Jack Evans o'r Bala, un o arwyr cynnar pêl-droed Cymru a Chaerdydd

- Cyhoeddwyd
Roedd John Hugh 'Jack' Evans o'r Bala'n bêl-droediwr arbennig a wnaeth enw i'w hun yn yr 1910au a'r 1920au.
Ond er iddo chwarae dros sawl tîm yn y gogledd, yng Nghaerdydd y daeth i enwogrwydd.
Cafodd ei eni yn Y Bala yn 1889, ac yn ei arddegau roedd yn brentis gyda'r argraffwyr lleol. Roedd gan y swyddfa argraffu yn Y Bala ei dîm pêl-droed ei hun, ac roedd Evans yn chwarae drostynt, cyn chwarae i Bala Wanderers, clwb sydd bellach ddim yn bodoli.
Chwaraeodd dros y Trallwng cyn arwyddo dros Wrecsam ar gyfer tymor 1908-09. Tra'n chwarae i Wrecsam gafodd anaf difrifol i'w ysgwydd, gyda'r meddyg yn dweud wrtho fod ei yrfa bêl-droed drosodd.
Arwyddo i Gaerdydd
Ond fe barhaodd Evans i chwarae, ac yn 1909 fe symudodd i'r de er mwyn parhau i weithio fel argraffydd yn y cymoedd. Tra roedd yn gweithio fel argraffydd ac yn aros i'w ysgwydd gryfhau fe chwaraeodd dros Glwb Pêl-droed Cwmparc ger Aberdâr, ac yn y cyfnod yma creodd o argraff ar yr Adar Gleision.
Yn 1910, Jack Evans oedd y chwaraewr cyntaf i Glwb Pêl-droed Dinas Gaerdydd brynu erioed, gydag ysgrifennydd ac un o sylfaenwyr y clwb, Bartley Wilson yn talu chwe swllt i Evans am ei lofnod.
Chwaraeodd Evans yn y gêm gyntaf erioed ar Barc Ninian ar 1 Medi 1910, ac ef oedd y sgoriwr cyntaf erioed ar y maes.
Ffaith arall ddiddorol oedd bod Evans wedi helpu i adeiladu'r stadiwm gyda'i ddwylo ei hun.

Llun o gêm ar Barc Ninian yn 1911, a rhaglen o'r gêm gyntaf erioed yn y stadiwm yn erbyn Aston Villa ar 1 Medi, 1910
'The Bala Bang'
Chwaraewr asgell chwith oedd Evans ac roedd yn enwog am ei ergyd nerthol tu hwnt. Mae adroddiadau iddo dorri garddwrn un gôl-geidwad ac fe adawodd golwr Manchester City yn anwybodol wrth i ergyd ei daro ar ei ben. Gyda'r enwogrwydd 'ma daeth y llysenw 'The Bala Bang'.
Yn 1912 cafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru gan gymryd lle Ted Vizard ar gyfer gêm yn erbyn Iwerddon. Drwy wneud hyn, Evans oedd y chwaraewr cyntaf erioed o Glwb Dinas Caerdydd i wisgo crys coch Cymru.
Yn ôl y sôn fe gymerodd Billy Meredith, un o arwyr mwyaf Manchester United a Manchester City, Jack dan ei adain tra roedd y ddau'n chwarae dros Gymru.

Parc Ninian, cartref Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd o 1910 i 2009
Y Rhyfel Byd Cyntaf a Chwpan yr FA
Wedi dechreuad y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 bu rhaid i Jack Evans fynd i ymladd, ynghyd ag wyth o chwaraewyr eraill o Glwb Dinas Caerdydd, a chwe chyn-chwaraewr.
Lladdwyd un o'i gyd-chwaraewyr, Tom Witts, ddeuddydd yn unig cyn y cadoediad.
Yn 1925 fe gyrhaeddodd Caerdydd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, dan gapteniaeth un arall o fawrion y clwb, Fred Keenor. Ond Sheffield United oedd yn fuddugol, o 1-0.
Yn 1927 roedd Caerdydd unwaith eto yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr. Ond y tro hwn fe enillodd Caerdydd, gan guro Arsenal mewn gêm sy'n cael ei ystyried gan gefnogwyr y clwb fel eu buddugoliaeth enwocaf. Yn anffodus fe ddaeth y fuddugoliaeth y tymor wedi i Evans adael y clwb.
Roedd Evans gyda Chaerdydd o 1910 i 1926, ac er i'w gyfnod yn y rhyfel darfu ar ei yrfa bêl-droed, fe chwaraeodd yn agos i 400 o gemau dros yr Adar Gleision ac yn ffigwr allweddol wrth iddynt ennill dyrchafiad i Adran Gyntaf Lloegr.
Chwaraeodd ei ddwy flynedd olaf o bêl-droed gyda Bristol City cyn ymddeol yn 1928, yn 39 oed.

Caerdydd yn camu ar y cae i wynebu Sheffield United yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, 25 Ebrill 1925
Roedd crefydd yn elfen bwysig o fywyd Jack Evans, ac roedd yn ddiacon yng Nghapel Ebeneser, Caerdydd.
Yn ôl y sôn roedd yn ddyn diymhongar tu hwnt, yn ymweld â'r Bala'n aml ac yn falch iawn o'i Gymreictod a bro ei febyd.
Mae plac arbennig uwchben drws y tŷ ble roedd Evans yn byw yn Y Bala, yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn Gymro, yn Gristion ac yn bêl-droediwr.

Y plac uwchben y tŷ yn Y Bala ble yr oedd Evans yn byw
Bu farw Jack Evans yng Nghaerdydd yn 1971, wedi iddo gael ei daro'n wael tra'n eistedd yn sedd fawr y Capel.
Enillodd wyth o gapiau dros Gymru rhwng 1912 ac 1923, gyda'r Rhyfel Mawr yn debygol o fod yn ffactor yn cyfyngu ar y niferoedd.
Mae crys a medal Evans o rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, a'i gap cyntaf dros Gymru, i'w gweld yn yr ystafell fwrdd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Yn ystod ei yrfa fe ddaeth y gŵr o Feirionnydd yn arwr i'r Adar Gleision, ac felly hefyd i dref Y Bala, ac mae'r 'Bala Bang' yn cael ei gofio hyd heddiw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 Ionawr

- Cyhoeddwyd4 Hydref 2020

- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2023
