Rownd 1 - Ysgol y Berwyn v Hiraethog
Trydargerdd: ‘Neges yn esbonio gohirio rhyw ddigwyddiad’
Ysgol y Berwyn
Er gwthio, chwythu a thaflu abuse,
Er gwasgu llaw'r gwr nes yn biws,
Er gas and air
Er gweld ser.
Doedd dim yn gweithio.
Stopio.Bodloni#sorimam
Lois Jones - 8
Hiraethog
(Roedd gen i gerdd o’r galon
am Santes y Cariadon,
ond daeth gorchymyn i’w dileu
gan rhyw hen Feuryn creulon.)
Roedd cawod fach o eira –
fel bydd ’na yn y gaea’ –
yn esgus i rai gadw draw
gan nad oes rhaw’n Y Bala.
Eifion Lloyd Jones - 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys cymhariaeth
Ysgol y Berwyn
Oriau mud fel eira mawr,
Hoel rhaniad fel rhew Ionawr.
Arwel Emlyn Jones - 8.5
Hiraethog
Onid yw breuder y dydd
Fel tirlun mewn llyn llonydd?
Ffion Gwen - 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae medru dwy iaith yn ddefnyddiol’
Ysgol y Berwyn
Mae medru dwy iaith yn ddefnyddiol
I Brifeirdd ein hawdlau cadeiriol
ac fe ddwed Ceri Wyn
“you’ll be odds on for a win
for writing fel hyn is gwefreiddiol.
Erin Prysor - 8
Hiraethog
Mae medru un iaith yn hanfodol
Os wyt ti o anian barddonol;
Ond os darlleni
Awdl Llanelli
Mae medru dwy iaith yn ddefnyddiol.
John Glyn Jones – 8.5
Gwawdodyn Hir yn cynnwys y llinell ‘O! am aros o fewn ei muriau’ neu ‘O! am aros o fewn y muriau’
Ysgol y Berwyn
Daeth i ben Amen ac emynau
a ddoe gwelwyd diffodd y golau
a’r di-ras yn cloi’r drysau – aeth yn nos.
O am aros o fewn y muriau.
Arwel Emlyn Jones - 8
Hiraethog
Breuddwyd plentyn
Byw ar aelwyd sydd heb reolau
le bydd bob awr yn awr o chwarae,
bob dydd yn Wyl, yn amser gwyliau,
newydd o hyd ei ryfeddodau;
digonedd o deganau ddydd a nos;
O am aros o fewn ei muriau!
Rhys Dafis - 9
Triban beddargraff: Casglwr Trethi
Ysgol y Berwyn
Fe fynnodd dreth ar gwrw
A threth ar unrhyw elw,
Ac yn ei arch y mae’n ddi-feth
Yn mynnu treth am farw.
Delyth Humphreys - 9
Hiraethog
Fe ddaliaist rai fu’n ffidlo
A’r giamstars fu’n gor-hawlio,
Trueni nad oes gwobrau hael
I’w cael o dan yr amdo.
Gwenan Prysor – 8.5
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Fy Awr Fawr
Ysgol y Berwyn
Ar brynhawngwaith braf o ha’ hirfelyn tesog
Fe welais i lestr yng nghanol y mwsog.
Fe’i codais yn araf a’i rwbio a’m dwylo,
Yn sydyn fel fflach daeth tylwythen ohono.
‘Hawddamor Fonheddwr’ meddai wrthyf a gwen
Cei un dymuniad, dwi’n dylwythen fach glen.’
Wel dyma fy nghyfle, allai’m canu ru’n gan
Dwi allan o diwn ac yn swnio fel bran.
‘Reit’ medda finna,’dwisio canu fel angel,
Llais fel Rhys Meirion neu o leia Bryn terfel.’
‘Be?’ meddai’r dylwythen,’be ti’n feddwl ydw i,
Mae troi bran yn eos y tu hwnt i mi.’
‘Dewis eto’, ac er mod i’n teimlo’n ddigon pig,
Dywedais ‘reit dwisio i Lerpwl ennill y lig.
Edrychodd y dylwythen am ennyd di synnu
Cyn dweud ‘ Dwi’n meddwl awn ni’n ol at y canu!
