Main content

Rownd 1 - Criw'r Ship v Llanrug

Criw'r Ship v Llanrug

Trydargedd: ôl-nodyn i unrhyw ddigwyddiad hanesyddol

Criw’r Ship
Yng nghefn y dorf ar Primrose Hill
Sibrydodd Dic yn daer wrth Wil:
"Dwi'm isio swnio'n rhy annheyrngar
Ond wyt ti’n saff nad ydi o’n nytar?”

Arwel Roberts - 8.5

Llanrug
Hwy oedd y garfan wahanol, - rhai od mewn brwydyr lofaol. Heddiw’n gywir
wleidyddol, dewrion ŷnt, daeth balchder ‘nôl.

Richard Llwyd Jones - 8.5

Cwpled caeth addas i’w osod ar drwydded yrru

Criw’r Ship
Wele, hawl i heolydd
Y D.U. Mwynhewch eich dydd.

Nici Beech - 9

Llanrug
Ar yr heol, gan bwyll yw’r her
be’ bynnag liw ein baner.

Richard Llwyd Jones – 8.5

Limrig yn cynnwys ‘Mae gen i datŵ mewn man dirgel’

Criw’r Ship
Mae gen i datŵ mewn man dirgel
Sy’n datgan “Dwi’n ♥ Bryn Terfel”.
I’ch synnu yn syn,
Mae un hefyd gan Bryn,
Yn fan hyn, sy’n dweud “Dwi’n ♥ Arwel.”

Arwel Roberts – 8.5

Llanrug
Mae gen i datw mewn lle dirgel
‘dio ddim dan groen botwm fy mogel,
‘dio’m yn llechu’n rhych tin
na thu ôl i’m penglin
ond mae’n gudd mewn lle cyfrin, diogel.

Dafydd Whiteside Thomas – 8.5

Hir a thoddaid yn cynnwys y linell ‘Ni ŵyr neb arall y n awr ein bwriad’

Criw’r Ship
Uniad un noson

Eisiau hallt yw’r syched am gysylltiad ,
a’r awchu ar ôl yr un edrychiad,
a’r winc fawr, cyn mynd i’r un cyfeiriad.
Ni ŵyr neb arall yn awr ein bwriad
ond ninnau. A chawn, wedi’n huniad, ddŵr
a’i rannu'n siŵr, cyn yr awn i siarad.

Nici Beech - 9

Llanrug
Ymson arweinydd rhyw blaid wleidyddol

Llwyth o helynt f’ai ennill etholiad
I ni’r rhai gweddw o argyhoeddiad.
Yn ddi-awydd, di-drefn, di-ddyhead
Yn dîm mor eiddil â dim ymroddiad,
Na synnwyr, na chwaith syniad, - fel lloi dall,
Ni ŵyr neb arall yn awr ein bwriad.

Dafydd Williams – 8.5

Triban Beddargraff: Newyddiadurwr

Criw’r Ship
‘Rôl oes o ysgrifennu
A ‘deadline’ heb ei methu,
Mae colofn wag ar ddalen dau
A thithau yn dy wely.

Arwel Roberts – 8.5

Llanrug
Drwy’i yrfa ar Y Cymro
teyrngedai’r meirw’n gryno.
Ac yntau’n farw nawr ei hun
doedd lun na gair amdano.

Dafydd Williams – 8.5

Cân: Siom

Criw’r Ship
Ers i mi basio’r hanner cant
Daw siom ‘rôl siom yn ddyddiol
Mae ‘nghoden bustl mewn rhyw fin,
Fy nau ben-glin yn symol,
A blewiach gwyn ddaw rif y gwlith
I gannu’r Arwel du yn frith.

Ond nid y corff yw’r unig beth
Sy’n raddol yn gwaethygu.
Mae’n niwlog braidd ger copa’r bryn
A’r cof bob dydd yn pylu.
Mae’n niwlog braidd ger copa’r bryn
A’r cof bob dydd yn pylu.
Dros nos, bron iawn, diflannu wnaeth
Fy ngafael ar y canu caeth.

Weithiau, ar ganol cerdd, heb unrhyw rybudd,
Dwi’n dechrau canu ar ryw fesur cwbwl newydd.

Ond mae un siom uwchlaw pob siom.
Pan ddaw’r cyfnodau eglur,
Dwi’n cofio’n syth am Gari Wyn,
Y cachwr wnaeth dro budur
Drwy rwbio halen mewn i’r briw
A ‘ngwneud i’r hynaf un o’r criw…

Arwel Roberts - 9

Llanrug
Wrth gerdded drwy’r drws mae hi’n fyd gwahanol,
A dyma fi eto ar f’ymweliad wythnosol;
Y cownter mawr pren yn sgleinio fel sofran
A rhesi poteli ar y silffoedd ym mhobman.

Ac ynddynt mae enfys o wahanol ddanteithion
Yn galw, yn galw am eu prynu’n anrhegion;
Love Hearts o bob lliw a gobstoppers anferth
A’r cyfan i’w cael am ddim ond ceiniogwerth.

Black Jacks a Pear Drops, Jelly Beans, Chilli Pips,
Marshmalo, Mint Humbug, Bon-bon, Cherry Lips,
A llu llygod siwgwr – yn binc ac yn wyn;
Bulls Eye sydd yn syllu o’u potel yn syn.

Fruit Gums, C’reia Licris yn barod i’w cnoi;
Does ryfedd mod i’n fan’ma yn dal i dindroi.
Powdwr Sherbert blas lemon yn felyn fel wy
I’w gario fo adra a’i fwyta ‘fo llwy.

Black Bullets, Dip Dabs, Lolipops o bob maint
Kola Cubes, Curly Wurly aiff yn sownd yn fy naint;
Mighty Imp neu Refreshers. Pa un o’r rhain?
Ond does dim yn fy mhoced ond dimai gan nain.

Dafydd Whiteside Thomas – 8.5

Llinell ar y pryd: Anodd iawn ar noson ddu

Criw’r Ship
Anodd iawn ar noson ddu
Yw gweled coes y gwely.

0.5

Llanrug
Anodd iawn ar noson ddu
Yw gweled erchwyn gwely.

0.5

Telyneg – Chwarae Cuddio

Criw’r Ship
(i ffrind sy’n dioddef o iselder ysbryd)

Rhyw ddiflannu’n sydyn wnaeth o, meddet ti,
fel briw yn ceulo neu gur pen yn cilio heb ’ti sylwi.
Dim ond mynd yn ddistaw fel gwlith

y bore gan d’adael dithau’n teimlo’n
“llawer gwell nag o’n i, diolch”. ’Dwyt ti ddim, bellach,
yn gobeithio marw er mwyn cael byw,

nac yn deffro i hunllefau yn y boreau bach.
Ond mae arwyddion eich cyd-orwedd chi
yn dal i loetran rhwng y stryd a’r sêr:

Fe glywi gloch last orders yn y ddiod gyntaf,
a diffodd y jiwc bocs yn nodau pob cân;
mae gwaed y machlud yn gymysg â gobaith

pob gwawr a weli, a chyn i ddail y gwanwyn nesaf gyrraedd
rwyt ti eisoes yn eu gweld nhw’n farw ar y llawr.
Achos er iddo ddiflannu a d’adael ar ôl,

rwyt ti’n gwybod o brofiad y daw o’n ei ôl.

Elis Dafydd – 9.5

Llanrug
Ar faes aml-bwrpas yr ardd gefn
mor amlwg oedd y cuddfannau.
Tu cefn i’r goeden afalau neu’r sied
llecha’r gelyn.
I’r heliwr,datblygwyd y grefft
o amseru’r darganfod
gan wybod bod llwybr esmyth, fanteisiol
yn ôl i’r man cychwyn
i hawlio’i fuddugoliaeth.

Yn anialwch Syria
amwys yw’r cuddfannau .
Â’r gêm yn diflasu
annos creu llwybr,
cynnal helfa a dosrannu bai.
Trodd amheuon yn ofn,
ac yn yr anialwch,
mae gwenwyn yn cuddio
sy’n chwarae a’n meddyliau.

Richard Llwyd Jones - 9

Englyn : Tafodiaith

Criw’r Ship
Hen eiriau,côf a chymeriad cenedl,
acenion ein gwead.
Prawf canrifoedd ein parhad,
heno ar fin diflaniad.

Gari Wyn – 8.5

Llanrug
Y mae’r heniaith mor wahanol, - yn gain
yn ei gwisg ranbarthol.
Esu, byt, ma’n r’aid ca’l sbo,
liwie yr acan leol.

Dafydd Williams – 9

Cyfanswm
Criw’r Ship – 71
Llanrug – 69.5