Rownd 1 - Cŵps v Beirdd Myrddin
Trydargerdd: Neges yn diolch am anrheg Nadolig
Y Cŵps
Ymysg rhyw gant o bresante, – y rhain,
Yn rhwydd, oedd y gore,
A draw ar strydoedd y dre
Y mae sôn am y sane.
Iwan Bryn James - 8.5
Beirdd Myrddin
Yn fawr mae’r diolch am foron, – y gwin
sy’n gynnes i’r galon,
felly teg rhoi anrhegion
yn eich sach, yr eiddoch, Siôn.
Catrin Gwyn - 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw air o’r Almaeneg
Y Cŵps
Yf dy schadenfreude’n ffrwd,
Yna sobra, a’i sibrwd.
Huw Meirion Edwards - 9
Beirdd Myrddin
Tân yw'r glaw'n Abertawe
A llid y 'blitzkreig' drwy'r lle.
Margaret Rees - 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Un bore wrth ganu calennig’
Y Cŵps
Un bore wrth ganu calennig
Es heibio i Dyddyn Llwyncerrig
Lle ces i chwip din
Gan Saesnes fawr flin,
“It’s not Halloween,” meddai’n sarrug.
Geraint Williams - 8.5
Beirdd Myrddin
Un bore wrth ganu calennig
Nid arian a gefais ond cynnig
‘Da’r fenyw lawr lôn
I fwytho’n nhrombôn.
Ei gŵr, nôl y sôn, aeth yn lloerig.
Bryan Stephens - 8
Gwawdodyn hir yn cynnwys y llinell ‘Ai oen neu flaidd yw hyn o flwyddyn’
Y Cŵps
I David Cameron
Wrth dy glywed yn addunedu’n
Sgleiniog fel triog, taerai rhywun
Na ddaeth gogleddwynt ddoe i’th gladdu
Na phla dirwasgiad dioresgyn;
Ond, gyfaill, rhaid yw gofyn: yn y gwraidd,
Ai oen neu flaidd yw hyn o flwyddyn?
Huw Meirion Edwards - 9
Beirdd Myrddin
Haul olaf Awst sy'n dal i festyn
Ei ddyddie i'r Hydre'n belydryn,
Yn rhoi ei wedd yn ddwfn i'r priddyn
Ac i guro wrth ddrws blaguryn.
Daw i aeaf yn flodeuyn - hafaidd.
Ai oen neu flaidd yw hyn o flwyddyn?
Aled Evans - 9
Triban Beddargraff: Perchennog Tŷ Tafarn
Y Cŵps
“Stop-tap, bois bach” medd ynte
Fel gwnaeth ers cenedlaethe;
Ca’dd un cip ola ar ei watsh
A lawr yr hatsh yr aeth-e.
Geraint Williams - 9
Beirdd Myrddin
Bu’n ffrind a chlust i lawer
mewn cwrw, gwin a lager,
ond heddiw canodd Bell’s y llan,
ni ddaw byth lan o’i seler.
Meirion Jones -9
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Cais am Grant
Y Cŵps
Rocet Hael y Swyddog Grantiau, blaenaf, yn yr Ynys hon,
Diwylliedig a deallus, nid oes trwy y byd o’r bron
Neb yn well am drafod arian, a’i ddosbarthu gyda gwên,
Ti yw cawr y Cyngor Llyfrau. Rwyt yn arwr ym myd llên.
Mae gen i lyfr sy’n haeddu’th sylw, dyfnddysg, treiddgar, beiddgar, doeth,
Amlhaenog ac arloesol, mewn iaith firain, gywrain, goeth.
Bydd yn ennill Llyfr y Flwyddyn, yna’r Costa yn ei dro
Ac fe ddaw’r Nobel yn fuan ar ôl ei gyhoeddi O!
Ei destun fydd ein hawdlau cyfoes (heddiw’n oes ein cler di-dras).
Gyda’u Saesneg diedifar, gyda’u hiaith fasweddus, cras;
Cenir am rhyw drefi bychain, rhai di-nod ar fin y traeth
Ac nid pynciau sy’n teilyngu sylw craff ein canu caeth.
Ofer heddiw disgwyl awdl, a hi’n oes y prifeirdd claf.
Fel yr ‘Arwr’, ac ‘Eryri’, fel y ‘Lloer’ ac fel yr ‘Haf’.
Bydd y llyfr yn finiog, frathog, bydd yn addurn ar bob seld,
A bydd pob beirniad gwerth ei halen trwy’r bydysawd am ei weld;
Bobi Jones fydd yn ei ddarllen a’i ddyfynnu gyda pharch,
Alan Llwyd fydd wedi mopio, fe gwyd Morris-Jones o’i arch.