Huw Dylan - 9
Hiraethog
Mor ffyddiog yr oeddwn fod f'awr fawr ar ddod,
Lle byddwn yn derbyn canmoliaeth a chlod
Am gân oedd yn gampwaith - yr orau o'i bath,
Ond 'rôl brathu 'nhafod, di'm yn thwnio run fath.
Ythywaeth, darllenaf fy thoned i chi,
('Di ddim cweit yn thoned, tho what, dyma hi:)
"A glywthoch chi haneth yr arthwyduth gath?
Nid cath fach gyffredin oedd hon, ond cath gath..."
(Rhaid thtopio'i egluro yr ail gath, mor thori,
Nid cath 'gath' fel pwthi, ond 'cath', ath in 'nathdi'.)
"A glywothoch chi haneth yr arthwyduth gath?
Nid cath fach gyffredin oedd hon, ond cath gath.
Nid cothi a wnai'r gath fach gath hon, ond thgrabo..."
('Cothi' fel ticlo, nid Cothi'r thoprano).
"A thgrechian wnaeth Joni neth colli ei laith..."
('Llaith' y thŵn tharad, nid gwlyb/thocian 'llaith').
Mae'n rhaid i mi thtopio ac aberthu'r thgôr,
Ar ôl i mi'i brathu, mae'n nhafod mor thôr.
Ac am 'fy awr fawr i', doeth gen i ddim gobaith.
Amtheru anffoduth roth fi dan anfantaith.
Gwenno Davies – 9
Llinell ar y pryd – Es ar goll dan y sêr gwyn
Ysgol y Berwyn
Es ar goll dan y sêr gwyn
Daliaf o hyd i’w dilyn
0.5
Hiraethog
Es ar goll dan y ser gwyn
A sadio’n eitha sydyn
Cerdd mewn mydr ac odl (dim hwy na 18 llinell) a fyddai’n addas i’w chanu wrth hel calennig
Ysgol y Berwyn
Daeth eto flwyddyn newydd
Dymuno wnawn i chi
Pob bendith a hapusrwydd
Os rowch yn hael i ni.
O rhowch yn hael i ni,
O rhowch yn hael i ni,
Cewch fendith a hapusrwydd
Os rhowch yn hael i ni.
Mae rhoi yn well na derbyn
A dyna yw ein can,
Does fawr o fudd na bendith
I’w gael am arian man.
Rhowch i ni arian papur
Neu Visa doed a ddel
A bydd eich blwyddyn newydd
Yn felys fel y mel.
Huw Dylan – 8.5
Hiraethog
Hel Calennig - efo UKIP
Wel, dyma ni’n dyfod, yn enw Prydeindod,
i warchod ein hundod â’r dandi;
eich arian a geisiwn, a’ch pleidlais ddeisyfwn:
yr helgwn ddilynwn eleni.
Mae’r deyrnas unedig yn suddo’n rhanedig
an ffyrnig drybeilig ysbeilwyr;
rhyw hen bethau estron sy’n byw yn afradlon:
rhyw garthion, ynfydion fewnfudwyr.
Os rhowch eich fôt inni, Fai’r seithfed eleni,
awn ati i unioni’r hen ynys;
cau’r ffiniau agored, cael gwared o’r giwed
sy’n yfed ein nodded cyhoeddus.
Bydd fawr eto Brydain, a’r Saesneg mor bersain
wrth arwain ein hunain yn uniaith;
dim lol datganoli a’r bunt yn rheoli:
amdani yn heini â’n gweniaith!
Eifion Lloyd Jones – 8.5
Englyn: Clwyf
Berwyn
Gwir glais yw agor ei glo – agor dor
y dydd a mynd drwyddo
i selerydd cudd y co’,
wyf yr wyf yn ail-frifo.
Arwel Emlyn Jones – 9.5
Hiraethog
(teyrnged i William Pooley a fu’n wael o’r clwyf ebola)
O ŵydd angau fe ddihangodd – unwaith
ac yna o’i wirfodd
at riddfan y truan trodd
eilwaith, ac fe’i hanwylodd.
John Glyn Jones – 10
Cyfanswm
Berwyn – 69.5
Hiraethog – 70.5













