Diwedd cyfnod i wardeiniaid Ynys Enlli

Mari Huws, warden Enlli
Disgrifiad o’r llun,

Mari Huws, warden Enlli

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Fis Medi 2019, fe groesodd Mari a'i chymar Emyr y swnt i fod yn wardeiniaid ar Ynys Enlli.

Dros chwe blynedd yn ddiweddarach maen nhw'n paratoi i ddychwelyd i fyw i'r tir mawr gyda'u merch fach, Lleucu, a babi arall ar y ffordd.

Dywedodd Mari ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru ei fod "yn ddiwedd cyfnod" ond mai dyma'r penderfyniad cywir.

"Wnaethon ni benderfynu ym mis Rhagfyr ein bod ni am adael yr ynys. Mae Enlli'n cymryd gymaint o egni rhywun a phlant hefyd a ti'n gorfod penderfynu lle i roi dy amsar.

"Mae'n gyfnod cyffrous i Enlli efo lot o gynlluniau newydd ar y ffordd, ac mae'n dda cael tîm newydd i fynd â phethau ymlaen efo'r cynlluniau newydd mewn lle," ychwanegodd.

Byw ar Ynys Enlli yn ystod Covid

Pan adawodd Emyr a Mari'r tir mawr i fyw ar ynys fach, ddwy filltir oddi ar drwyn Pen Llŷn, roedden nhw'n gwybod y byddai bywyd yn sylfaenol, ond roedd addasu i fywyd ar Enlli tra bod pandemig byd yn torri yn her arall.

"Pan 'nath Covid ddechra' oeddan ni'n dod i ddiwadd ein gaeaf cynta ac Emyr a fi wedi gweithio a byw ein hunain.

"Roedd yr ynys yn dechra' deffro eto, y cwch cynta' yn cyrraedd yn y gwanwyn gyda phrysurdeb, y gwirfoddolwyr, criw'r wylfa adar, Gareth a Muriel sy'n ffermio ar Enlli yn ôl ond o fewn dim daeth y lockdown.

"Be' oedd yn rhyfeddol oedd nad oedd yna neb yn dallt ei fod am fod yn gyfnod mor hir.

Y Wardeiniaid yn 2024 (Emyr, Lois, Mari ac Aron)Ffynhonnell y llun, Mari Huws
Disgrifiad o’r llun,

Y Wardeiniaid yn 2024 (Emyr, Lois, Mari ac Aron)

"Oeddan ni wedi bod yn gweithio flat out. Y cyfnod prysura' ar Enlli ydi mis Mawrth. Mae yna waith paratoi at y tymor, ailagor y tai ar ôl y gaeaf cyn i'r ymwelwyr gyrraedd felly oeddan ni'n falch o'r hoe am y dair wythnos cynta', nath droi yn chwe wythnos, yn dri mis ac yn y blaen."

Ond oherwydd cyfyngiadau Covid, prin iawn oedd yr ymwelwyr a groesawodd Emyr a Mari i'r ynys yn ystod eu tymor cyntaf fel wardeiniaid:

"Yn be' ddylai fod wedi bod yn dymor prysuraf yr ynys, jest 12 ohonan ni oedd yma.

"Ti'n sbïo 'nôl 'wan efo lot o atgofion melys ohonan ni fel cymuned, pawb yn byw a dal gwaith i'w wneud.

"Wnaethon ni ddefnyddio'r cyfnod yna i wneud petha fasan ni heb gael rownd i 'neud os fasa ymwelwyr wedi bod, fel clirio'r beudai oedd efo lot wastraff hanesyddol.

"Fatha pawb, odd o'n gyfnod ansicr ond oedd Enlli yn un o'r llefydd gora' yn y byd i fod mae'n siŵr."

gweithioFfynhonnell y llun, Mari Huws
Disgrifiad o’r llun,

Gweithio'n galed

Felly beth mae'n ei olygu i fod yn warden ar Enlli?

"Mae bob diwrnod yn wahanol, ti'n delio efo problema' gwahanol bob dydd.

"Cyfrifoldeb y warden ydi bob dim ti'n weld. Gyda'r adeiladau mae o'n gyfrifoldeb y warden i gadw llygad arnyn nhw, trwsio be' ti'n medru a threfnu contractwyr i bob dim arall.

