'Cofio gweld y mab am y tro diwethaf' ar Sul y Mamau

Yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn 2022 Esyllt Maelor a enillodd y goron am gyfres o gerddi ar y testun 'Gwres'
- Cyhoeddwyd
Mae Sul y Mamau yn ddiwrnod i ddathlu ond yn Sul sy'n dal llwyth o emosiynau ac atgofion, medd mam a welodd ei mab am y tro diwethaf ar Sul y Mamau 2015.
"Dwi'n cofio'r diwrnod hwnnw'n iawn," medd Esyllt Maelor a gollodd ei mab Dafydd wedi gwrthdrawiad ar ffordd osgoi y Felinheli rai diwrnodau wedi Sul y Mamau.
"Ro'n i'n smwddio yn y gegin a dyma car Dafydd yn cyrraedd o flaen y tŷ. Dwi'n cofio ei weld drwy'r ffenest a chlywed sŵn ei draed yn dod yn fân ac yn fuan.
"Pam bo fi'n cofio, dwim yn gwybod? Efallai bod fy synhwyrau wedi'u mireinio i gofio."
Dywed ei bod yn cofio bod o dan deimlad wedi iddo fod yn gwrando ar ffrind i'r teulu yn siarad ar raglen Beti a'i Phobol. Ailddarllediad oedd y rhaglen ac roedd y gwestai Elliw Llwyd Owen, ffrind i deulu Esyllt, newydd farw ers ryw bythefnos.
"O'dd Dafydd yn gwybod bo' fi o dan deimlad ac mi ddo'th atai i fy nghysuro.
"Fuodd o efo fi drwy'r dydd ac ro'dd o wedi ysgrifennu cerdyn yn dweud 'Dim gweithio heddiw Mam. Dim marcio!'
"Dwi'n cofio fo'n ffarwelio a gweld ei gar o yn mynd fyny'r lôn ac yn diflannu.
"Heb os mae Sul y Mamau yn Sul sy'n dod nôl ag atgofion i mi."
'Anodd i lawer'
Yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru mae Esyllt Maelor yn pwysleisio mai nad hi yw'r unig fam sydd ag atgofion emosiynol.
"Mae teimlad pawb ar y Sul yma yn gallu bod yn amrwd," meddai.
"Dydi o ddim yn ddiwrnod hawdd i lot o bobl. Mae 'na hype o'i gwmpas o - cardiau, anrhegion, llefydd bwyta yn llawn ond mae'n Sul sy'n gallu 'neud i bobl ddieithrio.
"Mae rhai wedi colli eu mamau yn blant bach ac mae Sul y Mamau yn gallu mynd â nhw i lefydd nad ydyn nhw isio bod.
"Efallai bod rhai pobl wedi bod mewn perthynas anodd gyda'u mamau ac maen nhw'n cofio am y berthynas a methu dygymod â hi.
"Mae 'na eraill sydd eisiau bod yn famau eu hunain ac yn hiraethu am yr hyn na chafwyd ac eraill yn teimlo, efallai, y gallen nhw wedi bod yn famau gwell ac yn teimlo euogrwydd am hynny."
Esyllt Maelor yn ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022
'Rhaid cael gwared ar dabŵ galar'
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2017
Yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn 2022, Esyllt Maelor a enillodd y goron am gyfres o gerddi ar y testun 'Gwres'.
"O'n i isio sgwennu am fy mod yn teimlo bod rhywbeth yn fy ngyrru i sgwennu. Dwi'm yn siŵr ai Dafydd o'dd yn g'neud ond o'n i am sgwennu i ddangos bod yna, rywsut, ryw gynhaliaeth ar gael.
"Weithiau mae 'na ryw wres neu warchodaeth ar gael i rywun ar adegau dirdynnol ac yn sicr 'nes i deimlo fo ac mae Dafydd, y brawd hynaf, yn ddylanwad mawr ar ein teulu ni o hyd.
"Dwi'm yn deud bod petha yn hawdd i mi oherwydd hynny. Mae'r galar dal yna ac mae rhywun yn gorfod mynd ar y siwrne hon ei hun ond eto dwyt ti ddim cweit ar ben dy hun ...
"Dwi wedi bod yn ffodus iawn i gael cymorth a chefnogaeth gan deulu a ffrindiau ac wedi cael ryw gynhaliaeth, rhyw wres, rhyw gariad mawr... Allai'm egluro fo'n iawn.
"Mae'n annisgwyl a dyw e ddim wastad yn dod ar adegau pan ti isio fo i ddod."
Wedi'i magu yn ferch i weinidog, y diweddar Gareth Maelor, ychwanega Esyllt nad profiad crefyddol yw'r hyn y mae'n ei deimlo fel y cyfryw ond "heb ffydd mi fuaswn ar goll".
"Mae'r ffydd i mi, efallai, yn mynd ac yn dod ac o bosib drwy'r cyfan mae 'na rywbeth yna yn fy nghynnal i.
"Dwi wedi bod yn ffodus o hynny i ddweud y gwir."
Ar Sul y Mamau mae'n dweud y bydd dau blentyn arall hi a'u gŵr - Rhys a Marged "siŵr o bicio draw".
"Dwi'n gwerthfawrogi eu cwmni yn fawr a'r gofal a'r cariad y maen nhw'n ei rannu," ychwanegodd.
Mae sgwrs Esyllt Maelor i'w chlywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ac yna ar BBC Sounds ac mae cymorth ar gael ar linell gymorth y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.