Dwy ysgol yng Nghaerdydd ar gau wedi adroddiad i'r heddlu

Rhan o gampws Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn ardal Trowbridge, CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn Trowbridge yn un o ddwy ysgol sydd wedi cau ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae dwy ysgol uwchradd yng Nghaerdydd ar gau ddydd Llun "fel mesur diogelwch rhagofal" yn dilyn adroddiad i'r heddlu nos Sul.

Dywed Heddlu De Cymru bod y penderfyniad i gau Ysgol Uwchradd Llanisien ac Ysgol Uwchradd y Dwyrain, yn Trowbridge, yn dilyn trafodaethau rhwng y llu a Chyngor Caerdydd.

Roedd hynny "er mwyn osgoi risg, yn dilyn adroddiad i'r heddlu nos Sul," dywedodd yr Arolygydd Mark Kavanagh.

"Mae'r adroddiad hwnnw dan ymchwiliad ar hyn o bryd."

Ychwanegodd: "Nid ar chwarae bach y gwnaethpwyd y penderfyniad yma, ond gyda diogelwch disgyblion, staff a chymunedau ehangach yr ysgolion mewn golwg."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.