Diwrnod y Llyfr: Dewisiadau Y Clwb Darllen

Y cyflwynydd Nest Jenkins, Megan Nobile, Heledd Hulson, a Kayley Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Nest Jenkins gydag adolygwyr Y Clwb Darllen ar Radio Cymru, Megan Nobile, Heledd Hulson, a Kayley Roberts

GanY Clwb Darllen
BBC Radio Cymru
  • Cyhoeddwyd

Beth yw dewisiadau adolygwyr Y Clwb Darllen, Radio Cymru ar Ddiwrnod y Llyfr?

Y darllenwyr brwd Kayley Roberts, Megan Nobile, Heledd Hulson a'r cyflwynydd Nest Jenkins sy'n argymell cyfrol yr un.

Darllenwch a mwynhewch!

Lan Stâr gan Anthony Shapland (addasiad Cymraeg gan Esyllt Angharad Lewis)

Mae Kayley Roberts yn un o sylfaenwyr y clwb darllen LHDTC+ Llyfrau Lliwgar. Mae hi hefyd wrthi yn ysgrifennu ei hail nofel ar ôl cyhoeddi ei nofel gyntaf, Lladd Arth:

Mae addasiad Esyllt yn farddonol iawn ond dyna pam dwi wedi dewis y gyfrol yma.

Dwi wrth fy modd efo ei harddull hi. Mae'n addasiad ac nid yn gyfieithiad.

Mae yna ddau gymeriad, M a B, ac maen nhw'n byw eu bywydau fel cwpl 'lan stâr'. Mae'r stori'n datblygu dros dair blynedd ar ddiwedd yr 80au.

Mae'r ddau gymeriad yn gweithio yn y siop 'lawr grisiau'. Yn y gymuned cydweithwyr a ffrindiau ydy M a B, ac mae eu perthynas nhw yn gyfrinachol.

Mae'n stori sy'n agored i gymaint o bosibiliadau.

Yn sicr mae'n gyfraniad pwysig o'r casgliad o lyfrau LHDTC+ sydd ar gael yn Gymraeg a dwi wedi cael llawer o fwynhad o'i darllen.

Wedi ei gyhoeddi gan Anthony Shapland. £10

Lan StarFfynhonnell y llun, Anthony Shapland

Neon Roses gan Rachel Dawson

Mae Megan Nobile yn adolygu llyfrau ar ei thudalen Instagram Llyfrau Meg.

Nofel cwiar wedi ei gosod yn ne Cymru yn ystod yr 80au gyda streic y glöwyr yn rhan bwysig o'r stori yw Neon Roses.

Rydyn ni'n dilyn Eluned, y prif gymeriad, sy'n byw bywyd eithaf traddodiadol.

Mae hi ar ei ffordd i briodi a'i chariad o gartref a dyna pryd mae'n cwrdd â June o LGSM (Lesbian and Gays Support the Miners) ac wedyn mae ei bywyd hi'n newid yn llwyr.

O'n i yn lyfo'r stori ac mae'r ysgrifennu yn ffantastig.

Er ei bod yn nofel Saesneg mae lot o Gymreictod yn y stori. Mae'n rhoi persbectif gwahanol o'n i heb ddysgu amdano.

Wedi ei gyhoeddi gan John Murray Press. £10.99

AWDURFfynhonnell y llun, John Murray Press

Y Cylch Cyfrin gan Derfel Williams

Dewis y ddarllenwraig Heledd Hulson yw Y Cylch Cyfrin gan Derfel Williams:

Yn Y Cylch Cyfrin rydan ni'n mynd i sawl syrcas mewn sawl cyfnod o amser rhwng 1933 yn Yr Almaen cyn yr Ail Ryfel Byd a 2023 yng ngogledd Cymru.

Mae gynnon ni deulu cymhleth iawn a 'dan ni yn mynd ar daith efo syrcas y brodyr Davies a syrcas y teulu Vogel ar draws Ewrop a Chymru ac yn gweld sut mae'r byd syrcas yn newid wrth i amser fynd yn ei blaen, ac yn gweld sut mae agweddau cymdeithas yn newid

Wnes i fwynhau'r gyfrol yn arw. Dydi ddim yn gyfrol gwbl ysgafn, mae petha' digri a doniol ynddi ond mae hi hefyd yn trafod themâu eithaf heriol. Darllenwch!

Wedi ei gyhoeddi gan Carreg Gwalch. £8.99

Yr awdur Derfel Williams yn y syrcas gyda'i nofelFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdur Derfel Williams yn y syrcas gyda'i nofel

Mor Hapus gan Gwenllian Ellis

Nest Jenkins yw cyflwynydd Y Clwb Darllen:

Wnes i ddarllen Mor Hapus dros y 'Dolig a rhaid i fi gyfadde 'mod i wedi ei mwynhau hi yn fawr.

Rhywun fel fi yw'r gynulleidfa darged mae'n siŵr; mae'n ferchetaid, yn ifanc ei ffordd, yn fodern, yn chwa o awyr iach a mae jest yn fy atgoffa o fi a fy ffrindiau gorau i.

Rydyn ni'n dilyn perthynas Thelma a Magw, dwy ffrind gorau. Mae elfennau o'r ddwy ymhob berthynas blatonig a dwfn.

Dwi wedi argymell hon i gymaint o ffrindiau, yn enwedig rhai sydd eisiau darllen mwy yn Gymraeg neu sydd heb ddarllen ers sbel. Mae'n hygyrch, mae'n hawdd ac yn hwyl.

Wedi ei gyhoeddi gan Y Lolfa. £11.99

Yr awdures Gwenllian Ellis a'r nofel Mor HapusFfynhonnell y llun, Gwenllian Ellis/Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdures Gwenllian Ellis a'r nofel Mor Hapus

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Gwrandewch ar: