Eluned Morgan yn gwrthod cefnogi Syr Keir Starmer

Eluned Morgan a Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Gwrthododd Eluned Morgan dro ar ôl tro ddweud a oedd hi'n credu bod y prif weinidog yn dda yn ei waith

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi gwrthod cefnogi Syr Keir Starmer, gan ddweud wrth y BBC nad yw arweinydd y blaid Lafur yn y DU ar y papur pleidleisio yn etholiad nesaf y Senedd.

Gwrthododd Eluned Morgan dro ar ôl tro ddweud a oedd hi'n credu bod y prif weinidog yn dda yn ei waith pan gafodd ei chyfweld gan raglen Today BBC Radio 4 fore Mercher.

Yn lle hynny, dywedodd arweinydd Llafur Cymru nad oedd pleidlais mis Mai yn amser i'r cyhoedd brotestio yn erbyn gweinyddiaeth San Steffan.

Gofynnwyd i Lywodraeth y DU am sylw.

A yw Syr Keir Starmer yn brif weinidog da?

Yn y cyfamser, awgrymodd y prif weinidog nad oedd pleidleiswyr â diddordeb mewn a yw Caerdydd yn cymryd rheolaeth dros blismona ai peidio - ddyddiau ar ôl iddi wneud y cais ei hun mewn araith yn Llundain.

Pan ofynnwyd iddi ar Today a oedd hi'n credu bod Syr Keir Starmer yn brif weinidog da, dywedodd: "Yr hyn rwy'n ei ddweud wrth bobl Cymru yw nad yw ar y papur pleidleisio. Nid dyna fydd pobl yn pleidleisio drosto ym mis Mai."

Pan ofynnwyd iddi eto, ychwanegodd: "Nid yw hwn yn... gyfle i gael ergyd am ddim yn erbyn Llywodraeth y DU. Nid yw hwn yn amser ar gyfer pleidleisiau protest.

"Y pethau sy'n bwysig yma yw pwy sy'n mynd i ddarparu'r gwasanaethau hynny y mae pobl yn dibynnu arnynt yng Nghymru.

"Bydd ganddyn nhw ddewis rhwng yr anhrefn y bydd Reform yn ei gynnig, [neu] y breuddwydion gwrach y bydd Plaid yn eu cynnig, a fydd yn llwybr i annibyniaeth."

Er nad yw wedi cefnu ar ei safbwynt o blaid annibyniaeth, mae Plaid Cymru wedi diystyru pwyso am annibyniaeth yn nhymor cyntaf llywodraeth.

Yr wythnos diwethaf dywedodd Eluned Morgan mai dim ond os oedd yn dod ag anrhegion, fel cyhoeddiadau am brosiectau newydd, yr oedd croeso i Syr Keir yng Nghymru.

Mae cyfweliad Eluned Morgan yn dilyn ffrae ynghylch a ddylai'r Senedd gymryd rheolaeth dros blismona yng Nghymru.

Ddyddiau ar ôl i Morgan ailadrodd polisi hirsefydlog Llywodraeth Cymru ar gyfer symud pwerau o San Steffan i Gaerdydd mewn araith yn Llundain, gwrthododd yr Ysgrifennydd Cartref y syniad yn gadarn.

Pan ddywedwyd wrthi nad oedd Llywodraeth y DU wedi dangos unrhyw ddiddordeb yn y cais, dywedodd: "Rwy'n credu mai'r hyn sy'n peri pryder i bobl yng Nghymru yw'r materion bara menyn yn eu bywydau beunyddiol."

Pan ofynnwyd iddi a oedd bellach yn fater marw, ychwanegodd: "Rydym wedi bod yn gyson yn ein cais mewn perthynas â phlismona, nid yn unig o dan lywodraeth Lafur, ond cyn hynny o dan lywodraeth Dorïaidd.

"Rwy'n credu ym mis Mai mai'r hyn sydd o ddiddordeb i bobl yw edrych tua'r dyfodol, y bennod nesaf lle byddwn yn tyfu economi Cymru.

"Rydym newydd gael £16bn o fuddsoddiad a'r hyn yr ydym ei eisiau yw creu swyddi."