A phan ddaw’r gwobrau lu a’r moli, pan ddaw’r sylw, pan ddaw’r bri,
Parod fyddaf, Rocet annwyl, i rannu’r cyfan gyda thi.
Dafydd Morgan Lewis - 9.5
Beirdd Myrddin
Mae bywyd y Cymro yn fusnes reit ddrud,
Mae rhywbeth yn galw o hyd ac o hyd.
Ac felly gofynnaf dros Gymru a’i phlant,
Ei hiaith a’i diwylliant, a rowch imi rant?
Fe brynaf ei llyfrau, cryno-ddisgiau lu,
Ac ail-danysgrifio at bob cylchgrawn sy’.
Ei bwydydd a’i gwinoedd er nad ydynt rad
A rof yn y fasged er mwyn Cymru fy ngwlad.
Fe af i’r holl gemau, rhai adref a bant,
‘Steddfodau, cyngherddau a gwyliau cerdd dant.
Caf delyn a Volvo, six berth carafán,
A chlocsiau a chrythau er mwyn gwneud fy rhan.
Mae’r tŷ yn llawn Kyffins ac Aneurins gwiw,
Deuddarnau a seldiau ac ambell i sgiw.
Pob tlws gan Rhiannon, brethynau Tre-gwynt,
Cyfrolau Gregynog, y gwreiddiol nid print.
Fe ewn i’r Celt-wledydd i gyd yn eu tro
I wledda a dathlu a phrocio hen go’
Ond am flwyddyn nesaf, fe gododd fy chwant
Am dir Patagonia, felly plis ga’ i rant?
Meirion Jones - 9
Llinell ar y pryd – O ferw’r byd af i’r bar
Y Cŵps
O ferw’r byd af i’r bar
Yfaf yn ddi-edifar
0.5
Beirdd Myrddin
O ferw’r byd af i’r bar
A dof o ‘na’n eidfar
Soned Petrarchaidd: Gweddillion
Y Cŵps
Y mae yn Fflandrys arfau mawr o hyd
yn rhydu’n galed yn y gwynt a’r glaw,
sy’n peri’n y tawelwch fwy na braw
i’r rhai â chlust i wrando. Ond mae’r byd
ar frys, heb glywed holl dystiolaeth fud
yr holl sgrechiadau ofer sy’n eu taw,
a’r hyn sy’n denu’r bysiau mawr a ddaw
yw’r meini gwynion yn eu rhesi clyd.
Mae mwy na’r atgof o dan bridd y loes,
mae mwy nag amser nad yw’n gallu ffoi,
a mwy na phryfed genwair yn y llaid
yn rhoi sglein ar esgyrn. Ac onid oes
ym mêr y cyfan gydwybod sy’n cnoi?
A chnoi y bydd o, yn y glaw, o raid.
Dafydd John Pritchard - 9
Beirdd Myrddin
Cwter a geidw’r Uchaf rhag yr Isaf,
Cae ffwtbol yn dir neb oedd rhwng y ddau
Ac Aman ddaeth â'i dyfroedd i'n hiacháu,
Ei llif yn llif Gymraeg, pob ton yn sillaf.
Sedd gefn yr Hôl a'n galwai am y cyntaf
I ddenu’r gwenen bengoch mewn i’r ffau
A cherdded draw i'r Bridge cyn amser cau,
Gan geisio'n gorau glas i atal gaeaf.
Ond nid yw Bledd ar Hewl Cwmgarw mwyach,
Nac Alun wrthi’n crwydro’r waun a’r cwm.
Mae'r dyddiau fu yn gwmni, nawr yn bell
A phrin yw’r rhai sy'n gwarchod tref a llinach,
Yn cadw'r tân ynghýn mewn dyddie llwm
Gan wybod nad oes unman sydd yn well.
Bryan Stephens - 9
Englyn: Dathliad
Y Cŵps
I nodi’n priodas arian eleni [sef 2015!]
Dan bont dwy ganrif llifodd – yr afon
Yn gryf, ac os pwyllodd
Ei dŵr rhemp drwy’r glyn, fe drodd
Yn afon ddyfnach rywfodd.
Huw Meirion Edwards - 9
Beirdd Myrddin
Nadolig 2014
O stryd i stryd awn yn strach a llenwi
Holl lonydd byd masnach,
Heb weld yr un arwydd bach
O’i lety mewn lle tlotach.
Aled Evans - 9
Cyfanswm
Y Cŵps - 72
Beirdd Myrddin - 70













