Main content

Rownd 1 - Tir Mawr v Tywysogion

Tir Mawr v Tywysogion

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Datganiad Polisi

Tir Mawr
Trwydded lan yn lan ni fydd
Dan gysgod Ffedog Cigydd.

Huw Erith – 8.5

Tywysogion
Ar ôl cywain y dystiolaeth,
ymgynghori'n ffri
a mewnbynnu jargon,
fe sylweddolais i
nad oes digon o le ar Twitter
i wneud datganiad pol

Elis Dafydd – 8

Cwpled caeth yn dweud yr hunan-amlwg

Tir Mawr
Diau pe bai’n ddi-deiar
Ar herc wyllt symudai’r car.

Gareth Neigwl – 8.5

Tywysogion
Cwpled 'di hwn. Cwpled yw
yn dweud mai cwpled ydyw.

Guto Dafydd - 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Nid wyf yn gyfarwydd â Threfor’

Tir Mawr
Ymunais â’r band, ac mewn pwyllgor
Cynigiais ein bod ar egwyddor
Yn gwadd Band Deiniolen
A chael Noson Lawen:
Nid wyf yn gyfarwydd â Threfor.

Myrddin ap Dafydd – 8.5

Tywysogion
Wrth deithio ma heno o Fangor
Disgwyliais weld palmentydd marmor
A siop ar bob stryd
Yn gwerthu stwff drud.
Nid wyf yn gyfarwydd â Threfor.

Elis Dafydd – 8.5

Gwawdodyn Hir yn cynnwys y llinell ‘Ni, meddai rhai, sy’ pia’r awyr’

Tir Mawr
Mae’n eira yn nhrigfa ein Rhagfyr
A di-ddweud ydi’r hen doddeidwyr,
Ond mae awen tu hwnt i sgwenwyr
Yn rhoi i eiriau blu yr eryr
A daw’r hyderus yn drydarwyr Mai
Ni, meddai rhai, sydd piau’r awyr.

Myrddin ap Dafydd – 9.5

Tywysogion
Trydarwn!

O'r gangen wag sy'n brin o flagur,
Awn o i feysydd y glas difesur.
Codi o gawell y coed a'u gwewyr.
Ni meddai rhai sy' piau'r awyr.
Awn bawb i'r ffurfafen bur, – hŷn ac iau
i daro geiriau, dryw ac eryr.

Mei Mac – 9

Triban Beddargraff pysgotwr cimwch

Tir Mawr
Roedd gwymon yn ei wisgars
Wrth ddanfon i’r si-ffŵd-bars;
Mae yn ei arch fel roedd o’n fyw:
Mewn cap Huw Puw a wedars.

Myrddin ap Dafydd - 9

Tywysogion
Er iddo gwympo'n syfrdan
i ganlyn cawell trwstan,
mae'n gysur meddwl bod y dyn
ei hun yn abwyd rŵan.

Elis Dafydd - 9

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cynghorion Mam

Tir Mawr
Mae fy nannedd ‘di diflannu fel y niwl ar ddiwrnod teg
Am fy mod i wedi mynnu agor potia’ efo ‘ngheg
Ymbellhau mae ‘nhrwyn o’m llgada’ gyda bob un celwydd gwyn
Ac mae’r baw tu ôl i ‘nghlustia’n ddiarhebol erbyn hyn
“Paid ti byth a phriodi Saesnes!” gwaeddai Mam nes oedd hi’n las
Ar ôl ffraeo ‘fo Dolores es i lawr i’r pyb ar ras.
Mae sawl un wrth yfed cwrw yn cael tafod anferth gwyn
Ond fe gollais hanner hwnnw sbel yn ôl wrth lyfu tun
Mewn fflip-fflops fe faglais adra ar ôl llyncu wyth (neu naw ?)
Heb gap tolsyn, côt na festia’ i fy ngwarchod rhag y glaw
Es i bwyso switsh y teli er mwyn gwylio ‘Sion a Sian
Gan fy mod i wedi meddwi rhois fy mys i mewn i’r tân
Neidiodd gwreichion at fy nghlustia’ ac mi fyddent, garantîd
(petawn i ‘di bwyta ‘ngrhystia’) wedi crasu nghyrls i gyd
Des i’r ‘sbyty fel hen ddyfrgi’n dod i’r lan o afon ddofn
Wrthi’n diolch i Dduw fy mod i’n gwisgo dau drons glan (rhag ofn)
Yno’n sugno rydw i rwan ar y bawd sydd yn fy ngheg
Aeth y llall i drap llygodan pan yr o’n i’n unarddeg
Rydwi’n boeth fel wy ‘di ffrio, mae fy llaw fel lwmp o ham
O, pam uffar wnes i’m gwrando ar gynghorion doeth fy mam?

