Y Dewi-iadur: Oes dathliadau Gŵyl Dewi yn eich ardal chi?

Pared Gwyl Dewi
  • Cyhoeddwyd

O orymdeithiau i gyngherddau, fe fydd dathliadau Gŵyl Dewi yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru.

Mae 1 Mawrth ar ddydd Sul eleni, ac mae digwyddiadau wedi eu trefnu o ddydd Gwener ymlaen.

Felly dyma restr o rai o'r pethau sydd wedi eu trefnu i ddathlu ein nawddsant.

Dydd Gwener, 27 Chwefror

Aberteifi

Parêd yn dechrau o'r Ysgol Gynradd am 09:30, ac yn mynd ar hyd Stryd William, heibio i Neuadd y Dref ac i'r Castell lle bydd adloniant.

Pen-bre

Rhwng 10:30 a 14:00 yn y Neuadd Goffa fe fydd perfformiadau cerdd a barddoniaeth i ddathlu diwrnod cenedlaethol Cymru. Mynediad am ddim.

Dydd Sadwrn, 28 Chwefror

Caerwys

Penwythnos cyfan o ddathlu. Bore coffi yng Nghapel Bethel am 10:00 fore Sadwrn, lle bydd cyfle i ddysgu caneuon Cymraeg ar yr iwcalele. Am 19:00 fe fydd Noson Lawen ddwyieithog yn Neuadd y Dref.

Am 14:00 ddydd Sul bydd cyngerdd Gŵyl Dewi yn Eglwys Caerwys gyda chorau meibion a merched Caerwys a'r delynores leol Chloe Powell-Davies.

Caernarfon

Gorymdaith gyda band drymiau Merched Beca a Seindorf Arian Llanrug i gychwyn am 13:00 o Gei Llechi, o gwmpas Castell Caernarfon ac i'r Maes. Bydd y gantores Eve Goodman a Chôr Lleisiau Llawen yn diddanu'r dorf.

Ewch draw i'r Stesion hefyd ble gewch chi beintio wynebau a gwrando ar fand lleol Y Cyffro yn chwarae am 12:00.

Aberystwyth

Bydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn dechrau am 13:00 gyda Bagad Ystwyth, band pres y dref a Samba Agogo. Ewch draw i'r Hen Lew Du am 15:30 ar gyfer sesiwn werin.

Caerfyrddin

Parêd o Eglwys San Pedr i Clos Mawr yn cychwyn am 11:00. Dewch â'ch baneri a'ch clychau.

Llanbed

Gorymdaith o gampws hŷn Ysgol Bro Pedr, ar hyd strydoedd Llanbed ac i'r Brifysgol ble fydd adloniant wedi ei drefnu. Cychwyn am 11:00.

Y Barri

Cerddoriaeth fyw yn Sgwâr y Brenin rhwng 10:00 a 15:00, ble fydd stondinau, gweithdai ac adloniant. Ar y dydd Sul, mae ras hwyl yn cychwyn o bromenâd Ynys y Barri am 11:00 - gwisg ffansi ar y thema 'Cymru'.

Abertawe

Drwy'r penwythnos bydd digwyddiadau i'r teulu cyfan yng nghanol y ddinas, gan gynnwys celf a chrefft, gweithdai a bwydydd. Ar 1 Mawrth, bydd parêd yn cychwyn am 14:00 o Stryd Rhydychen.

Wrecsam

Dathliadau rhwng 10:00 a 16:00 dros y penwythnos cyfan yn Sgwâr y Frenhines, Heol y Frenhines a Chapter Court. Dathliadau o fwyd, diwylliant, cerddoriaeth, dawnsio, gweithgareddau i blant, celf a cherddoriaeth. Rhad ac am ddim

Dydd Sul, 1 Mawrth

Llithfaen

Fel rhan o Ŵyl Dewi Pws bydd gweithdy sgwennu caneuon yn Nhafarn y Fic gyda Gai Toms rhwng 14:00 a 17:00, cyn perfformiad yn y bar gan Elidyr Glyn. Am 19:30 fe fydd Gai Toms yn ei ôl yn perfformio yn y Llofft gyda Linda Griffiths.

Llanarthe

Dathliad o ddiwylliant Cymru yn Ngŵyl y Pethau Bychain yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Cerddoriaeth fyw gan artistiaid newydd Gorwelion y BBC, gweithdai creadigol a gweithgareddau natur.

10:00–16:00. £12 i Oedolion, £6 i blant ac am ddim i aelodau.

Pencaenewydd

Gorymdaith drwy'r pentref i gychwyn o Gapel Pencaenewydd am 11:00. Bydd Bore Coffi o 10.30 ymlaen.

Rhoshirwaun

Cyngerdd yn Neuadd Rhoshirwaun am 19:30 gyda Chôr Meibion Ardudwy, Côr Cantorion Llŷn a'r delynores Begw Llyr Williams. Mynediad £7, plant am ddim.

Llanberis

Cyngerdd a chawl yn Eglwys St Padarn gyda Chôr Dyffryn Peris a Miri Sion, Rachel Bedwin, Steffan Llewelyn, Meilir Tudur Davies a Tim Ward yn cyfeilio. Rhoddion at achosion da.

Caerdydd

Gorymdaith o Neuadd y Dref am 12:00, ar hyd Heol y Frenhines ac i Neuadd Dewi Sant.

Hefyd, rhwng 15:00 a 21:00 bydd perfformiadau byw gydag artistiaid electronig yn y Paradise Garden, gan gynnwys Ani Glass a set DJ gan Esther.

Yn y Senedd ac adeilad y Pierhead ar ddydd Sul – ac ar y dydd Sadwrn - bydd nifer o ddigwyddiadau am ddim gan gynnwys gweithdai i blant, cerddoriaeth byw a chynhyrchiad theatr.

Abergwaun

Digwyddiadau o gwmpas y dref yn ystod y penwythnos cyfan - gan gynnwys marchnad bwyd, digwyddiadau i'r teulu a cherddoriaeth fyw. Bydd gorymdaith yn cychwyn o faes parcio Stryd y Gorllewin am 14:30 ar y dydd Sul.

Ar draws Cymru

Cyfle i ymweld â nifer o leoliadau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru am ddim. Ar 15 safle fe fydd digwyddiadau diwylliannol yn cael eu cynnal gan gynnwys perfformiadau byw, gweithgareddau crefft, helfeydd i blant, dawnsio clocsio, teithiau tywys a dangosiadau o sgiliau traddodiadol.

Y lleoliadau sy'n rhan o'r dathliadau ydi: Neuadd a Gardd Erddig, Castell Y Waun, Gardd Bodnant, Tŷ Aberconwy, Castell Penrhyn, Glan Faenol, Plas Newydd, Sarn y Plas, Castell Powis, Tŷ Tredegar, Gerddi Dyffryn, Dinefwr, Tŷ'r Masnachwr Tuduraidd, Gardd Goedwig Colby. Ewch draw i wefan yr Ymddiriedolaeth am fwy o wybodaeth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: