Arestio tri ar amheuaeth o ysbïo: Galw ar y prif weinidog i ateb cwestiynau

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan yn wynebu galwadau i ateb cwestiynau yn y Senedd

  • Cyhoeddwyd

Dylai Prif Weinidog Cymru ateb cwestiynau yn y Senedd ar ôl i dri pherson gael eu harestio ar amheuaeth o ysbïo dros China, meddai'r Ceidwadwyr Cymreig.

Cafodd tri dyn â chysylltiadau â Chymru eu harestio ddydd Mawrth.

Roedd y tri dyn, 39, 43 a 68 oed, wedi eu harestio yng Nghymru a Llundain fel rhan o ymchwiliad gwrthderfysgaeth o dan y Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol.

Cadarnhaodd yr heddlu fore Iau bod y tri wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.

Nid yw enwau'r tri dyn wedi eu cyhoeddi gan Heddlu'r Met, sy'n arwain yr ymchwiliad.

Er hyn, mae'r AS Llafur o'r Alban, Joani Reid, wedi cadarnhau mai ei gŵr, David Taylor - cyn ymgynghorydd i wleidyddion Llafur Cymru - yw un o'r dynion

Mewn datganiad, dywedodd Ms Reid nad oedd erioed wedi gweld unrhyw beth a fyddai wedi gwneud iddi amau bod ei gŵr "wedi torri unrhyw gyfraith", gan ychwanegu "nad oedd yn rhan" o weithgareddau busnes ei gŵr.

David Taylor gyda'i wraig Joani ReidFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS Llafur o'r Alban, Joani Reid, wedi cadarnhau mai ei gŵr yw un o'r dynion a gafodd eu harestio, David Taylor

Fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig alw am ddatganiad gan y Prif Weinidog, Eluned Morgan, ar y sefyllfa, gan ddweud bod "rhaid i ni sicrhau nad yw Cymru yn wan pan mae'n dod i ddiogelwch y DU", a bod cwestiynau i Ms Morgan eu hateb.

Cafodd y cais ei wrthod gan Lywydd y Senedd, Elin Jones.

Dywedodd y llywodraeth nad ydyn nhw eisiau gwneud sylw ar ymchwiliad byw yr heddlu.

Oriau cyn datganiad Ms Reid ddydd Mawrth, fe wnaeth Heddlu'r Met ddweud bod dyn 39 oed wedi ei arestio yn Llundain.

Fe wnaeth y llu ychwanegu bod dyn 68 oed wedi ei arestio ym Mhowys, a dyn 43 oed wedi ei arestio ym Mhont-y-clun, Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd yr heddlu bod y tri wedi eu cyhuddo o gynorthwyo gwasanaeth cudd-wybodaeth dramor o dan adran tri y Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol, a gafodd ei gyflwyno yn 2023.

Dywedodd Heddlu'r Met eu bod wedi eu cefnogi gan heddlu gwrthderfysgaeth yng Nghymru ac yn Yr Alban.

Mae'r heddlu hefyd wedi cynnal archwiliad mewn cyfeiriad ym Mhont-y-clun sy'n gysylltiedig ag un o'r dynion a gafodd eu harestio.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.