Main content

Rownd 1 - Tanygroes v Ffostrasol

Tanygroes v Ffostrasol

Trydargerdd: Molawd i’r Cardis

Tanygroes
Ein haddysg yw’n celfyddyd, ein hamaeth
a’n hiwmor yw’n bywyd,
ein bro a’i hiaith yw lle’n bryd
a’n gwehelyth yw’n golud.

Philippa Gibson – 8

Ffostrasol
Ni ddylent dderbyn anfri,
Ei breichiau byr sy’n peri
Nad yw eu dwylo’n medru dod
Hyd waelod eu pocedi.

Iolo Jones – 8.5

Cwpled caeth o groeso i unrhyw dre

Tanygroes
Arglwydd Rhys a’th dywys di
Hyd ‘Tŷ Haf’ Aberteifi.

Emyr Oernant - 9

Ffostrasol
I un ieuanc am newid
Dere am dro i Madrid.

Dai Rees Davies – 8

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Os ewch chi am dro tua Beulah’

Tanygroes
Os ewch chi am dro tua Beulah
Ar fore dydd Sul y Gymanfa,
Rhaid gwisgo’n drwsiadus
Sysbendars a gardys
A chau copis a rhai pethau fel ’na.

Arwel Jones – 8.5

Ffostrasol
Os ewch chi am dro tua Beulah
Efallai ewch ‘mlaen i’r lle nesa’
Sef pentref Bryn Gwyn,
Ond pam mynd fan hyn
Oherwydd does dim byd i ga’l na.

Jim James – 8.5

Hir a thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Ni wn i enwau y rhain yn union’

Tanygroes
Yn nyfnder fy mêr, mae hen bryderon
Daw rhyw gywilydd i ffrwydro’r galon.
Mae holl bwerau yr oriau byrrion
Fel môr yn agor llifdorau’r eigion.
A ddaw, fin hwyr, rwyfwyr afon angau?
Ni wn i enwau y rhain yn union.

Emyr Oernant – 8.5

Ffostrasol
Cefais fwynhad gan lu o gariadon, -
Un o Dre Gŵyr, sawl un o Dregaron,
Dwy yn llawn angerdd o dde Iwerddon,
A rhai o Cenarth ac Abercynon,
Rhywrai o Aberaeron, - a’r Creigiau
Ni wn i enwau y rhain yn union.

Dai Rees Davies - 9

Triban beddargraff briciwr/gosodwr brics

Tanygroes
Do, codaist lu o walie,
A’th drywel o mor ddeche;
Ail-bip a gei o’th gynnar waith
Ar daith i fyny’r simne.

Arwel Jones - 8.5

Ffostrasol
Drwy grefft ei sment a’i drywel
Dai gododd festri’r capel;
Ac os yw’r festri’n gam ei gwedd
Mae Dai’n ei fedd yn lefel.

Gareth Ioan - 9

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cynnig

Tanygroes
Rhoes gynnig am y wobor dydd sborts yn Nhanygroes;
Preis cyntaf: pâr o neilons am redeg ras tair coes.
Speed wobble oedd y broblem, cynhilio oedd y gamp
A pheidio mynd rhy araf, rhag dioddef effaith cramp.
Tri tîm oedd yn cystadlu, beirdd blaenllaw Cymru lân,
A’r diffyg fu cyn dechrau oedd cadw ar wahân.
Bardd trwm oedd yn cystadlu a Sat Nav yn ei gôl
A sbectol ar ei dalcen fan hyn werth byger ôl.
Ond paratoi fu hwnnw, roedd wedi gweld o draw,
I glirio’r dom ‘wrth redeg’ - roedd wedi dod â rhaw.
Tri tîm yn awr yn rhedeg yn hwylus ar eu hynt
A hawlfraint ges i redeg o’u blaen i dorri’r gwynt.
Ond heibio aeth tîm Crannog, a hynny heb ddim ffws:
Eu pennau moel o fantais oedd Id a Dewi Pws.
Roedd hei hîls gan un ddynes, a’u holion eto sydd
Yng ngelain tair gwahadden yn gorwe’ yn y pridd.
A medd Penrhiw, ’r ôl ennill, “Ein siomi eto cawn,
Am wobor ro’n yn rhedeg am breis o neilons llawn.”

