Het dal a siôl wlân: Golwg ar ddillad traddodiadol y Cymry
- Cyhoeddwyd
A hithau'n Ddydd Gŵyl Dewi, bydd nifer o 'ferched bach Cymreig' mewn het ddu dal a siôl, a bechgyn mewn gwasgod a chap fflat i'w gweld ar draws y wlad heddiw.
Mae hi'n anodd meddwl mai dyna sut oedd ein cyn-deidiau a neiniau'n arfer gwisgo bob dydd ar un adeg, nid dim ond am un dydd y flwyddyn. Dyma gipolwg ar hen ffasiwn y Cymry.

Het, sgert, ffedog, betgwn neu flows - steiliau ychydig yn wahanol, ond gwisgoedd tebyg yn eu hanfod


Roedd y math o ddillad roedd y Cymry'n eu gwisgo yn amrywio yn ôl eu bywoliaeth, fel mae'r darlun yma o 1851 yn ei ddangos


Er fod trowsus pen-glin a hosanau wedi dod yn llai cyffredin ymhlith y dynion ledled Prydain ar ôl diwedd yr 1700au, roedden nhw dal i'w gweld yng nghefn gwlad Cymru yn yr 1850au, yn cael eu gwisgo gan ddynion tlawd, neu ar gyfer achlysuron arbennig

Roedd het dal y merched yn debyg i hetiau tal y dynion. Yn Abergwaun yn 1797, cafodd merched mewn hetiau tal a chlogynnau coch hyd yn oed eu camgymryd am filwyr, wrth i Jemima Niclas gasglu merched ynghyd i roi ofn i'r Ffrancwyr oedd yn ceisio ymosod


Mae'n debyg fod diolch i'r Arglwyddes Llanofer (chwith) am ddyfeisio'r 'wisg Gymreig' sydd yn gyfarwydd i ni heddiw. Dadleuodd yn ei thraethawd buddugol yn Eisteddod Caerdydd yn 1834 y dylai pawb wisgo'r wisg draddodiadol; roedd rhaid i'r gweithwyr ar ei stâd yn Sir Fynwy wisgo felly a hyd yn oed westeion oedd yn dod i bartïon yno. (dde) Telynorion Llanofer yn y wisg yn Eisteddfod Caerwys yn 1892, oedd o dan nawdd yr Arglwyddes

Rhai o ddyluniadau A. Cadwaladr o gyfrol yr Arglwyddes Llanofer, o'r enw Dull-wisgoedd Cymru, ble'r oedd wedi gwneud cofnod o wisgoedd merched o wahanol ardaloedd o Gymru - o'r chwith, gwisgoedd Bro Gŵyr, Ceredigion a dwy wisg o Gwent


Erbyn diwedd yr 1800au, roedd y math yma o wisg yn llai cyffredin fel gwisg dydd-i-ddydd, ond dal yn cael ei gwisgo ar gyfer achlysuron arbennig, ac wedi ei sefydlu'n ddwfn yn niwylliant y cardiau post, a oedd yn dangos delwedd ystrydebol o Gymry'r cyfnod

Dydd Gŵyl Dewi hapus!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2024

- Cyhoeddwyd2 Mai 2021
