Rownd 1 - Y Diwc v Ffoaduriaid
Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol) Broliant i Gaerdydd
Diwc
Sawl lliw a llun sydd iddi,
Sawl iaith a lifa drwyddi,
A braich y Tâf sy'n gwarchod
ysgwyddau fy Nghymreictod.
Elin Angharad - 8
Ffoaduriaid
Ai coch, ai glas, pa wa’nieth?
Gofynnwch i unrhyw ffan:
Ni waeth pa liw ein crysau,
mae gennym PermaTan.
Gwennan Evans - 8
Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw gân adnabyddus
Diwc
Onid tlawd heb nodau tlws
Dectant yw'r Benedictws.
Gwilym Williams - 8.5
Ffoaduriaid
O'i ôl o, nid yw'n rhy lwm
os deil ei Aberstalwm.
Llŷr Gwyn Lewis - 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n bwysig fod gennym ryw esgus’
Diwc
Â'i fochau a'i wyneb yn fregus
“Mae'n bwysig fod gennym ryw esgus”,
Meddai ef, nid yn hy,
Gyda'i ddau lygad du
Yn y tŷ roedd hi'n gwisgo'r ddau drowsus.
Carys Mair - 8
Ffoaduriaid
Os caf i fy nal heb fy nhrywsus
gyda Meuryn nid anadnabyddus
yn snortio cocên
rownd cefn Babell Lên…
mae’n bwysig fod gennym ryw esgus.
Gruffudd Owen - 8.5
Cywydd serch (heb fod dros 12 llinell)
Diwc
Yn ddistaw gwaedda’r awen,
Nid mewn gair, ond mynnu gwên.
Murmur fy mysedd heddiw
Yn hynod glir yn dy glyw;
Suo braich o gwmpas bron,
Anwes brwd yw’n sibrydion,
A chlebran ein cusanau
A ddwed gyfrolau am ddau.
Yn neges sgwrs ein llygaid
Onid rheg sy’n dweud bod rhaid?
Dewi Rhisiart - 9.5
Ffoaduriaid
Wna’i ddim anfon mohoni
liw nos hefo ngwylan i,
hel gwynt ar ei hynt, na’r hydd,
nac eos fach o gywydd
na gweu lasŵ golau sêr
i’w taenu’n gwrlid tyner.
Wna’i ddim anfon mohoni,
ond dod at dy erchwyn di
a rhoi crwth fy ngeiriau cry’
yn ei hylltod o’r neilltu,
ac yn dy wên, a’r lle’n llwch,
dal dwylo o dawelwch.
Llŷr Gwyn Lewis - 9.5
Triban beddargraff Arolygydd ei Mawrhydi
Diwc
Cest oes o bigo'n ddiball
Ar feiau rhywun arall;
Tro nawr i'r twrch i roddi cur,
Mae yntau'n gr'adur cibddall
Gwilym Williams - 9
Ffoaduriaid
Gostegodd gwynt a churlaw.
Maent fel pe'n difrif wrandaw
uwch pridd y bedd mewn hedd am un
sy'n Estyn heno'n ddistaw.
Llŷr Gwyn Lewis - 8.5
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Yr Ystafell Aros
Diwc
O'r diwedd rwyf i yma yn disgwyl am fy nhro,
Myn diawl mae gorfod aros yn gyrru dyn o'i go.
Ma' iwnifform reit ryfedd gan staff yr uned hon -
Y gwyn yw'r gwyn disgleiria a'r ffansi dress sydd lon.
Draw fancw, gŵr cyhyrog da clamp o lygad ddu,
O gymryd golwg pellach mae'n edrych fel da-cu.
Mae golwg od ar nacw, a beth sydd arno fo?
Dim cliw gen i ond dylai gael tsaen a chlamp o glo.
Wel dewch bois bach reit handi i'm tywys drwy y ddôr
Dw i'n dechrau colli 'mynedd – mae gen i 'marfer côr.
Boi ffwtbol, un o'r clybiau 'da pres, sydd ar fy dde
Yn crynu yn ei sgidia ond wn i ddim am be'.
