Crynodeb

  1. Gosod torchau yng nghwmni y gyn-athraweswedi ei gyhoeddi 13:05 GMT+1

    Fe wnaeth y Brenin a'r Frenhines osod torchau yn yr ardd goffa yng nghwmni Mair Morgan.

    Hi yw'r unig athrawes, a oedd yn yr ysgol yn 1966, sydd yn parhau yn fyw.

    Roedd hi'n 25 adeg y drychineb.

    MairFfynhonnell y llun, PA Media
  2. Nofel graffeg yn adrodd yr hanes o safbwynt un teulu yn y pentrefwedi ei gyhoeddi 13:01 GMT+1

    Mae'r artist ifanc o Ferthyr Tudful, Jack Lewis wedi cyhoeddi nofel graffeg yn y Gymraeg a'r Saesneg o'r enw Aberfan: Stori un teulu.

    Esboniodd fod sawl aelod o'i deulu wedi bod yn dyst i'r trychineb a bod y cynnwys yn seiliedig ar brofiadau personol y perthnasau hynny.

    "Mae'r llyfr yn sôn am beth ddigwyddodd ym mywyd fy hen ewythr Wyndham, sydd wedi marw nawr. Roedd o'n un o'r glowyr ac yn un o'r bobl gyntaf i weld y trychineb," meddai ar raglen Llwyfan BBC Radio Cymru.

    "Wedyn mae fy modryb Alisson sy'n un o'r bobl sydd wedi goroesi'r trychineb - un o'r plant yn Ysgol Pantglas wnaeth dod mas.

    "Ac yna mae fy modryb Ann, chwaer hynaf y teulu sy'n gallu cofio bob dim ddigwyddodd y diwrnod hwnnw. Mae hi'n cofio beth oedd e fel i edrych ar ôl Alisson, achos roedd hi'n byw gyda'r guilt o'r trychineb ac roedd yn meddwl am e bob dydd, roedd e'n rhywbeth rili galed i'r teulu mynd trwy."

    cyfrol

    Ychwanegodd ei fod wedi cael ei ysbrydoli i greu'r nofel ar ôl gweld llun o'i fodryb rai dyddiau wedi'r trychineb.

    "Doedd pobl ddim rili yn siarad am y trychineb, roedd pobl yn gwybod bod e wedi digwydd, sut, pam a phryd, ond doedd neb yn sôn am be oedd y teulu wedi mynd trwy, y stori llawn.

    "Ges i lun o fy modryb Ann ac roedd hi gyda'r Brenin a'r Frenhines... nes i weld y llun 'ma a meddwl mae 'na stori yma, raid i mi weld lle mae'n mynd' a 'naeth e just mynd a mynd o fan'na.

    "O'n i'n meddwl bod rhaid i bobl glywed am hyn." Soniodd hefyd bod ei deulu wedi bod yn gefnogol iawn drwy'r broses: "Roedden nhw eisiau siarad am e, ond doedd neb wedi gofyn o'r blaen, a dyna oedd y broblem.

    "Roedden nhw eisiau i bobl wybod fel bod e ddim yn digwydd eto."

  3. Cannoedd wedi ymgasglu i gofio ac yn cael eu cyfarchwedi ei gyhoeddi 12:58 GMT+1

    Y Prif Weinidog a'r Brenin yn cyfarch y dorf

    rhun
    breninFfynhonnell y llun, bbc
  4. Cywiro ynganiad y Tywysog o Aberfanwedi ei gyhoeddi 12:57 GMT+1

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Aberfan

    tywysog

    Fe stopiodd y Tywysog William i siarad â nifer o aelodau’r cyhoedd oedd wedi ymgynnull y tu allan.

    Yn eu plith roedd disgyblion o Ysgol Rhydywaun, a ddywedodd wrth y Tywysog eu bod nhw wedi dysgu am y trychineb yn yr ysgol.

    Fe wnaeth un ddynes hefyd bwyso draw i gywiro William ar ei ynganiad o Aberfan - ‘f’ galed, nid ‘ff’!

