Rownd 1 - Crannog v Beca
Trydargerdd - jôc addas ar gyfer cracyr nadolig
Crannog
Beth wedodd y twrci yr hoffai fel presant?
Nadolig bach arall. Cwciwch y ffesant.
Hywel Rees - 8.5
Beca
Am ddwyn un calendr adfent yn Llunden
Fe gas y troseddwr pum niwrnod ar hugen.
Eifion Daniels - 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys yr ymadrodd 'iechyd da'
Crannog
I dras y Palas a’r Pen
Iekkyd da ac Ikk Dien.
Hywel Rees - 8
Beca
Wedi'r eistedd a'r gwledda
Yn eich tŷ boed iechyd da.
Eifion Daniels - 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell 'Mae rhywrai mor bigog â chelyn'
Crannog
Mae rhywrai mor bigog â chelyn
Ac eraill mor feddal â menyn,
Mae rhai yn feirniadol,
Rhai’n gynnil, rhai’n eiriol.
Sut un ydych chi, Mr. Meuryn?
Dai Jones - 8.5
Beca
Mae rhywrai mor bigog â chelyn,
Ac eraill fel iorwg ar fonyn;
O fod yn y coed
On’d gwell fyddai oed
Dan brysgoed uchelwydd ‘da rhywun?
Terry Reynolds - 8.5
Hir a thoddaid yn cynnwys y llinell 'Rhown ein hystyriaeth i'r un hen stori' neu 'I'r un hen stori rhown ein hystyriaeth'
Crannog
Yn ddoethion estron trown at y festri
Lle daw’r angylion o’r cefn i’n llonni,
Rhown ein hystyriaeth i’r un hen stori
A gwaed yr eiddil yn rhedeg drwyddi.
Tra bo Herod haws codi – y dwyfol
Yn ôl i ganol hen Ŵyl y Geni.
Idris Reynolds - 9.5
Beca
A’r byd dan gysgod gorthrwm herodraeth,
I’r un hen stori rhown ein hystyriaeth:
Yr un yw’r curo a’r wylo helaeth
Heno’n arwylion plant y marwolaeth
Yn Rama a Gasa’n gaeth. – Ple mae dyn
Na ddaw i ddilyn y ffordd ddi-alaeth?
Rachel James - 9
Triban beddargraff: Perchennog Siop Deganau
Crannog
‘Rôl leggo’i drwy’r gorffennol
Cei hedfan i’r dyfodol
Ar loeren Star Wars Super –plus
I’r Toys-R- Us tragwyddol.
Dai Jones - 8.5
Beca
Rôl edrych mlaen yn eiddgar
At elw'r tymor lliwgar,
Y Dolig ddaeth a'i ffwrn a'i wres -
Ac es i'r Crem yn gynnar.
Cerwyn Davies - 8
Cân ysgafn: Llythyr at Siôn Corn
Crannog
Dim ond gair bach i’ch atgoffa chi, Santa,
Na chês i fyth ateb i’r llythyr diwetha’,
Ac nid dyma’r tro cyntaf, cans coeliwch chi fi,
Mae’n haws cael ymateb o swyddfa B.T,
Bob tro rwy’n ffonio, mae ‘na yffarn o giw –
Rwy’n cael ateb yn syth pan rwy’n ffonio Duw.
Mae’ch musak tymhorol yn mynd ar fy wic
Ac mae ‘O deuwch fyddloniaid…’ yn cymryd y mic.
A phan, trwy wyrth nefol, y caf fi fynd trwyddo.
Boed fore neu hwyr, chi ar eich awr ginio,
Ac mae’r arthes bolar ar ben draw y lein
Yn gwneud Herod ei hunan i swnio’n ffein.
‘Sdim pwynt chwilio preseb y dechnoleg newy’
Gan bod chi’n mynnu byw lle mae I-pads yn rhewi.
Ystyriais y syniad o logi angel
I gludo’r newyddion drwy’r cymylau tinsel.
Es i gribo’n fanwl drwy’r dalenni melynion
Ond ‘roedd dim sôn am y math hyn o angylion.
Rwy’n methu deall pam rwy’n mynd i’r fath drwbwl
Cans rwy’n amau weithiau eich bob chi’n bod o gwbwl.
Idris Reynolds - 8.5
Beca
Santa, ‘rwyf yn anfon atoch,
‘Rwyf yn sibrwd yn eich clust,
Mawr yw f’angen, dyn sy’n gwybod,
Mae nghyd-Gymry imi’n dyst.
Ceisio’r wyf eiriadur modern
Sydd yn rhoi y geiriau i gyd
Fel na chaf i broblem bellach
I gynghaneddu’n goeth o hyd;
Gair am ‘combine’ fyddai’n handi,
‘Railings’, ‘squaddies’ a ‘car Park,
Waeth mae Brucie a’i eiriadur
Yn fy ngadael yn y ‘dark’.
Nid oes modd i’m blesio’r beirniad,
Ond och a gwae yw fy ystâd:
“Heb ei odl, heb ei awdlau” –
Dyna eiriau rhyw fardd gwlad.
Santa, os caf hwn yn anrheg,
Canaf fawl o’r tyre draw;
Hwn yn wir a wna ‘wahanieth’ –
A chaf gadair ddydd a ddaw.
Rachel James - 8.5
Llinell ar y pryd - Pwy â wyr beth sy'n para
Crannog
Wedi’r ŵyl yr hwyl a â’
Pwy â wyr beth sy’n para
0.5
Beca
Pwy â wyr beth sy’n para
O mor frau yw’r dyddiau da
Carol blygain ar yr un mesur ag 'Ar gyfer heddiw'r bore'
Crannog
O ddydiau’r hen broffwydi
Cyn ei ddod
Cyhoeddwyd am ei eni
Cyn ei ddod;
Ar daen fu’r stori flaena’
Yn drwch drwy wlad Jwdea
Â’i sïon am Feseia
Cyn ei ddod.
Am hyn bu’r hanes mwya’
Cyn ei ddod.
A Mab i Fair y Wyry
Ydoedd ef,
Yr Un a enwyd Iesu
Ydoedd ef,
Un aned yn Waredwr
I’r aflan yn ei gyflwr
I’w godi yn goncwerwr
Ydoedd ef.
Ond Crist y Tangnefeddwr
Ydoedd ef.
Rhown iddo bawb y fawlgan
Yma’n awr,
Mae’r Duwdod a fu’n Faban
Yma’n awr;
Cydunwn yn gymanfa
Yn unfryd heb atalfa
I seinio yr Hosanna
Yma’n awr.
Boed lawen Haleliwia
Yma’n awr.
Hywel Rees - 9.5
Beca
Cyn caniad ceiliog cynnar
Yn y glyn,
A nodau hudol ‘r adar
Yn y glyn,
Caed golau i’r bugeiliaid,
I’r oenig llesg a’r defaid,
A lloches i drueiniaid
Wrth y crud
Ym mreichiau’r Fam Fendigaid
Wrth y crud.
Y seren sy’n disgleirio
Dros y byd,
A lluoedd eto’n chwilio
Dros y byd
Am gymod a thrugaredd,
A chariad gwir heb ddiwedd,
Heb ryfel blin a chamwedd
Drwy’r holl fyd,
A heddwch a thangnefedd
Drwy’r holl fyd.
Awn felly’n dyrfa lawen
Fel o’r blaen
I weled yno’r baban
Fel o’r blaen.
Awn yno er mwyn canfod
O wirfodd y rhyfeddod,
Gwaredwr wedi dyfod
Yn y crud:
Y wyrth nad yw yn darfod
Yn y crud.
Eifion Daniels - 9.5
Englyn - Ffigurau
Crannog
Un gofeb o wynebau, – yn rhimyn
Seramig o flodau,
O ffos i ffos sy’n coffáu
Ōl y rhyfel â’u rhifau.
Dai Jones - 9.5
Beca
Ry'm leiafrif o'n rhifo - un am un
Mynnwn gael ein cowntio.
Ni'r tystion fyn brotestio
Yw'r rhif sy'n cyfrif i'r co'.
Wyn Owens - 9
Cyfanswm
Crannog – 71
Beca – 69.5













