Cerdded 3,000 milltir o Ferthyr i Istanbul dros y Gymraeg

Fe goddodd Jamie Bevan £3,000 ar daith gerdded o amgylch Cymru y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Jamie Bevan o Ferthyr Tudful yn hen gyfarwydd â cherdded yn bell dros achosion da.
Yn 2025, fe gerddodd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ac yn i fyny ar hyd Clawdd Offa i fynd i Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Drwy wneud hynny fe gododd dros £3,000 i Gylch Meithrin y Gurnos ym Merthyr Tudful.
Ond eleni roedd yn awyddus i anelu at brosiect anoddach fyth, ac fe fydd yn cychwyn ar daith arall ym mis Ebrill.

Roedd taith Jamie o gwmpas Cymru yn ddigon o her, ond mae cerdded i Istanbul yn fater arall
"Edrychais i ar y map a meddwl 'lle nesa?'," meddai Jamie wrth BBC Cymru Fyw.
"Roedd Istanbul yn edrych yn lle digon egsotig - y porth i Asia - felly dyma fi'n dewis fan'na.
"Dwi ar ddeall mai fi fydd y cyntaf i gerdded o Ferthyr i Istanbul - mae ambell un wedi 'neud y daith o Lundain, ond ddim o Ferthyr."
Mae Jamie'n disgwyl y bydd hi'n cymryd tua pedwar mis a hanner i gwblhau'r daith.

Bydd esgidiau cerdded eitha cadarn yn hanfodol i Jamie!
Fel ar ei daith o gwmpas Cymru, fe fydd yr arian sy'n cael ei godi yn mynd tuag at achos sy'n agos iawn at ei galon - Cylch Meithrin y Gurnos ym Merthyr. Hyd yma mae Jamie wedi llwyddo i gasglu dros £1000 ar wefan casglu rhoddion.
"Fy chwaer, Myfanwy Harman, yw pennaeth y cylch, a dyma gylch meithrin cyfrwng Cymraeg cyntaf y Gurnos, sy'n ardal ddifreintiedig.
"Maen nhw'n 'neud gwaith gwych gyda'r plant yn y Gymraeg mewn ardal lle mae cyfleoedd fel'na yn brin.
"Mae'r cylch hefyd yn gam cyntaf i fedru cael trydedd ysgol gynradd Gymraeg ym Merthyr - mae'r angen yna."
Ers i'r gronfa ar gyfer y daith gerdded agor, mae Jamie eisoes wedi casglu £1,000, a'r nod yw casglu £5,000.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2025

- Cyhoeddwyd15 Hydref 2019