  5. Y teulu brenhinol yn cyfarch y dorf ger yr ardd goffawedi ei gyhoeddi 12:54 GMT+1

    Brenin
    tywysog
  6. Ymateb y Bwrdd Glo a'r llywodraeth yn gwbl warthuswedi ei gyhoeddi 12:46 GMT+1

    Roedd 21 Hydref yn ddiwrnod olaf cyn gwyliau hanner tymor.

    Ychydig cyn 09:15 y bore, ar ôl dyddiau o law trwm, dymchwelodd tomen lo rhif 7 oedd wedi ei lleoli ar lethrau'r mynydd uwchben Aberfan.

    Llithrodd mwy na 100,000 tunnell o wastraff glo, mwd a dŵr lawr y rhiw yn gyflym.

    Nododd tribiwnlys, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Ustus Edmund Davies, bod y Bwrdd Glo ar fai a chafodd orchymyn i dalu iawndal o £500 am bob plentyn i deuluoedd y meirw.

    Darganfuwyd fod y domen lo wedi bod yn suddo ers misoedd ond ni wnaethwyd dim am y mater.

    Roedd rheolwyr y pwll glo wedi cael rhybuddion am y peryglon cyn Hydref 1966.

    Disgrifiad,

    Adroddiad Owen Edwards - un o'r gohebwyr yn Aberfan yn 1966

    Roedd y cyn-farnwr, Bodfan Jenkins, yn ddisgybl chweched dosbarth mewn ysgol gerllaw pan sylweddolodd fod rhywbeth difrifol wedi digwydd.

    Aeth yno i helpu.

    Ddydd Sul ar raglen Bwrw Golwg dywedodd bod agwedd y Bwrdd Glo a sut y deliodd y llywodraeth ar y pryd gyda'r gronfa a gasglwyd er budd y teuluoedd yn gwbl warthus.

  7. Y Tywysog William yn gosod torch yn Aberfanwedi ei gyhoeddi 12:44 GMT+1

    WilliamFfynhonnell y llun, PA Media
  8. Y Brenin a'r Frenhines wedi cyrraeddwedi ei gyhoeddi 12:35 GMT+1

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Aberfan

    Y teulu Brenhinol

    Mae’r Brenin Charles a’r Frenhines Camilla bellach wedi cyrraedd hefyd.

    Fe arhosodd y Tywysog William amdanynt y tu allan i’r ardd goffa, cyn cerdded i mewn gyda nhw ar gyfer y digwyddiad cofio.

    Yn yr ardd, mae’r Tywysog yn stopio i gael gair bach ag ambell un, gan gynnwys Rhun ap Iorwerth a Stephen Kinnock.

    Bydd y teulu brenhinol yn gosod torch ac yn dweud gweddi.

  9. Blodau cyfarwydd 1966 yn nhorch y Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 12:28 GMT+1

    Mae'r dorch y mae'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yn gosod yn Aberfan heddiw wedi'i chynllunio gan athrawes sydd wedi rhoi sylw penodol i gymuned alarus Aberfan yn 1966.

    Ymhith y blodau mae blodau y byddai plant Ysgol Pantglas yn gyfarwydd â nhw sef botwm (scabious), grug, dahlias, carnasiwns a phlanhigion 'hebe' - roedd Hebe yn dduwies ieuenctid ym mytholeg Groeg.

    Mae 144 o fonynnau (stems) yn y dorch sy'n cynrychioli'r 144 o fywydau a gollwyd.

    Mae'r dail a'r blodau wedi dod o ddwy fferm gyfagos sef Fferm Flodau Coalfield yn Nhonyrefail - menter gymdeithasol sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl yn y cymoedd a Fferm Flodau Riverview yng Ngwenfô - fferm sy'n cael ei rhedeg gan athrawes.

    RhunFfynhonnell y llun, Athena
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yn Aberfan ddydd Mercher

  10. Brwydro yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol yn eu hawr dywyllafwedi ei gyhoeddi 12:22 GMT+1

    Yn dilyn y drychineb dangosodd y cyhoedd eu cydymdeimlad drwy gyfrannu'n ariannol, heb wybod i ble y byddai'r arian yn mynd.

    O fewn ychydig fisoedd roedd yna'n agos at 90,000 o gyfraniadau ac roedd y swm terfynol yn £1,606,929.

    Mae'r modd y cafodd y swm hwn ei reoli wedi bod yn destun dadlau dros y blynyddoedd.

    Cafodd yr arian ei ddefnyddio i glirio'r difrod a achoswyd gan y drychineb. Roedd yna deimladau cryfion mai'r Bwrdd Glo Cenedlaethol ddylai fod wedi gwneud hyn.

    Ad-dalodd llywodraeth y Blaid Lafur £150,000 i'r gronfa yn 1997 ac ym mis Chwefror 2007 cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad (yr enw ar y pryd) gyfraniad o £2 filiwn i Gronfa Goffa Trychineb Aberfan.

    Disgrifiad,

    Rhaglen sy'n portreadu brwydr cymuned Aberfan am gyfiawnder wedi'r drychineb

    I nodi 60 mlynedd ers y trychineb, mae rhaglen Aberfan: The Village That Fought Back yn datgelu stori’r ymgyrch eithriadol a ddatblygodd yn dilyn y trychineb: sut y cododd pentref drylliedig o alar na ellir ei ddychmygu i fynnu cyfiawnder, herio’r sefydliadau mwyaf pwerus ym Mhrydain, a gorfodi cael gwared ar y tomenni glo a oedd yn dal i lechu uwch ben eu cartrefi.

    Yn eu geiriau eu hunain, mae goroeswyr a pherthnasau’r rhai sydd ar flaen y gad yn yr ymgyrch i gael gwared ar domenni, rhai ohonynt yn siarad yn agored am y tro cyntaf erioed, yn cofio sut, yn ystod eu hawr dywyllaf, y bu pobl Aberfan yn brwydro yn erbyn y Bwrdd Glo Cenedlaethol a llywodraeth y cyfnod.

    Mae’n stori am anghyfiawnder cymdeithasol, brad sefydliadol, a thrawma sy’n parhau’n fyw yn y pentref heddiw, medd y cynhyrchwyr.

    Mae Aberfan: The Village That Fought Back wedi ei gynhyrchu gan Gynyrchiadau Ffeithiol Arbenigol BBC Studios.

    Cafodd ei darlledu nos Lun 19 Hydref ar BBC Two, BBC One Wales ac mae i'w gweld ar BBC iPlayer.

  11. Tywysog William yn cyrraedd Aberfanwedi ei gyhoeddi 12:20 GMT+1

    Tywysog Cymru yw'r cyntaf o'r teulu brenhinol i'w weld yn cyrraedd Aberfan.

    Tywysog William yn cyrraedd Aberfan
    Disgrifiad o’r llun,

    Tywysog William yn cyrraedd Aberfan

  12. Cyfle i adael neges mewn Llyfr Cofiowedi ei gyhoeddi 12:19 GMT+1

    Cyngor Merthyr Tudful

    Mae Llyfr Cofio ar-lein ar gael ar wefan Cyngor Merthyr Tudful - er cof am bawb a gollodd eu bywydau ar 21 Hydref 1966.

    Mae'r cyngor yn gwahodd pobl i adael neges, atgof neu fyfyrdod personol "er cof am y rhai a gollwyd, achubodd fywydau neu'r rhai y newidiwyd eu bywydau am byth".

    llyfrFfynhonnell y llun, Cyngor Merthyr Tudful
  13. Cysylltiad teuluol y dirprwy brif weinidog â thrychineb Aberfanwedi ei gyhoeddi 12:05 GMT+1

    Ar Dros Frecwast bu Sioned Williams, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, yn trafod ei chysylltiad personol â'r drychineb.

    "Mae'n ddiwrnod pwysig o gofio i'r genedl gyfan, ond mae gen i reswm person mewn gwirionedd o ran meddwl am arwyddocâd y diwrnod," esboniodd.

    "Roedd fy modryb, bodo Hettie, yn athrawes ifanc 23 oed yn Ysgol Pantglas. Roedd hi'n ffodus bod y dosbarth lle roedd hi gyda'i phlant bach, 'nath y wal ddal yn ddigon hir fel bod hi wedi gallu arwain nhw allan.

