Main content

Rownd 1 - Tegeingl v Penllyn

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter,
heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Araith y Capten

Tegeingl
Gwenwch ar y Meuryn
Ddwywaith a cherdd wan.
Adroddwch ag arddeliad
Pwysleisiwch ambell fan.
Ac ymbiliwch gyda gwên
Ar y gynulleidfa glên.

Moi Parri – 8.5

Penllyn
Fy nhîm, rwyf fi yn credu
Yn llwyr yn eich prydyddu,
Fe heriwn bawb, dilynwch fi,
Y ni yw’r tîm i’w trechu.

Beryl Griffiths – 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw salwch, haint neu glefyd

Tegeingl
(Man Flu - Manwyd)

I wr dewr sy'm hanner da
Mae annwyd yn pneumonia.

Marc Lloyd Jones - 9

Penllyn
Yr awr pan syrth Eryri
Yw’r awr yr achubir hi

Gruffudd Antur – 10

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae unwaith yr wythnos yn ddigon’

Tegeingl
Dwi newydd gael falf yn fy nghalon
A newydd briodi a Sharon,
Mae hi'n hogan reit ffein
Ond dwi'n 79
Mae unwaith yr wythnos yn ddigon.

John Gruffudd Jones - 9

Penllyn
Mewn Cartref Henoed:…….

I alw ar “aelwyd atgofion”.
Mae unwaith yr wythnos yn ddigon
I alw ar “aelwyd atgofion”.
Bodloni wna un,
Ar ei gwmni ei hun,
Ac edrych ar lun o’i gyfoedion.

Aled Jones – 8

Hir a thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Mae lôn wahanol o ’mlaen i heno’ neu ‘O ’mlaen i heno mae lôn wahanol’

Tegeingl
Ymson Ffoadur

Mae lôn wahanol o mlaen i heno
ni wn ei chychwyn, na ble'r terfyno.
Dan gur fy antur, heb nabod unto
ym mil o lonydd, dan gur fy mlino.
Dan hiraeth, dwi yn herio - yn fy mhen
Er newydd wybren mae hen ddymuno.

Dafydd Efan Morris - 8

Penllyn
Yn araf daw'r haf a'i hin hydrefol
I lenwi dalen fy myd presennol.
Wrth gau ar ffenest parth y gorffennol
O ’mlaen i heno mae lôn wahanol.
Ni ddaw naws fy ddoe yn ôl, - mae y daith
A fu unwaith yn pasio'n derfynol.

Dylan Davies – 8

Triban beddargraff gyrrwr lori biniau

Tegeingl
Ar goll mae corff Wil Caca,
A'i sbwriel aeth i'r llosgfa.
Gwag yw ei fedd a'r cr'adur sy'
Mewn bin ailgylchu'n rwla.

Marc Lloyd Jones – 8.5

Penllyn
Rôl treulio oes yn gyrru
Ein sbwriel ni i’w gladdu,
Ar ei daith olaf y mae o
I’w sortio a’i ailgylchu.

Beryl Griffiths – 8.5

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Tîm Delfrydol

Tegeingl
'Rôl deugain nos o lawio mae peryg' colli parch
a phenderfynodd Noa gael Talwrn yn yr Arch.
Galwodd ynghyd yr adar, a'r pysgod mawr a mân
( Hold on: y pysgod hwythau tu mewn i'r garafan??)
Galwodd ynghyd y walrus, a'r 'mlusgiaid bach i gyd:
mi fynnai'r tîm delfrydol i dalwrn cynta'r byd.
Roedd y g'lomen yn ddelfrydol am ddod â darnau man,
ond tybed pa mor wreiddiol f'ai bôn a cheiciau'i chân?
A gwysiodd eliffantod, a chynnig lle'n y tîm -
eu croen yn ddigon trwchus i'r meuryn mwya 'mean'.
Mi alwodd y parotiaid, hen adar mawr eu pig,
a'r rheiny'n sionc a pharod i ateb ar y pryd!
Dewisodd wedyn ddurtur, a'i llais mor fwyn a chlir,
mi fyddai pawb yn hoffi ei chlywed yn y tir.
Roedd mwnci bach cerdd gocos yn rhwym o gael ei le -
ond tybed fod gwneud cywydd yn drechach tasg nag e
Am gr'adur o englynwr y chwiliodd Noa nawr
a methu gweld teilyngdod 'mysg holl gr'aduriad llawr.
Ac yna sylweddolodd mai rhaid oedd aros stŵr
a dathlu pryd y daethai Tegeingl mas o'r dŵr!

