Rownd 1 - Y Glêr v Tal-y-bont
Y Glêr v Tal-y-bont
Trydargerdd: (Hysbyseb gan un sy’n chwilio cariad (ar lun ‘Lonely Hearts Column’)
Y Glêr
Cymraes fach betrus, bitw
Heb geiniog gron i'w henw
A hoffai grymffast dewr yn ŵr -
Albanwr ciltiog. Thenciw.
Eurig Salisbury - 9
Tal-y-bont
D yn chwilio M am ambell noson mas, 40 i 90, 5ft 6 yn fras, dannedd yn
ddymunol, gwnaiff unrhyw wallt y tro, ardal Ceredigion, Blwch SP1O
Phil Davies - 9
Cwpled caeth yn cynnwys gair o’r Wyddeleg
Y Glêr
Brathiad draenen yw’r enw,
Er sŵn dawns y Róisín Dubh.
Hywel Griffiths - 9
Tal-y-bont
Bob yn dipyn, brethyn brau
y Gaeltacht a dry'n gwiltiau.
Anwen Pierce – 9.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Peth creulon o hyd yw cymharu’
Y Glêr
‘Peth creulon o hyd yw cymharu,’
Medd Edward wrth synied am garu,
‘Ond och! am gael dwy
Neu dair, neu fwy,
Am gêm ‘pwy ’di pwy’ yn fy ngwely.’
Osian Rhys Jones – 8
Tal-y-bont
Wedi’r gêm aeth Ceri i folchi’n
y gawod, ’da’r holl fechgyn rygbi.
Daeth eiddigedd i’w fron,
megis ton ar ôl ton –
peth creulon o hyd yw cymharu.
Phil Davies – 8
Gwawdodyn hir yn cynnwys y llinell ‘ Cloais y drws. Clywais y dryswch’
Y Glêr
Cloais y drws. Clywais y dryswch.
Rhyw newyddion am ddarnio heddwch.
Ond er troi’r sianel i dawelwch
A llenwi ’nhegell o annhegwch,
Te oer yw difaterwch. Diencil
Yw ’mhaned eiddil mewn dedwyddwch.
Iwan Rhys – 8.5
Tal-y-bont
Cloais y drws, clywais y dryswch
yn ias eilwaith, ynof fel salwch.
Ni allaf ynghanol tywyllwch
gau dy eiriau’n arch o dynerwch.
Nac eto, chwaith, lluchio’r llwch – a’th weled
dan ddaear galed, dan hen ddirgelwch.
Gwenallt Llwyd Ifan – 8.5
Triban beddargraff perfformiwr neu berfformwraig meim
Y Glêr
Cyflawnaist bob un weithred
Heb inni fyth dy glywed,
Ac felly 'leni, heb 'run smic,
Fe roddaist gic i'r bwced.
Iwan Rhys – 9
Tal-y-bont
Dim mwy o’r esgus llefen
na’r mwgwd trist a llawen.
Ei fenig gwynion drodd yn llwch,
tawelwch ddaeth drachefen.
Phil Davies – 8.5
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Araith Derbyn Oscar
Y Glêr
Gyfeillion, rydw i’n gegrwth (bron iawn cyn gymaint â chi),
Ni pharatois ’run araith, ac nid un i frolio ydw i.
Sioc yw derbyn y gong; dwi’n stiff fel dici-bo,
Ond dyma air am grefft; a ’niolchiadau, ’sbo …
Mae’n rhaid i’r prydydd aberthu, dyw’r clera ddim yn hawdd,
Y syllu, hir, myfyrgar, y cysgu yn y clawdd,
Yfed er lles y ddelwedd, methu cysgu heb y pils,
Yr angen i weithio job go iawn er mwyn cael talu’r bils;
Rhoi wythnos lawn bob ’Steddfod, cadw beiro ar glust,
A chyfri sillafau ar fysedd, fel pe bai pob Cymro’n dyst.
