Main content

Rownd 1 - Bro Alaw v Glannau Menai

Trydargerdd – Pennill i’n hatgoffa bod yr awr yn troi

Bro Alaw
Ben bore Sul bydd raid troi’r cloc
Un awr ymlaen, tic-toc, tic-toc,
Fe rown y byd am ddysgu’r tric
O’i droi yn ôl, toc-tic, toc-tic.

John Wyn Jones – 8.5

Glannau Menai
Yn y gwanwyn awn ymlaen
A cholli awr am dywydd braf,
Ac yn yr hydref cam yn ôl
A chawn yr awr i gofio’r haf.

Meirion Jones – 8.5

Cwpled caeth addas i'w osod wrth Bont Menai

Bro Alaw
Pan fydd Wylfa-sima’n sarn
Hon a geidw yn gadarn.

John Wyn – 8.5

Glannau Menai
Mae hon yn dal Môn yn dyn
I Wynedd, mae’n hen dennyn.

Ieuan Parri – 8

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fe yrrais o amgylch mewn cylchoedd’

Bro Alaw
Fe yrrais o amgylch mewn cylchoedd
A gwau hyd y palmant trwy'r cyhoedd,
Gwasgais ‘fforti-êt ffwtar’
O Tesco i’r gwtar,
Mobiliti sgŵtar sy’n nefoedd!

Geraint Jones – 8.5

Glannau Menai
Fe yrrais o amgylch mewn cylchoedd.
Rhof y bai ar y sat-nav. Yr ydoedd
‘Di sticio yn sownd
Wrth ddweud ‘Turn around’
‘Around’ ac ‘around’ yn oes oesoedd.

Gwyn Lloyd – 8.5

Gwawdodyn Hir yn cynnwys y llinell ‘Dwi innau’n dewis ildio’n dawel’

Bro Alaw
Dementia

Drwy’r machlud gwaetgoch mor anochel
Yn uwch, yn uwch, daw’r llanw uchel,
Ar awr wallgof ymrof i ryfel
Yng ngwae hwyrnos rwy’n cwffio nghornel;
Ond a’i lif nawr hyd lefel – pen y gris
‘Dwi innau’n dewis ildio’n dawel.’

Richard Parry Jones – 8.5

Glannau Menai
Aros mae’r achos mawr aruchel,
Eithr arafodd ynni ‘ngwrthryfel,
Heb weld rhagor wawrio ar orwel;
Uwch yw’r rhiwiau, oerach yr awel,
A daw awr i ddweud ‘ O wel, - gan y pris,
Dw innau’n dewis ildio’n dawel.

Gwyn Lloyd - 9

Triban beddargraff ffotograffydd

Bro Alaw
Gosododd hwn ei dreipod
Ar erchwyn gwan y beddrod
Ac mewn un fflach gwnaeth hunan-lun
O’i gorffyn ar y gwaelod.

Cen Williams - 9

Glannau Menai
Dangosodd, mewn delweddau,
ein hanes drwy’r eiliadau,
atgofion hwn a'i gyfaill tryw
fydd fyw er cau'r amrannau.

Elinor Gwynn – 8.5

Bro Alaw
Mae’n well i mi gyfadda’r gwir, rydw i’n un gwael am godi,
Wrth fynd yn hŷn dwi’n mynd yn waeth, ’nenwedig ar ôl priodi.
Gorchymyn yr ‘Erector’s Guild’ oedd mod i’n mynd ar daith,
‘Bydd wrth y tŵr yn Llanfair Pwll i ddal y bws am saith’.
Roedd un peth yn fy mhoeni braidd, yn gur mawr yn fy mhen,
A fedrwn godi mewn da bryd i weled wyrcs Big Ben?
Fe deipiais ar y ‘Google search’ yn swil, ‘Problemau codi’,
Derbyniais gyngor o bob rhyw a sbesial ‘view’ o Mandi!
‘Rôl oriau o ymchwilio dwys o’r diwedd gwelais o,
Hen foddion gwych ddefnyddid gynt gan lwyth y Nafahô.
Yn dalog ar y wefan hon roedd Chief ‘Big Bear’ yn haeru,
‘‘ Mae moddion gwych y Nafahô yn siwr o’ch cael i fyny.’’
Derbyniais botel fawr drwy’r post yn llawn o hylif gwyrdd,
’Di wneud o ddŵr y byffalô a rhyfeddodau fyrdd.
Fe yfais i y cwbwl lot heb ddarllen y manylion,
A sylweddoli yn rhy hwyr fod llond llwy de yn ddigon!
Do, gweithiodd grym yr hylif gwych a chodais ar fy union,
Heb sylweddoli yn syth bin fod ‘side effects’ i’r moddion.
Ar fore’r trip i Lundain bell rwyf fi yn awr mewn twll,
Yn methu deall fod dau dŵr ym mhentre Llanfair Pwll!

Ioan Roberts - 9

Glannau Menai
Y ferch o Gaer ar Ddyfrdwy
A gerais i yn fawr,
A threuliais amser difyr
A llawer hwyliog awr
Yn ymgom ac yn chwerthin
A theimlo yn gryn gawr.
Ond nid oedd le’n ei gwely
I Gymro balch ond tlawd,
Os crwydrwn wedi’r machlud
Y diwedd fydda’n ffawd;
Ni fynnai’r Saeson treisgar
Ein trin ond gyda gwawd.
Ond, daeth fy noson lwcus,
Cyd-orwedd wnaethom ni,
C’add cariad dau, o’r diwedd,
Fodlonrwydd gyda lli’!
Ond cyn y wawr rhaid rhedeg
Cyn deffro’r blydi ci!

Ieuan Parri – 8.5

Llinell ar y pryd - da yw gweld mewn du a gwyn

Bro Alaw
Da yw gweld mewn du a gwyn
Yn fawr, lun gwych o feuryn

0.5

Glannau Menai
Da yw gweld mewn du a gwyn
Y lliwiau hud, gwell wedyn

Telyneg: Arf

Bro Alaw
Yn nyddiau cleddyfau Llyn Cerrig Bach
roedd lladd yn grefft,
chwa o chwys yn gymysg â’r brath
yn rhan o’r gêm;
fflach haul fel fflam ar lafn
wrth iddo durio’r darian,
lliw yn y lladd
a bywyd mewn marwolaeth.
Heddiw lluosog yw’r lladd,
proses mor amhersonol
â bysedd ar allweddell
heb weld y fflach mewn llygaid
na’r fflam yn diffodd;
y cyfan o hirbell
yn glinigol ddieflig
gan angylion angau melldigedig.
O am gael eto frwydro ag arfau iach
Fel cleddyfau dyfroedd Llyn Cerrig Bach.

Cen Williams – 9.5

Glannau Menai
A phawb am hawlio Charlie wedi'r lladd
ar strydoedd Paris, pensel hawliai'r llun
ar sgrîn, mewn papur newydd; graffit nadd
yn turio'i ffordd drwy groen cydwybod dyn.
Y geiriau'n ffrwydro o'i blaen: 'Rhaid codi llais!
Amddiffyn rhyddid, chwalu rhagfarn gul!'
A'r dwylo'n codi'r bensel uwch y trais,
tu hwnt i'r mosg a'r eglwys, un dydd Sul.
Bellach mae'n wythnos waith a'r stori'n 'stêl',
a'r frwydr - fel erioed - dros bennawd croch
sy'n gwerthu. Geiriau ben-ben. Mirror, Mail
yng ngyddfau'i gilydd, iaith yn wrymiau coch...
O! gall, fe all y bensel droi tu min;
mae gofyn parchu'r ffrwydryn wrth ei drin.

Annes Glynn – 9.5

Englyn: Dyletswydd

Bro Alaw
Pa un a dynnaf o’r pair, – fy wyres
A’i hyfory disglair,
Neu ’Nhad sy’n gaeth i’w gadair
Yn ei ddoe gyda’i ddau air?

Geraint Jones - 10

Glannau Menai
Er fy anian hunanol, - onid rhaid
Yw rhoi i’r dyfodol,
A haedda dderbyn gwaddol
Sydd o ryw fudd ar fy ôl?

Gwyn Lloyd – 9.5

Cyfanswm

Bro Alaw - 72
Glannau Menai – 69.5