Gareth Neigwl - 9

Tywysogion
"Paid, wir, â phriodi dynes
sydd â chlusiau fel rhai dyn,
a phaid â thynnu cwyr o'th glust
efo pensal, fforc na chŷn.

Paid â thrystio pobl
sydd â llygaid sy'n rhy glos,
a chofia mai gwaed sipsiwn bach
yw'r lliw mewn candi fflos.

Mae pobl Fflint yn drewi,
Lladron yw pobol Llŷn,
Mae pawb o Aberteifi'n ddwl,
ar wahân i ambell i un."

A dyma'r math o bethau
a gefais drwy fy oes
yn gyngor doeth gan fam i fab
rhag i bethau fynd yn groes.

Hidiais fawr ddim am y cyngor
ond un peth ddysgais i
oedd peidio â phriodi dynes oedd
mor gul ei ffordd â hi.

Mei Mac – 8.5

Llinell ar y pryd – Does ond yr un Dewi Sant

Tir Mawr
Un dull ac un diwydiant
Does ond yr un Dewi Sant
0.5

Tywysogion
Ffolwch ar ddwyn a ffolant
Does ond yr un Dewi Sant.

Telyneg (dim mwy na 18 llinell): Egwyl

Tir Mawr
Pum munud bach ar draethell
Fin nos a’r môr yn llyn
Pan dariai’r hen drigolion
Wrth hel ail-wynt fan hyn.
Cyn sicred â’r penwythnos
Daw’r cannoedd fel sŵn glaw
Yn stido dros yr Abar,
Argoel o’r storm a ddaw.

Gareth Neigwl – 9.5

Tywysogion
Ar achlysur cyhoeddi Y Gwaith a'i Bobl, Robin Band

Fedra i ddim honni 'mod i'n dallt
cadernid y dynion hyn - chwarelwyr
fy llinach fy hun - nac yn amgyffred caledi

gwŷr y garreg oer, a ffrwydrai geiniogau cyndyn
o lymder a gerwinder y graig. Mi welaf
gynnyrch y gwaith mewn mynwentydd, ar balmentydd,

heb nabod y dynion a'i tynnodd o'r mynydd.
Ond rŵan, mi gaf weld y bobl, nid y gweithwyr:
oedi efo'r cymeriadau yn sbort eu seibiau -

wrth iddynt stopio am smôc yng nghysgod cwt,
wrth iddynt chwedleua dros frechdanau
ar ôl bore hir a hyll ar y graig lwyd.

Caf eu gweld yn nhynerwch garw tric a stori,
wedi'u hanfarwoli'n eu ffraethineb:
nid gwŷr y graig, ond gwŷr o gnawd a geiriau.

Achos rŵan, a'r cyflog prin wedi'i hen wario,
a'r ithfaen yn sets ar strydoedd y byd,
y straeon sy'n aros.

Guto Dafydd – 9.5

Englyn: Coron

Tir Mawr
Nid oedd, yn reddfol, yn dallt – ymgreinio
am goronau emrallt
eu Tŵr nhw; trwy wyn ei wallt
un iorwg oedd un Gerallt.

Myrddin ap Dafydd - 10

Tywysogion
Wrth ei hennill, ni enillwn na meirch,
na merched, na phensiwn:
ond mae hi'n alwad, mi wn,
ac, am oes, mae'n gomisiwn.

Guto Dafydd - 10

Cyfanswm
Tir Mawr - 73
Tywysogion – 71.5