Rownd 1 - Aberhafren v Tir Iarll
Tir Iarll v Aberhafren
Trydargerdd: yn cynnwys o leia un esiampl o gyfieithu gwael o’r Saesneg i’r Gymraeg
Aberhafren
#TwllynywalAber
Am ddim yw dim, caf godiad yma.
Y mae peryg na wnaiff o’m para.
Rhys Iorwerth - 8.5
Tir Iarll
(Mae’r isod oll i’w canfod mewn lluniau ar y twitter)
Pan fydd golau coch sioeau
aros yma, ger y derbyniad,
ond meddwl eich cam, neu dim cofnod;
i’r pornau, am ddim cewch y codiad.
Cyfieithiad er budd y meuryn....
(When red light shows
Wait here, by the reception,
But mind your step, or no entry.
For the aches and pains, free cash withdrawal.)
Aneurin Karadog - 8
Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw gôr adnabyddus
Aberhafren
Down i heulwen rhyw benrhyn
a mynnu gweld fod man gwyn.
Mari George - 9
Tir Iarll
Nid clod yw nod caledwaith:
Côr y Cwm sy’n carco iaith.
Emyr Davies - 9.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Nid oedd gen i ddewis, rwy’n ofni’
Aberhafren
Nid oedd gen i ddewis, rwy’n ofni,
ond swingio fel Tarzan drwy Sgeti
o bolyn i bolyn
yn hollol noethlymun;
maen nhw’n dweud ca’i ddod allan eleni.
Llion Pryderi Roberts - 8.5
Tir Iarll
Honiadau di-sail a baldorddi...
arweinydd pob plaid sy’n gelwyddgi;
ond am urddas a moes
Nige Farage haedda ‘nghroes,
nid oes gen i ddewis rwy’n ofni.
Dafydd Emyr - 8
Hir a thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Gwaeth rhoi gwrogaeth na chael dy grogi’
Aberhafren
Y drwydded yrru
Ar dy drwydded, onid brad yw rhoddi
nod y deyrnas, stamp Prydeindod arni?
Gwaeth rhoi gwrogaeth na chael dy grogi
ac â dicter parod, mynd â chodi
deiseb yw ein hateb ni. Byw’n ddiddos
yn sŵn ein beiros a ninnau’n berwi.
Rhys Iorwerth - 10
Tir Iarll
Nawdd
Mor barod oeddwn, mor browd o weiddi
‘Gwaeth rhoi gwrogaeth na chael dy grogi’;
Yna, er adrodd â’r fath wrhydri,
Ymysg clustogau neuaddau’r noddi
Llithrodd angerdd o’r cerddi – yn raddol,
A gynnau heriol y gân yn oeri.
Emyr Davies - 10
Triban Beddargraff - adarydd
Aberhafren
Dilynodd yr ehedydd,
y dryw a’r hebog mynydd
i’r wybren glir tu hwnt i’r bedd
o’r diwedd ar adenydd.
Owain Rhys - 9
Tir Iarll
Chwi’r pâl, jibinc a’r nico
daeth f’amser i ffarwelio:
ˈmond dros dro, mae’r tymhorau’n hael
a dyw ˈmadael ond mudo.
Dafydd Emyr - 8
Cân rap (heb fod dros 20 llinell): Cwyno
Aberhafren
Y ni sy'n trydar, llawn angst, y lleisiau llafar
llawn barn, a'n cri ryfelgar, y ni aflafar
sy'n tagu, sydd am ysbaddu, pob un yn llawn gwatwar,
yn pigo'i friw, wedi bod drwy coleg, yn un o'r criw,
JMJ neu PantyK, y ni mor driw, ni yw'r bois sy' bia'r lle,
'C'mon, gwylltiwch e', 'Dewch, pawb i'w wylltio e'
nes fod dim ar ôl, dim ond roc a rôl,
a ni y rhai hawddgar, y ni sy' mor weithgar, y ni yw'r rhai llengar.
Dewch - da ni'n cwl, mynd wastad i'r cwrdd neu'r carchar,
neu'n achub y ddaear, yn sgwennu i Barddas, io,
dim ots am fe neu fo, neu fynd mas o'n co',
da ni'n hip, cawn ni ein ho's, down yn ôl, beth bynnag bo,
down nôl, awn nôl i'n pybs eto, ni yw'r beirdd ar wasgar
sgwennwn gerdd am y foment, y foment, neu golli,
ymgolli mewn cerdd, yn y foment, a chofio ei phŵer hi
mae un tro gen ti, un tro, paid gadael o fynd, ti biau fo, chei di'm 'to
cyfle i’w ddweud-o, cei di ddihuno, dweud dy farn yn gryno,
mae'r talwrn yn gwrando, a’r meuryn yn rapio i dy gerdd
am ynys werdd, yn llawn angerdd, am newid byd, o hyd,
ond wnei di byth wneud dim byd amdano, ’mond cwyno.
Owain Rhys - 9
Tir Iarll
Yn syth o gapel y crwys,Fi’n byw jest ar bwys, jyst bod ghetto fi yn lot mwy dwys,
nid bo fi moyn swnio fel Rhys Mwyn, Ond rhaid i fi gyfadde,mae gyda fi gwyn,
Ma na bobl yn ein gwlad sydd yn mynd reit lan fy nhrwyn
Mae pobol cymru i gyd o dan swyn pobl sydd yn dwyn ac yn cysgu mewn llwyn!
Ie Beirdd, ie beirdd, maen nhw’n meddwl eu bod nhw’n heirdd,
Dylen ni gloi nhw mewn amgueddfeydd, Ie Beirdd
Fel Eurig Salisbury, yn brydydd burberry A gwallt fel Gavin Henson
Mae e’n suave fel Jenson Mae’n neud i fi eisiau estyn am y bensons
Gruffudd Antur sydd ddim yn exciting,adventure? Mae e mor boring?
Ceri Wyn, I mean pwy yw e? Mae e mor lazy,mae bob tro angen chair
A fe, Tudur Dylan, mor hollol dull, man!
Beth sy’n waeth na bardd yw un hardd a llawen,Mari George a Karen Owen
O’r Glêr i Aberhafren, wy’n poeri ar eu hawen ac ar yr holl feirdd o’r gogledd
sy’n dod a’u cynghanedd yn siarp rhwng eu dannedd i mewn i Gaerdydd,
Ond y rhai gwaethaf yw’r rhai’n yn canu’n rhydd,
A’r gwaetha ohonyn nhw i gyd, y gwaethaf yn y byd,
yw Aneurysm Karadog, a’i gerddi’n gwaedu yn fy mhenglog
Dwi am fynd ar talwrn, i godi fy nwrn Mae ‘na feirdd sydd yn fwrn,
dwi eisiau rhoi nhw yn y ffwrn! Peidiwch gadael i fi ddod i drafod pob eisteddfod
Alla i’m neud pen na chynffon, maen nhw’n union fel mwydod!
Aneirin Karadog - 9
Ateb Llinell ar y pryd – Y mae y tu ôl i’r mur
Aberhafren
Diolwg bob tro’r dolur
Y mae y tu ôl i’r mur
0.5
Tir Iarll
Y mae y tu ôl i’r mur
Hen agolau go aneglur
Telyneg: Arfer
Aberhafren
(Angladd ffrind)
O rwyg y lôn, ac o’r glaw,
a dialedd dialaw
yr oerwynt uwch Eryri,
roedd yn hawdd ein hyrddio ni
i fan nad oedd fyth i fod –
hud eurferch wedi darfod,
dwy un fach i’w tad yn fur,
a’i gesail yntau’n gysur.
Yna mudan ymadael
i awyr las perl o haul,
a’i lliwiau hi’n llenwi’r lle,
o winllan Dyffryn Nantlle
hyd Arfon ac Eifionydd,
i’r fan hyn. Ar derfyn dydd
eiddo dwy fydd hud dy wên
a’th alaw dithau, Olwen.
Owain Rhys - 10
Tir Iarll
‘Good morning,’ medd dieithryn,
‘Nice weather,’ yw’r ateb ddaeth,
a’r ddau, drwy’r sgwrsio wedyn,
i’r siarad main yn gaeth.
Siarad heb deimlo’r geiriau,
straffaglu’n ddiarth, ddall,
heb wybod eu bod ei gilydd
yn gallu iaith y llall.
Tudur Dylan - 9.5
Englyn: Pregeth
Aberhafren
Yn rhy fyddar y rhof iddi naw wfft
o dan haul a glesni
haf o hyd. Ond clywaf hi
fin hwyr, a finnau’n oeri.
Rhys Iorwerth - 9.5
Tir Iarll
(Y Parchedig Gapten John Williams, Brynsiencyn)
Ewch â gwên, ewch â gynnau – yn enw’r
Un Oen, rhoi’ch bywydau
I Dduw Nef yn fyddin iau,
Ewch i ladd â chelwyddau.
Tudur Dylan - 10
Cyfanswm
Aberhafren - 74
Tir Iarll - 72