A honna'r un o'r teli, hitha 'di llyncu pry
Ond synna'i fawr am hynny a'i llunie ar pêj thri.
Mae arwydd mawr yn fanna na chai ddim cynna smôc
Ond mwg sy'n treiddio'n ara o'r drws 'na, 'na chi jôc.
Hwre! y fi sydd nesa' ond troi y mae fy nghôl,
Nid Pedr ddaw i'm tywys – 'rhen Satan ddaeth i'm nôl.
Mererid Williams - 8.5
Ffoaduriaid
Ar noson dra stormus, daeth criw anghymharus
at westy reit ddestlus ar gyrion y dre;
pob un yn obeithiol y cai o ei ethol
fel aelod seneddol dros blaid asgell dde.
Roedd dyn homoffobig, brenhinwr ffanatig,
a smociwr asthmatig ac ambell i fôr,
doedd dim polisïau na lot o syniadau,
mond llwyth o ragfarnau a fflagiau San Siôr;
Dyn bach a’i gredoau yn syth o’r tridegau
a dreulia ei ddyddiau yn rwdlian mewn pynt
fu’n eistedd yn nerfus ger skinhead brawychus
fu’n drefnydd anhrefnus i’r National Front;
Llond Siop o gacs ffrwythau yn mynd drwy eu pethau
yn beio’u problemau ar bawb nad yw’n wyn,
a Chrypto-dorïaid ac Uber-Glarcksoniaid
yn taeru yn danbaid “bai Ewrop ‘di hyn!”.
Dewisodd y panel ryw rebel ffroenuchel
sy’n union fel Nigel yn glamp o gymêr
a gan bod o’n ddoniol, caiff bleidlais y bobol...
...gen i deimlad uffernol o ddrwg yn fy mêr.
Gruffudd Owen - 9
Llinell ar y pryd : Troi rwyf at dudalen tri
Diwc
Heno does dim amdani
Troi rwyf at dudalen tri
0.5
Ffoaduriaid
Troi rwyf at dudalen tri
Carwn weld bronnau Ceri
Telyneg (dim hwy na 18 llinell): Aderyn neu Adar
Diwc
A finne’n breuddwydio’r dydd,
daw’r rhein
nid yn acrobatig ond dan din
o unman a’n hala i wegian.
Yn sgrech erchyll
ar waelod y cwm,
yn aflonyddu nef a daear,
yn siglo co’d hyd eu seilie
a’r hen wirionedde.
Whare gêm o ddistryw
yn tawelu meddwl cadfridogion,
yn erthylu lloi.
Dala clustie, ongle’r jetie’n berffeth,
yn moelyd y meddwl.
Ein hofne ni yw eu hysbail nhw.
Martin Huws - 8.5
Ffoaduriaid
Daeth y ddrycin o nunlle i ysgwyd eu nyth.
Daeth yn slei; ei wynt yn drewi o ysbytai
a'i gesair yn hollti celloedd gwaed.
Cyn hynny buont yn byw
yn ddi-feddwl o freuder eu plu;
yn canu heb gyfri'r dyddiau.
Ond rŵan mae'r terfysg yna,
yn gysgod dros bob gwneud a dweud,
yn sŵn mud fel cwmwl o ddrudwy du.
Daeth y cywion adref.
Gwthiodd yr heth ei waeledd yn dawel
a dannedd y gwynt yn bygwth.
Mae eu fory yn blisgyn wy o frau,
yn batrwm brith drosto'i gyd.
Casia Wiliam - 9.5
Englyn: Ffoadur
Diwc
Gwareiddiad heb ddim gwreiddiau – a gerdda
Ag urddas ar lwybrau
O hafn eu poen a’u hofnau
I sŵn cwyn ein drysau’n cau.
Cywaith - 9.5
Ffoaduriaid
Mewn tir noeth, mentro a wnaf - i annog
y gwanwyn eiddilaf
i dorri'r rhew, a daw’r haf
o gawell oer y gaeaf.
Grufudd Owen - 9
Cyfanswm
Diwc – 70
Ffoaduriaid 70.5













