Un dydd o bysgota gyda Gari o Gaernarfon

Y pysgotwr o Gaernarfon, 'Gari Bach'
- Cyhoeddwyd
Mae Gareth Malcolm Brown Ley neu 'Gari Bach' o Gilpeblig, Caernarfon yn pysgota ym Mae Caernarfon ers ei fod o'n chwech oed. Fe ddysgodd ei grefft gan hen bysgotwyr y dref.
Ar ôl treulio blynyddoedd yn gweithio ar gychod pysgota Doc Fictoria, hobi yw pysgota i Gari erbyn hyn.
Un sy'n hoff o ddogfennu Gari ar ei gwch, sydd â'r enw chwareus, Y Bass-dad Bach, yw'r ffotograffydd Iolo Penri.
Fe dreuliodd Iolo ddiwrnod ar y môr gyda Gari'n ddiweddar, yn tynnu lluniau ac yn pysgota am fecryll a phenwaig.
Ar ôl angori'r cwch yn Cei Llechi, rhannodd Gari ei stori gyda Cymru Fyw.

Y ffotograffydd Iolo Penri a'i gi, Mos, yn pysgota ar gwch Gari
'Pysgotwr oedd Taid'
Oedd Taid yn bysgotwr, oedd o'n 'neud lot efo cychod a petha'. Oedd o'n 'neud lot efo cae ffwtbol Gaernarfon flynyddoedd yn ôl.
Fo oedd yn 'neud y rhwydi i'r gôl yn fan'na ac oedd o'n mynd allan i 'sgota bob tro efo'r hogia'.
Dwi'm yn cofio dim o Taid, ond yr hanas. Oedd o 'di dal uffar o gath-fôr un diwrnod, un mor fawr oeddan nhw'n gorfod hangio fo ar y gwch.

Gari wrth y llyw
Oedd Dad yn 'sgota weithia, ond colomennod oedd petha Dad. I gadw hogia' drwg y stryd allan o drwbwl wnaeth o dîm ffwtbol allan ohonyn nhw.
Ac ar wicends odd yr hogia ffwtbol yn mynd â fi i lawr i'r afon i 'sgota pluan.
O'n i wedi gwirioni, rhyw chwech oed o'n i. Hwyrach 'mlaen es i efo'n mêt, Nigel, efo rhwydi i ddal seabass yn Dinas Dinlla. Oeddan ni'n rhoi rhwydi lawr o'r gwch a dal llwyth.
Wedyn erbyn o'n i tua 14 oedd gen i gwch bach fy hun a wedyn o'n i'n mynd efo cwch a dal llwyth o seabass, a conger eels. O'n i'n gwerthu'r sliwod i'r sŵ môr yn Mona.

Llond gwialen o fecryll
'Dwi 'di gweithio ar doman o gychod'
Nes i ddarfod ysgol yn ifanc am fod fy mêt i'n gweithio ar y trôlyr yn Doc Fictoria yn Dre. Nirada oedd enw'r gwch cyntaf wnes i weithio arni yn gytio a llnau pysgod. Wna i fyth anghofio Nirada.
Ges i waith wedyn ar y Claytonia, y Quiet Man a wedyn y Path Finder.

Mae Gari hefyd yn hoff o ddysgu ei ffrindiau i bysgota. Dyma Gari a'i ffrind Rhys
Dwi 'di gweithio ar doman o gychod yn Bae Caernarfon. Fyddwn ni'n mynd i Ddinas Dinlla i lawr am Nefyn ffor'na neu i fyny am Gaergybi.
Erbyn hyn dwi'n pysgota efo cwch bach fy hun a gwialan nid rhwydi. Hobi ydi o nid gwaith 'wan.
Y Bass-dad Bach 'di enw'r gwch, fy mêt i feddyliodd am yr enw. Mae'r enw yna wedi mynd â fi ôl-ddy we i America. Mae' pobl yn dod i Dre i dynnu llunia ohoni. Mae hi reit enwog â deud y gwir.

Rhys yn dal pysgod
Os 'di'r tywydd yn iawn yna dwi'n mynd i 'sgota. Pam ti'n cal gwynt allan yn y bae mae'n gallu bod yn hyll yna. 'Di'r môr ddim yn le i chwara' efo.
Mae 'na ddigon o bysgod yna. Dwi 'di dal whelk yna, lobstars a scollops.
Mae'r Fenai 'di newid lot, a mae'r sand banks wedi newid yno lot. Mae 'na fwy o seabass yna rŵan nag oedd yna o'r blaen. Does 'na ddim samon yna, a dwi heb weld riw lawar o sea trout.
Ryw ddau samon nes i weld flwyddyn dwytha a dim ond ryw dri neu bedwar sea trout.

Os mêts, mêts. Gari a Iolo
Mae Iolo yn 'sgotwr bach iawn ond mae'n job cadw fo yn llonydd. Mae o bob tro yn gweld rwbath, efo'i gamera allan.
Pan ti'n dal pysgodyn ti'n troi rownd a mae yna gamera yn dy wyneb di. Mae 'na sbort i gael efo Iolo, boi da.
'Dwi'n gwybod be' i neud efo fish'
Dwi'n gwybod be' i 'neud efo fish sdrêt awê efo'n llygada 'di cau, dwi'n un da am filletio nhw.
Ella mae'n sowndio'n rhyfadd ond dwi'm yn licio byta fish dwi 'di ddal fy hun, well gen i fish arall.

Llond bocs o benwaig a mecryll i'w trin

Ydy Mos eisiau helpu neu eisiau pysgodyn?

Llnau a gytio
Mae freezer adra llawn fish bob tro, mae o llawn lobstar weithia.
Ma' Mam yn dechra' cwyno efo'r holl fish mae'n ga'l, a ma' hi'n deud bo' fi'n drewi'r tŷ pan dwi'n cwcio nhw.
Mae 'na lot yn disgwl amdana fi pan dwi dod i mewn i cei bob tro. Fydda i yn rhoi bocs o fish ar y wal a mae pobl yn dod i helpu nhw eu hunain.

Cofis lleol yn helpu eu hunain i bysgod
'Pan dwi ar y môr, dwi'n cael llonydd'
Mae bod allan ar y dŵr yn fwy na dal fish i fi.
Jest cael bod yna, bod allan oddi wrth pobl y dre 'ma. Llonydd.
Allan yn fan'na sgen ti ddim problema', ond pan ti mynd 'nôl i lan maen nhw'n disgwl amdana chdi ar ben wal. Dyna ydi'r drwg.

Y pysgotwr prysur
Mae Bae Caernarfon yn lle neis 'wsdi. 'Dan ni'n byw mewn lle hyfryd iawn.
Dwi'n gweld dolffins, porpoise, morloi, pob math o betha'.
Mae gweld dolffins yn neidio heibio'r gwch yn brofiad neis.

Tynnu'r bachyn
'Fasa Taid yn prowd'
'Sa Taid yn prowd ohona fi dwi'n meddwl. Fi ydi'r unig un allan o'i draed o sy' dal i 'sgota.

Does 'na neb arall o'r teulu yn 'sgota ond fi. Mae'n bechod. Dydi plant heddiw ddim isio dysgu. Compiwtar ydi bob peth gynnon nhw ia.
Mae 'na sbort yn 'sgota.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2024
