Ryland Teifi: Dychwelyd i Gymru i chwarae Waldo ar lwyfan

Ryland Teifi fydd yn chwarae rhan Waldo Williams
- Cyhoeddwyd
Mae 14 mlynedd ers i Rylan Teifi adael Cymru a symud i fyw i Iwerddon.
Mae'r actor a'r cerddor bellach wedi dychwelyd i'w filltir sgwar yng ngogledd Sir Benfro er mwyn chwarae rhan bardd o'r un ardal.
Mae Ryland yn brysur yn ymarfer er mwyn chwarae rhan Waldo Williams mewn drama un dyn sydd wedi'i ysgrifennu gan yr Archdderwydd, Y Prifardd Mererid Hopwood.
Roedd y ddau yn westai ar raglen gyntaf Manon Steffan Ross - Llwyfan, ar BBC Radio Cymru yn trafod y ddrama a phwysigrwydd Waldo.
Bardd mawreddog
Er holl barch y genedl at Waldo Williams, mae'r cynhyrchiad newydd yn ceisio'i ddynoli.
Nid bardd mawreddog yn unig yw'r ffigwr ar y llwyfan, ond dyn gyda hiwmor, llygaid ar y byd, a gallu i fwynhau cwmni dynol.
"Mae pobl wedi dweud ei fod yn ddigri, yn wych ei gwmni.
"Rwy'n gobeithio bod hynny'n ymddangos hefyd—nid y darlun difrifol yn unig," meddai Ryland.
Mae cysylltiad Mererid Hopwood â Waldo yn mynd yn ôl i'w phlentyndod.
Er na chafodd Mererid y fraint o gwrdd â Waldo, roedd hi'n ymwybodol iawn o'i waith yn ystod ei magwraeth drwy ddarllen Dail Pren, sef casgliad o gerddi Waldo a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1956.
"Do'n i ddim wedi cael fraint o'i nabod e o gwbl, ddim wedi cwrdd ag e, dod i'w nabod e drwy Dail Pren yn bennaf, wel yn llwyr yn dweud y gwir.
"Roedd poster hwnna da fi fel cymaint o rai eraill yn fy nghyfnod, a falle bod y ffaith bod Pentre Ifan ar hwnna yn mynd â fi nôl i fro fy nheulu.
"Roedd hwnna'n siŵr o fod yn help, ond wrth gwrs mae'r hyn sydd ganddo fe i ddweud, a mae'r ffordd mae'n i ddweud yn denu hefyd," meddai.

Roedd Waldo Williams yn un o feirdd enwocaf Cymru. Bu farw yn 1971 yn 66 oed.
Mae'r ddrama yn edrych ar gefndir Waldo er mwyn deall o ble ddaeth y syniadau a'r geiriau yn ei gerddi.
Mae son am ei blentyndod, a'i gyfnod fel ymgeisydd Plaid Cymru, y ffaith y buodd yn symud o amgylch am dipyn yn byw mewn llefydd gwahanol, y protestio a wnaeth yn erbyn talu treth ac yn erbyn y rhyfel a'i gyfnod yn y carchar.
Mae'r ddrama hefyd yn crybwyll ei gyfnodau o anhwylderau ac iselder.
Wrth gwmpasu'r cyfan roedd Mererid yn teimlo cyfridoldeb a'r pwysau tra'n ysgrifennu'r ddrama.
"Ydi, mae yn gyfrifoldeb achos wrth gwrs, mae'r cynllun mewn cymeriad yn un penodol iawn. Mae'n un syniad arbennig o dda i gyflwyno bywyd rhywun mewn amser byr gyda un actor yn unig.
"Ond wrth gwrs maen nhw'n gymeriadau hanesyddol neu o'r byd llenyddol, diwylliannol.
"Mae'r demtasiwn i roi cymeriad llenyddol ar lwyfan ydy jyst rhybesu un gerdd ar ôl y llall. Wel, wnaeth hynny ddim mor tro.
"Mae'n rhaid i chi roi stori ac eto allwch chi ddim rhoi holl stori'r bywyd hwnna hyd yn oed pan fyddai rhywun yn gwybod y cyfan a dyn ni ddim wrth gwrs," meddai.
Ffigwr eiconig
Un arall sy'n teimlo cyfrifoldeb eithriadol yw Ryland Teifi ei hun.
Dywedodd ei fod yn ceisio peidio meddwl yn ormodol am bortreadu ffigwr mor eicoig â Waldo.
"Ti'n trio peidio rhoi hwnna ar y sgwyddau mewn ffordd, ond wythnos dwetha tra o'n i ar y ffordd gartre o'r Iwerddon, o'n i'n teimlo, nid y cyfrifoldeb, ond o i'n teimlo mod i'n dod gartre am reswm gwahanol y tro hyn.
"Fi'n cofio darllen Waldo pan o'n i'n astudio lefel A ac yn y coleg, ro'n i'n ymwybodol hefyd bod e'n ffigwr mor fawr nid yn unig yn llenyddol, ond yn ddiwylliannol ac ym wleidyddol, a fel mae'n gwlad ni wedi ysblygu ers y cyfnod yna o gwmpas y rhyfel tan heddi.
"Mae Mererid wedi ysgrifennu sgript. mor gelfyd sy'n newid o'r llafar i'r barddonol mewn ffordd mor hawdd, ac ro'n i'n dwli ei ddarllen e am y tro cyntaf," meddai.

Y Prifardd Mererid Hopwood sydd wedi ysgrifennu'r ddrama un dyn am Waldo
Elfen arall o'r ddrama yw plethu prydferthwch y Preseli, ardal oedd mor agos at galon Waldo a'r cyfnod gwleidyddol yn ystod yr ail ryfel byd.
Yn ei gerdd Preseli, mae thema heddychiaeth yn elfen bwysig ohoni, "y bwystfil" mae Waldo yn gyfeirio ati yn y gerdd yw y fyddin yn meddianu rhan o dir y Preseli.
Roedd rhyfel yn bygwth y gymdeithas mae Waldo yn son amdani yn y gerdd.
Roedd yn heddychwr pybyr ac fe garcharwyd ddwy waith yn sgîl ei gredodau.
Mae Ryland yn gobeithio bydd y gynulleidfa yn sylweddoli o ble ddaeth ei holl syniadau a deall bod Waldo wedi byw trwyddyn nhw ac wedi teimlo pob emosiwn mor ddwys.
"Dyna pryd rwyt ti'n sylwi mae hwn yn ffigwr mor fawr, mae e'n bwysig yn yr ardal ym mhro fy mebyd i.
"Mae'n fraint cael portreadu ffigwr mor bwysig yn hanes ein diwylliant a Waldo - nid yn unig fel llenor ond am ei safiadau dros gyfiawnder a heddwch, a'i athroniaeth o frawdoliaeth sy'n ddewr ac yn brydferth," meddai.
Bydd drama Mewn Cymeriad, Waldo ar daith o 30 Ionawr nes ddiwedd Chwefror.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022

- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2020
