Rownd 1 - Criw'r Llew Coch v Manion o'r Mynydd
Llew Coch v Manion
Trydargerdd: Manteision byw yng Nghefn Gwlad
Llew Coch
Mae list fi yn hir o fanteision
Mae’n nefoedd rôl byw ym Manceinion,
Mae JoJo a fi
‘Di dysgu iaith chi
Ni’n joio yn bod eich cymdogion.
Rhiain Bebb 8.5
Manion o'r Mynydd
Does dim cymdogion i sisial
Pan fyddi di’n rhegi heb atal,
Dim Gwe – mae’r band llydan
Mor denau â brechdan
A’r ffôn bach yn fudan – dim signal
Nia Powell – 8
Cwpled caeth yn addas i’w osod wrth fynedfa ysbyty
Llew Coch
Hafan i glaf, hafan glyd,
Hafan llawn gobaith hefyd.
Rhiain Bebb - 9
Manion o'r Mynydd
Ein siarsio i geisio gwell
A’n cyllid dan fin cyllell
Cynan Jones – 8.5
Limrig yn cynwwys y llinell, ‘Mae’n anodd perfformio mewn festri’
Criw'r Llew Coch
Yng ngeiriau anfarwol John Wesley
“Mae’n anodd perfformio mewn festri,
Mae’r meinciau’n fwy cul
Na chriw’r Ysgol Sul,
A ‘di’r sandwiches ddim at fy nhast i”.
Alun Cefne – 8.5
Manion o'r Mynydd
Er llithro i wisg fach reit sbeisi
a theimlo’n anifail o ffrisgi,
ni fu yr olygfa
yn gleimacs i’r ddrama.
Mae’n anodd perfformio mewn festri!
Tudur Pughe – 9
Hir a thoddaid yn cynnwys y llinell, ‘Mynnaf hiraethu am hen, hen frethyn
Criw'r Llew Coch
Mynnaf hiraethu am hen, hen frethyn
Fy nghwm ers talwm, am ddilyn stalwyn;
Y mȏr o gymraeg gymerai’r hogyn
Hyd gaeau gwledig, a’i hwylio wedyn
Yn llon. Breuddwydion hen ddyn sy’n llawn siom
Yng nghwmni iaith lom fy nghwm noethlymun.
Tegwyn Pughe Jones - 9
Manion o'r Mynydd
Nain
Mynnaf hiraethu am hen, hen frethyn,
A byw diofid ym mhob edefyn
O’i llawes gynnes, minnau’n eginyn
Yn cael swatio’n glos; a’i phersawr rhosyn
Yn oedi ar awel sydyn – o haf.
Hyn obeithiaf, ond ias sy’n ei bwthyn
Nia Powell - 9
Triban beddargraff milfeddyg
Criw'r Llew Coch
Gorweddais mewn sawl corlan
â’m braich mewn tyllau aflan
fe ddaeth i mi y gorlan fwll
a’m corff mewn twll yn gyfan.
Ifan Bryn Du - 9
Manion o'r Mynydd
Wynebodd gwn cynddeiriog
A theirw gwyllt a chorniog:
Ond pwsi fflyffi Mair Ty’n Llan
A’i brathodd dan ei falog
Cynan Jones – 8.5
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Llenwi’r sgip
Criw'r Llew Coch
Ddeng mlynedd a mwy dwi’ di dreulio’n nagio i glirio holl nialwch y ty,
Roedd wastad rhyw esgus neu gilydd am beidio a gwneud fel y d’wedwn i !
Yn diwedd mi ffoniais y dyn Sgips fy hun a llogi un fawr fwrw’r Sul;
Rhois restr o bethau oedd angen mynd iddi i’r gwr, ac mi fonodd fel mul;
Ond wedi cael paned mi gyrchwyd y stwff o’r ty efo berfa a throl,
A’r gwr yn bihafio reit ddeche heb daflu ei gylchau nac unrhyw hen lol;
Cludwyd rhawiau heb goesau a choesau heb frwsh, Sou’westers a hen glychau beic,
Skateboard ‘di hollti, bwrdd Smwddio heb fwrdd , wedyn nogiodd y gwr - aeth ar streic;
Mi ddaliais i ati i gludo a chario, bystachu ‘fo bocs ar ol bocs,
Fy mantra’n rhwng bob siwrna’ oedd sgyrnygu , “ mae’n hen bryd iddo godi ei socs !”
Sachaid o rwbel o gastell Aberteifi a ddeuai yn handi rhyw ddydd
I greu llwybr diddorol drwy’r jyngyl o ardd ; ond deud gwir fu gen i rioed ffydd !
Hen far tân trydan unig a ‘Length’ o beiben gopr – rhy fyr i fod o werth,
Hwfer nad yw’n hwfro, Barddas a Barn, ‘Incredible Hulk’ ‘di colli ei nerth ,
Back boiler y ty cyn ty’ d’wetha , gwely dŵr efo twll, het gowboi a chwip,
Hen ffon fy nain a gwn Dafydd Ifan a sosban fach, i mewn a nhw i’r i’r sgip ....
Wedi i’r lori ruo’i ffwrdd i Gaer Gylchu mi fethais a ffeindio y gwr
Er imi weiddi a gweiddi ddaeth o ddim i’r fei; aeth yntau ‘fo’r sgip mae’n siwr !
Mair Tomos Ifans – 8
Manion o'r Mynydd
Fy nofel (ar ei hanner)
A deg o awdlau Edgar,
Dau lun o’r Meuryn heb ei grys
A throwsus Dai Llanilar.
Llyfr Tommo, heb ei agor,
A holl dafarndai Bangor,
Un wraig amheus o Gastell Nedd
A dannedd Dewi Prysor.
Brwsh siafio mawr a rasel,
Limrigau Nia Powell,
Colofnau Gwilym Owen flin
A blincin Simon Cowell.
Guto Bebb a chlytiau babis,
Dwy olwyn beic a Boris,
Tua mil o lwyau pren, llond bocs,
A’r Kinnoccks, Neil a Glenys.
Chillis a swn y Cello,
Copi arall o lyfr Tommo,
- Dwi angen sgip fwy eto.
Cynan Jones - 8.5
Llinell ar y pryd - Llew o hyd yw brenin llên
Criw'r Llew Coch
Llew ein hyder, ein seren
Llew o hyd yw brenin llên.
Manion o'r Mynydd
Dihafal pob tudalen
Llew o hyd yw brenin llên.
0.5
Soned neu delyneg mewn mydr ac odl (dim mwy na 18 llinell) Coel
Criw'r Llew Coch
Yn ôl coel ym Mhatagonia, os bwytewch ffrwyth y Calafate, fe fyddwch yn dywchwelyd yno. Mae’r goel yn deillio o un o chwedlau’r Tehuelche, un o’r llwythi brodorol oedd yn crwydro’r paith, fe wnaeth Koonex, a oedd yn hen wraig ac yn methu a chrwydro mwy, droi ei hun yn lwyn o ffrwythau fel bod bwyd ar gael i’r adar ac i’r bobl. Bellach mae’r Tehuelche wedi eu cymhathu a’u hiaith, i bob pwrpas, wedi marw.
Enwau a roddwyd gan y gwladychwyr yw’r Lago Argentino a Perito Moreno – methais a dod o hyd i’r enwau a ddefnyddid cyn hynny.
Ar lwyni bychain, pigog ger Lago Argentino,
Mae aeron bychain, chwerw yn murmur chwedl yno :
Os bwyti ‘r calafate, cyn cychwyn ar dy siwrne,
Fe ddoi yn ôl, fe ddoi eto i Perito Moreno.
Ar diroedd eang, anial ger Lago Argentino,
Fe grwydrai y Tehuelche yng nghwmni y guanaco,
Hen oedd Koonex, ond hirben, fe drodd eu hun yn goeden,
Fe ddônt yn ôl, fe ddônt eto i Perito Moreno.
Ar hyd y peithdir hwnnw ger Lago Argentino,
Fe ddaeth estroniaid yn haid i’w hawlio ac i’w setlo,
Er bwyta’r Calafate, gwladychwyd y Tehuelche,
Ni ddaethant nôl ac ni ddônt eto i Perito Moreno
Mair Tomos Ifans - 9
Manion o'r Mynydd
(Mae yna gred bod y gylfinir, a elwir yn Gwn Ebrill yn yr ardal acw, ganol gaeaf yn hebrwng y gwanwyn)
Mi deimlaf heddiw feini’r gwynt
Yn hyrddio’u neges am a ddaw
Pan sleifia’r gaeaf ar ei hynt
A’m gadael innau gyda’r glaw;
A gwelaf grinder deiliach brown
Yn siglo’nghangau’r awel ffri,
Ond rhof y byd i gyd pe cown
I fynd â’r hydref gyda mi.
Ond eto, mae ’na rywbeth iach
Ar fore oer o eira glân
O estyn am ryw flanced fach
A swatio’n sownd o flaen y tân,
A chri Cwn Ebrill trwy yr ias
Yn hebrwng ataf wanwyn glas.
Ioan Gwilym – 9
Englyn
Criw'r Llew coch
Gyrrwyd yn llatai ei geiriau - o law
i law'r cenhedlaethau
o'n llinach fel mewn lluniau
Dyna yw ein DNA
Rhiain Bebb – 8.5
Manion o'r Mynydd
Mene, mene…
Hyd furiau ein hedifaru – mor rhwydd
Y mae’r inc yn pylu,
Ond ar bared teledu
Geiriau’r inc sy’n llachar gry’
Tudur Puw - 8
Cyfanswm
Criw'r Llew Coch – 69.5
Manion - 69