Arwel Jones – 8.5

Ffostrasol
Mae’n bleser gen i heno a hynny ar awr wan
I gynnig gair o ddiolch i bawb ddaeth o bob man,
I’r rhai ddaeth o gryn bellter, o Plwmp mewn bws dau lawr
I glywed beirdd Ffostrasol a’u doethinebau mawr,
Sy’n sefyll tîm bach tila o ardal Tanygro’s
A’u gobaith yw cael ennill yn erbyn cewri’r Ffos,
Ta waeth rwy’n cynnig diolch a hwnnw’n ddiolch hael
Am fentro dod i’r Talwrn a hwythau’n gollwyr gwael,
‘Rwyf eto’n cynnig diolch i’r meuryn Ceri Wyn
Am roddi deg o farciau pan wêl e’ gân fel hyn,
A’r gwragedd wrth y byrddau, pob lluniwr sosej rôl,
Mae newyn ar yr awen, ond briwsion fydd ar ôl,
Ac os oes yma Brifardd a chadair fel comôd
Heb fod yn adnabyddus, wel diolch wir am ddod,
Cynigiaf ddiolch hefyd i’r rhai ollyngais mas
Anghofiais i eu henwi, y rhai a golwg gas,
Fe ddof a’m llith i derfyn yn gynnil, gynnil bach
Mewn gobaith caf ymadael o’r fangre hon yn iach,
Wrth cynnig gair o ddiolch rhof gynnig nawr i chi
I gynnig rhywun arall i eilio’n nghynnig i.

Emyr Davies – 8.5

Llinell ar y pryd – ces naw o bancos unwaith

Tanygroes
Ces naw o bancos un waith
Yffach fe gath gryn effaith
0.5

Ffostrasol
Yn hastys am orchestwaith
Ces naw o bancos un waith
0.5

Telyneg mewn mydr-ac-odl (dim hwy na 18 llinell): Papur

Tanygroes
Daeth amlen orswyddogol
I ddwylo’r fam a’r tad
Fod eu hepil wedi talu
Ei eithaf dros eu gwlad.

Fe roed y papur llwythog
Yn barchus ar y seld,
Fel medrai’r holl ymwelwyr
Gael teimlo’r ing o’i weld.

Mae’r papur yn melynu,
’Does modd ei ddarllen mwy,
Ond mae’r geiriau wedi’u serio
Ar eu calonnau hwy.

Ann Richards – 8.5

Ffostrasol
Fe gawsom , wrth gyd-gerdded,
Fwynhau ‘chwmnïaeth braf
A’i chlywed yn clodfori
Rhinweddau heulwen haf.

Ni wyddem am ei brwydr
Na’i gofid di-ben-draw
Nes gweld ei neges olaf
Ar ddalen wen gerllaw.

Emyr Davies - 9

Englyn: Ffens

Tanygroes
Rhag i fwystfilod ddifodi - fy ffau,
rhois fy ffens amdani
a bu’n gadarn ei harn hi,
ond treiddiai’r rhewynt drwyddi.

Philippa Gibson – 9.5

Ffostrasol
Ffens (Calais, Haf 2014)
DS: Y Pawl = The Pale of Calais – rhanbarth o Loegr ar dir Ffrainc tan gyfnod y Tuduriaid.

Swyn y wawr sy’n ei arwain – at Y Pawl,
At y polion hirfain;
Daw o raid ar bigau’r drain
I redeg at rwyd Prydain.

Gareth Ioan – 9

Cyfanswm

Tanygroes – 69.5
Ffostrasol - 70