Dafydd Efan Morris- 8

Penllyn
Mae hanes yn y Beibl, os ydwyf wedi dallt;
Am ŵr a aeth yn wantan ar ôl cael torri ‘wallt!
A hyn fu sail i arbrawf ym Mhenllyn, calan Mai,
“O beth y gwneir barddoniaeth?”, ai gwallt yw’r deunydd crai?
Ai gwir yw bod cynghanedd yn cynnwys D.N.Ê.
A dyna pam fod prifeirdd a phob blewyn yn ei lê!!
Oes modd cael sain gadwynog o un glust i’r llall,
Neu wig mewn hir a thoddaid i guddio unrhyw wall.
Ar faes yr Urdd eleni, roedd beirdd ar hyd y lle
Am herwgipio Gruffudd, a dwyn ei D.N.Ê.
Daeth hyn i sylw’n capten, a galwodd bwyllgor brys,
“Rhaid inni glônio Gruffudd, rhowch im ei wallt, …a’i chwys….
…Gosodwch hwy’n ofalus mewn pair, neu grochan hud,
Ac ynddo feirdd tîm Penllyn, gorweddwch ar eich hyd.
Rhwbiwch y trwyth ANTURus ar bob rhyw damaid moel,
Anghofiwch Morus Ifans, fe aned Gruffudd Oel!
A hyn i chwi fydd arwydd:- Cans perlau ddaw o’ch ceg
Eich gwallt fydd frown a thrwchus, a’ch cerddi fynnant ddeg!
Ond, methiant fu yr arbrawf, aeth rhywbeth bach o’i le,
Ac enw’r tîm eleni yw…… Fifty shades of grey!!

Aled Jones – 8.5

Llinell ar y pryd - Aeth lori laeth lawr y lôn

Tegeingl
Aeth lori laeth lawr y lôn
I’r dwr o Aberdaron

Penllyn
Aeth lori laeth lawr y lôn
Yn wir am linell wirion

0.5

Telyneg (dim hwy na 18 llinell): Adduned

Tegeingl
Roedd dy falchder
Yn sglein dy fodrwy,
A'n gobaith yng ngwefr
Dy gusan.
Breuddwydion dau
Ym mreuder eu hieuenctid,
A'r adduned
Yn gwlwm o gariad.

Sut felly
Bu iti ddatod y cwlwm,
A gadael dim
Ond pwt o nodyn,
A'r halen
Yn fy nagrau i.

John Gruffydd Jones - 9

Penllyn
Wrth oedi ar y morglawdd yn flynyddol
Rhwng llynedd ddoe a ‘leni ein dyfodol,
Fe fwriwn drem yn ôl dros lif yr hyn a fu
Y llanw yn yr haul a’r trai dan gwmwl du.

Do, daeth cymylau beichus, llawn, i ferwi’r tonnau
A’n gadael ni yn giwed syn ar hyd y glannau
Yn ochain am y llanw aeth, a ninnau’n hepian,
Yn prysur wneud dim byd ond aros yn ein hunfan.

Wrth droi ein trem i edrych tua’r gorwel,
A’r tonnau’n codi eto gyda’r awel,
Ein braint ni’r gweddill ydyw’r cyfle i hwylio
A mentrwn ar bob llanw, doed a ddelo.

Beryl Griffiths – 8.5

Englyn: Cân

Tegeingl
“Blowin' In The Wind" - Bob Dylan, 1962.

Cân brotest yn ystod rhyfel Vietnam, sydd yr un mor berthnasol heddiw.
Bu dy alaw, Bob Dylan- n’ein hannog
I uno’n y gytgan.
Er i’r gwynt ailgylchu’r gân,
Ai ofer oedd y cyfan?

Marc Lloyd Jones - 9

Penllyn
Moelyci, Steve Eaves

Ym mlws y cwmwl isel – fe welaf
y foel ar y gorwel;
y smwclaw'n dyrnu'n dawel
a'r oerni mawr yn ymhel.

Gruffudd Antur – 9.5

Cyfanswm
Tegeingl - 69
Penllyn - 70