
Caernarfon
Yn y bws af gan bwyll bach,
Rhyfedd ei di’n arafach.
Telyneg mewn mydr ac odl (heb fod yn hwy na 18 llinell): Teras
Tanau Tawe
Fe safwn yma’n stwcyn bach
Dan chwip y gaeaf du,
Un llaw yn glyd ym mhawen Dad
a’r nall yn llaw Tad-cu ;
a’r ddrama hyd yr erw grin
yn curo’r cowboi ar y sgrîn.
Yn nosbarth y Sadyrnau gynt
Fe ddysgais fesur cic,
Tafoli gwerth pob maswr chwim
A phas pob mewnwr slic,
A geiriau’r athronyddol rai
Yn coethi addysg tyner glai.
Ond aeth ffraethineb coliar call
I ganlyn eco’r gwynt,
Fe dyf y chwyn a dant-y-llew
Lle safwn innau gynt,
Ac ar hen erw’r ddrama fu
Ni cheir ond chwip y gaeaf du.
Robat Powell – 10
Caernarfon
i’r strydoedd cymen hyn, daeth rhesi bechgyn
yn cadw’u patrwm megis cynt,
wrth groesi tir neb.
Mae canrif wedi ail-lasu’r tir
a chwythwyd mewn eiliadau gwaed...
rhidyllu’i ymysgaroedd... ffrwydro’i gnawd.
Bu’n gysgod i’r bechgyn rhag y storom ddur
a’r drysau tyweirch yn cau’n dawel ar eu hôl.
Daethant o strydoedd cyfyng cyffelyb.
lle bu corn y gad yn corlannu cyfeillion
ar gyfer y fenter fawr,
cyn i’r tai wincio’u bleinds
o un i un.
Heno, mae’r cerrig yn wyn fel esgyrn
a heulwen yr hwyr
yn naddu’r enwau’n berffaith,
yn bwrw cysgodion hir.
Ddaw neb i darfu ar ango’r cymdogion,
dim ond ambell ddieithryn,
o’r dyfodol nas cawsant,
yn craffu’n ddi-ddeall ar Braille yr enwau,
am fod y drysau i gyd ar glo.
Ifor ap Glyn - 10
Englyn: Gwarant
Tanau Tawe
Wedi'r Rhodd mae modd maddau, - y gwarant
A geir yn Ei eiriau
I mi, mor fawr fy meiau;
Yr rwyf yn edifarhau.
Iorwerth Mort – 8.5
Caernarfon
Grym athro yw gwŷr i'w meithrin - ac roedd,
yn y gwres yng nghegin
seminarau'r gwydrau gwin,
le i bawb yn Nôl Bebin.
Ifan Prys – 10
Cyfanswm
Tanau Tawe – 71.5
Caernarfon - 73