Hoffwn roi teyrnged i’r Awen a’r Traddodiad ar ei hyd
Nid bychan pob bardd bach a hwnnw uwch beirdd y byd …
I’m dylanwadau pennaf, Dafydd ap a Thudur Penllyn,
T.H., Aneirin (nid Karadog), Waldo ac ambell feuryn;
I’r wraig, dau o’r plant, fy rhieni, a’m ’sgodyn anwes, Jimmy:
A neb yn llai na’r Best Lead blynyddol Eurig Salisbury.
Ni ches na Chadair na Choron, ond nid yw’r bardd yn dal dig,
Dyma uchafbwynt gyrfa, dyma fi wedi cyrraedd y brig …
Codwch eich gwydrau yn uchel, yn llawn siampên Moët:
A rhowch lwncdestun o’r galon i’r Best Supporting Poet.
Osian Rhys Jones – 9
Tal-y-bont
O lyfi dyfis annwyl, rwyf dros y lleuad, wir.
Rwyf hefyd yn fy seithfed nef, mae ’nhraed i bant o’r tir.
Fi wedi cael fy nhiclo’n binc, fy nghwpan sydd yn llawn,
rwy’n diolch i chi un ac oll am anrhydeddu’m dawn.
Mae dagrau o lawenydd yn llenwi’m llygaid i,
a’m calon bron â bosto o gariad atoch chi.
I bawb o’r tîm cynhyrchu rof swsys rif y gwlith,
a’r fenyw golur ddawnus am cuddio’r locsyn brith.
I bawb o’r criw goleuo, a’r bechgyn sain di-ffael,
a’r fenyw wardrob, sws, sws, sws am wisgoedd heb eu hail.
I mam sy’n gwylio gartre, chi werth y byd i gyd,
a dad, sydd wedi’n gadael, dowch ’nôl o ben draw’r byd.
Ond mae fy niolch pennaf i Dduw – y pensaer mawr,
Efe sydd yn gyfrifol fy mod i yma nawr.
Go brin a y baswn heno yn sefyll yn fan hyn
heb gymorth y Goruchaf a wnaeth fy nghroen yn wyn.
Phil Davies – 9
Llinell ar y pryd: Ni all y llwch ddal Bwlchllan
Y Glêr
Ni all y llwch ddal Bwlchllan
Ein hanes oet dy hunan.
0.5
Tal-y-bont
Ni all y llwch ddal Bwlchllan
E gof yw Cymru gyfan.
0.5
Telyneg mewn mydr ac odl (dim hwy na 18 llinell): Annibendod
Y Glêr
Pan fydd y llyfrau’n daclus
A’r lego yn y bocs,
Y lliwiau wedi’u cadw
'Da Cyw, y clai a’r blocs,
Bydd trefn ar fywyd fel o’r bla’n
Ar soffa fach y lolfa lân.
Ond gwag yw’r carped moethus,
Mae bylchau ar y llawr,
Tawelwch yw’r taclusrwydd
Heb sŵn y chwarae mawr,
A dim ond sibrwd ana’l ddofn
O’r radio bach sy'n lleddfu’r ofn.
Hywel Griffiths – 9.5
Tal-y-bont
Ar hyd y llawr mae pentwr blêr;
penillion o bob math,
pob ymgais anobeithiol,
yng nghanol piso’r gath.
Mae ambell gerdd mewn mydr
sydd weithiau’n odli, wir,
ond dros fy ysgwydd aethant
fel pob gwawdodyn hir.
Yng nghanol y peil papur
ceir perl o bennill coch,
ond nid yw hwnnw’n addas
i’w daflu o flaen moch.
I mewn i’r bin â’r englyn
ac ambell limrig gwych
cans beth yw’r iws eu gyrru
at Feuryn diflas, sych.
Phil Davies – 8.5
Englyn: Cartŵn
Y Glêr
'Na dramgwydda Mohammed!' meddai'r rhai
Sy drwy waed yn cerdded
Ar lan y Seine greuloned
A chŵn croch yn enw cred.
Eurig Salisbury – 9.5
Tal-y-bont
O’u herlid fesul darlun – Ei ddelwedd,
ar ddalen ysgymun,
trodd bwled yn inc wedyn,
poer a gwaed ar bapur gwyn.
Anwen Pierce – 9.5
Cyfanswm
Y Glêr - 72
Tal-y-bont - 71













