Tynnu'n ôl o etholiad 'ar ôl i ddau ddyn weiddi a rhegi ar fy mab'

"Mae'n rhaid i fy nheulu ddod yn gyntaf," meddai Nicola Harteveld
- Cyhoeddwyd
Mae mam wnaeth sefydlu ymgyrch gwrth-fwlio yn dilyn marwolaeth ei merch wedi tynnu'n ôl o ras wleidyddol ar ôl i'w mab gael ei sarhau.
Fe wnaeth Nicola Harteveld dynnu ei henw yn ôl fel ymgeisydd mewn isetholiad cyngor yn Sir Benfro, gan ddweud bod dau ddyn wedi gweiddi a rhegi ar ei mab 14 oed am ei bod yn ymgeisydd dros Lafur Cymru.
Fe ddechreuodd Ms Harteveld Sefydliad Megan's Starr ar ôl hunanladdiad ei merch yn 2017, i gefnogi pobl ifanc sydd wedi'u heffeithio gan broblemau iechyd meddwl neu fwlio.
Mae isetholiad ward Hakin yn Aberdaugleddau yn cael ei gynnal ar 17 Mawrth, a dywedodd Llafur Cymru fod yr achos wedi cael ei adrodd i Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedodd y llu bod eu "hymholiadau i'r digwyddiad yn parhau".
'Fy mab wedi dychryn'
"Rydw i wedi treulio naw mlynedd yn lledaenu'r neges o fod yn garedig, bod geiriau'n brifo, ond mae'n rhaid i fy nheulu ddod yn gyntaf," meddai Ms Harteveld.
Dywedodd fod y dynion wedi targedu ei mab ger eu cartref ar 20 Chwefror, a'u bod wedi defnyddio gair rheg sarhaus wrth ddisgrifio Harteveld fel rhywun sy'n "caru Llafur".
"Beth bynnag oedd y bwriad, dyw pobl ddim yn deall bod geiriau'n gallu brifo a gwneud niwed," meddai.
"Roedd fy mab wedi dychryn."
Dywedodd Ms Harteveld nad oedd ei mab wedi sôn wrthi am y digwyddiad i ddechrau, gan ofni y gallai arwain ati i dynnu'n ôl o'r ras.
"Does dim ots gen i os yw'n cael ei gyfeirio ata i, oherwydd fe wnes i roi fy hun ymlaen, ond wnes i ddim rhoi fy mhlant ymlaen," ychwanegodd.
"Gyda hyn yn digwydd pan oedd fy mab yn 14 oed hefyd, roedd y tebygrwydd [i Megan] yn ormod.
"Geiriau wnaeth gymryd Megan oddi wrthym ni."
Dywedodd Ms Harteveld ei bod wedi gwneud y penderfyniad i dynnu'n ôl cyn iddi ddechrau ymgyrchu.
"Os dyna yw meddylfryd pobl, lle gallan nhw ddweud geiriau fel 'na ar y stryd wrth rywun - wrth blentyn - yna dydw i ddim yn barod i fy nheulu wynebu hynny."

Dywedodd Ms Harteveld ei bod wedi penderfynu bod yn ymgeisydd yn yr isetholiad ar ôl i'r Prif Weinidog Eluned Morgan ymweld â'i helusen
Doedd hid ddim yn disgwyl gweld ymddygiad o'r fath, gan gredu bod cynghorwyr yn gweithio ar faterion cymunedol - nid gwleidyddiaeth plaid.
Roedd Ms Harteveld wedi bod yn gynghorydd tref yn Aberdaugleddau am dair blynedd, ac wedi sylweddoli y byddai angen "ysgwyddau llydan" arni i ymgeisio ar ran Llafur Cymru mewn etholiad cyngor sir.
Ond cafodd ei hannog i roi cynnig arni wedi i'r Prif Weinidog Llafur, Eluned Morgan, ymweld â'i helusen.
Mae Ms Harteveld yn credu bod profiadau fel rhai ei theulu yn dychryn menywod rhag ymwneud â gwleidyddiaeth.
"Mae'r mathau yma o bethau yn atal ymgeiswyr da iawn rhag dod ymlaen," meddai.
"Mae'n gwneud i mi deimlo'n rhwystredig iawn bod menywod gwych ledled y wlad, a bod angen menywod mewn gwleidyddiaeth.
"Rydyn ni angen persbectif menywod."
'Bygythiad, nid gwleidyddiaeth'
Dywedodd Llafur Cymru eu bod "yn drist bod Nicola wedi gorfod gwneud y penderfyniad oherwydd camdriniaeth a gyfeiriwyd ati hi a'i theulu.
"Nid gwleidyddiaeth yw hynny, ond codi ofn," meddai llefarydd.
"Nid yw Llafur Cymru yn goddef aflonyddu a bygwth unrhyw ymgeisydd gwleidyddol, cynrychiolydd etholedig na'u teuluoedd.
"Mae'r digwyddiad wedi cael ei adrodd i Heddlu Dyfed-Powys ac mae wedi'i chofnodi fel trosedd aflonyddu. Mae ymchwiliadau'r heddlu ar y gweill."
Ychwanegodd y llefarydd y dylai gwleidyddiaeth fod am "syniadau a gwasanaeth i'n cymunedau, nid ymosodiadau personol na sarhad".
"Dylen ni fod yn annog mwy o bobl i sefyll, nid eu gyrru i ffwrdd," medden nhw.
Y rhai eraill sy'n sefyll yw'r ymgeiswyr annibynnol Derrick Abbott, Lee James Bridges a Duncan Edwards, Sam Booth o'r Blaid Werdd yng Nghymru, Brian Taylor o'r Ceidwadwyr Cymreig, Scott Thorley o Reform UK, a Sam Warden o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.