"Felly, pan oeddan ni'n cyrraedd, oedd gynnon ni lot o waith i wneud i deimlo ein bod ni'n medru gwneud ein swydd achos mae pethau'n dirywio'n sydyn ar Enlli.

"Mae lot o egni yn mynd i mewn i betha' hollol di-ddiolch fasa neb callach bo' chdi wedi gwneud, ond mae pobl yn sylwi os ti heb eu gwneud nhw, trwsio guttering a phetha fel'na.

"Ond mae'n rôl ni wedi bod lot ehangach na hynna. Mae gan Emyr a fi ddiddordeb mewn sawl agwedd o fywyd ar Enlli.

"Am le mor fach mae gen ti agweddau gwyddonol, hanesyddol, celfyddydol, ysbrydol a mae Emyr a fi efo diddordab ymhob agwedd o fywyd ar yr ynys, felly rydan ni wedi taflu'n hunain i mewn i gynllunia' ar y tir, cynllunia' ar yr adeiladau, cynllunia' diwylliannol i wneud y rôl yn fwy na chynnal a chadw lletai gwylia'."

Gwaith adnewyddu ar doeau'r tai.Ffynhonnell y llun, Mari Huws
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith adnewyddu ar doeau'r tai

O ddod o hyd i grantiau i adnewyddu'r tai, i droi'r storws yn ganolfan groesawu, i ddatblygu cynllun croesawu artistiaid preswyl, i blannu perllan a datblygu system hidlo dŵr, mae Mari ac Emyr wedi cyfrannu i bob agwedd o fywyd ar yr ynys.

Er fod "y gwaith yn ddi-ddiwedd" mae ei gweledigaeth wedi bod yn glir:

"Beth sydd wedi bod yn bwysig i fi wrth wneud unrhyw waith ar Enlli ydi meddwl am y dyfodol heb golli'r cymeriad a gofyn i chdi dy hun, 'sut wyt ti'n datblygu Enlli heb golli be' sy'n 'neud Enlli yn Enlli?'."

teuluFfynhonnell y llun, Mari Huws
Disgrifiad o’r llun,

Emyr, Mari a Lleucu

Ffarwelio ag Ynys Enlli

Ar ôl blynyddoedd yn byw ar Enlli, mae Mari ac Emyr wedi addasu i fywyd gwahanol iawn, gan hefyd fagu eu merch fach dair blwydd oed, Lleucu, ar yr ynys. Does dim signal ffôn, toiledau compost yn unig sydd yno ac mae ganddyn nhw eu system ddŵr a phŵer eu hunain.

"Mae yna ddau beth yn wir am Enlli drwy'r adeg," eglurodd Mari.

"Ar un llaw ti'n gallu bod yn hollol annibynnol a medru cynnal eich hunain ond ar y llaw arall ti'n hollol ddibynnol ar dy gymuned ac ar Colin a'i gwch i ddod â bob dim.

"Mae'n lle cyfoethog, cymhlath, mae'n fyd yn ei hun, nid yn fan gwyn fan draw."

Bydd Mari a'i theulu'n gadael Enlli ac yn dychwelyd i Ddyffryn NantlleFfynhonnell y llun, Mari Huws
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mari a'i theulu'n gadael Enlli ac yn dychwelyd i Ddyffryn Nantlle

Dychwelyd i Ddyffryn Nantlle lle magwyd Mari yw'r bwriad ar ôl gadael yr ynys. Yn ôl Mari, bydd hynny'n gwneud ailaddasu'n haws:

"Dydi o ddim fel symud yn ôl i rhyw ddinas, mi fyddwn ni yn agos at lynnoedd a mynyddoedd."

Ond beth fydd Mari'n hiraethu amdano fwyaf ar ôl dros chwe blynedd ar Ynys Enlli?

"Bod mor agos at y môr, dwi'n hannar morlo erbyn 'wan, a'r gallu i nofio mewn bioluminescence o dan y sêr."

Gadael Enlli wedi chwe blynedd o fod yn warden

Rhaglen Aled Hughes

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb