Pwy yw Louie Hennessey?

Louie HennesseyFfynhonnell y llun, Getty Images
GanCennydd Davies
Gohebydd chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd Cymru'n wynebu Iwerddon yn Nulyn nos Wener ym mhedwaredd rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2026.

Mae carfan Steve Tandy'n chwilio am ei buddugoliaeth gyntaf o'r gystadleuaeth, ac ymysg yr enwau ar y fainc mae un chwaraewr all ddod ymlaen i'r cae i ennill ei gap cyntaf, Louie Hennessey.

Ond pwy yw Louie Hennessey? Prif ohebydd rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies, sy'n rhoi rhywfaint o'i hanes:

I'r rhai sydd wedi bod yn dilyn gyrfa Louie Hennesey dros y blynyddoedd, doedd gweld ei enw ymysg yr eilyddion ar gyfer yr ornest yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ddim yn syndod.

Ers ei ddyddiau cynnar yn chwarae dros glwb rygbi Llanisien yn y brifddinas mae ei ddawn a'i addewid wedi bod yn glir i bawb weld.

Ar ôl treulio cyfnod yn system academi Caerdydd a Choleg Hartpury yng Nghaerloyw, fe ymunodd â Chaerfaddon ag yntau ond yn 18 oed yn chwarae ar y Rec. Mae ei yrfa wedi blodeuo yn tair mlynedd ers hynny.

Roedd Hennesey'n rhan annatod o dîm dan 20 Cymru am ddau dymor, gan gynrychioli'r tîm hwnnw ar 17 achlysur.

Louie HennesseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeoedd Hennessey 17 gwaith dros y tîm dan 20 - yma, mae'n chwarae'n erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd 2023 yn Ne Affrica

Yn ganolwr cydnerth mae ei gyflymder hefyd wedi ei alluogi i chwarae ar yr asgell dros ei glwb eleni, yn sgorio tra'n chwarae yn y safle hwnnw yn erbyn Caerloyw yn ddiweddar.

Yn ôl Prif Hyfforddwr Cymru Steve Tandy mae'r gŵr ifanc yn ysu i gael y cyfle i berfformio dros ei wlad.

"Roedd Louie rhywfaint yn anlwcus i beidio ennill ei gap cyntaf gyda ni yng ngemau'r Hydref, ac fe ddaeth e mewn i'r garfan ar gyfer ymgyrch y Chwe Gwlad â rhywfaint o anaf.

"Felly, mae e wedi bod yn rhwystredig ac mae'n barod i fynd. Mae e'n chwaraewr diwyd sydd eisoes yn gosod safonau uchel. Mae Louie yn disgwyl cymaint ohono ei hun - mae e'n berffeithydd, ond ar yr un pryd allwch chi weld y talent a'r doniau yn y chwaraewr 'ma."

Louie HennesseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hennessey yn chwarae dros Gaerfaddon yn Uwch Gynghrair Lloegr

Mae 'na feddwl mawr ohono yn Nghaerfaddon, a'r clwb yn amlwg yn proffwydo dyfodol disglair wrth gynnig cytundeb hir-dymor iddo, gyda'r chwaraewr yn bachu ar y cyfle.

Os y daw ymlaen yn Stadiwm Aviva i ennill ei gap cyntaf dyma fydd y cam nesaf o ran datblygiad ei yrfa. Ond yn ôl y gwybodusion, megis dechrau mae'r daith i Louie Hennessey, gan ei fod yn chwaraewr sydd â'r ddawn i hoelio'i le yn y tîm am flynyddoedd lawer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.