    "Doedd dim modd mynd allan o'r drws ond roedd 'na ddigon o le i fynd mas o'r dosbarth cyn i bethau ddymchwel.

    "Fe arweiniodd hi ei phlant mas a gweud wrthyn nhw gyd i fynd adref... yna fe arhosodd Hettie i helpu gydag adnabod cyrff ei chyd-aelodau staff... roedd hi'n un o bedwar athro wnaeth oroesi, wnaeth pump golli eu bywydau."

    Hettie Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Hettie Williams yn 2016

    Ychwanegodd fod ei modryb yn barod iawn i drafod y digwyddiad, er mor boenus oedd hynny.

    "O'dd hi'n mynd bob blwyddyn i Aberfan ac yn gosod blodau yn yr ardd goffa... o'dd hi'n dweud bod hynny'n helpu hi gofio am y plant.

    "Roedd hi wastad yn dweud ei bod hi'n ysgol mor hapus. O'dd ganddi atgofion hapus iawn o'r ysgol - y gymuned, y teuluoedd a'r plant.

    "Roedd hi'n dweud hefyd ei bod hi angen siarad am yr hyn ddigwyddodd gan fod hynny, mewn ffordd, yn arbed teuluoedd y plant a'r plant eu hunain rhag gorfod siarad.

    "...o'dd e'n anodd iddi, ac roedd hi'n cofio bob dydd am y drychineb."

    Hettie Williams - Miss Taylor gynt - gyda phlant ei dosbarth yn Ysgol Gynradd PantglasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Hettie Williams gyda phlant ei dosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas

    "Roedd hi mor ifanc, a beth sydd wastad yn taro fi yw bod un arall o'r athrawon, Michael Davies, ond yn 21 oed - newydd ddod mas o'r coleg. Gafodd hi lifft ganddo fe o Rymni lle'r oedd y ddau yn byw y bore hwnnw," ychwanegodd Ms Williams.

    "Ond ar ôl i hi fedru cadw trefn a gwneud yn siŵr bod y plant yn ddiogel, un o'r bobl yr oedd rhaid i hi adnabod oedd Michael.

    "Dwi methu dirnad, mewn ffordd, pa mor ifanc oedden nhw, ac wedyn gorfod mynd nôl yn syth i'r gwaith. Fe ailagorwyd yr ysgol wedyn mewn canolfan ac yna mewn adeilad newydd.

    "O'dd hi mor benderfynol i wneud pethau mor normal â phosib i'r plant yna, ac yn dweud pa mor bwysig oedd e i'r plant allu siarad gyda'r athrawon wnaeth oroesi oedd yn cofio'r hen ysgol a'r plant fuodd farw.

    "Roedd hi'n gofalu am ei phlant, nid yn unig y diwrnod hwnnw, ond am y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Roedd hi'n deall pwysigrwydd ei rôl hi."

  14. Prif Weinidog Cymru wedi cyrraedd yr ardd goffawedi ei gyhoeddi 12:01 GMT+1

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Aberfan

    Mae’r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth ac Ysgrifennydd Cymru, Stephen Kinnock ymhlith y rheiny sydd newydd gerdded i fyny at yr ardd goffa yn Aberfan, cyn i’r teulu brenhinol gyrraedd.

    Yno hefyd yr Aelod Seneddol lleol, Gerald Jones.

    Prif weinidog yn cyrraedd
  15. Cerdd arbennig wedi'i chomisiynu i nodi'r drychinebwedi ei gyhoeddi 11:56 GMT+1

    Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Roedd y domen lo a gwympodd ar Ysgol Pantglas wedi'i lleoli ar ben nant a gyfrannodd at y llithriad.

    Roedd y nant i’w gweld ar fapiau OS a oedd ar gael cyn i’r domen gael ei chreu.

    Bu hyn yn help i’r tribiwnlys ddod i’r casgliad y gellid fod wedi osgoi'r drychineb - ac yn enghraifft, medd arbenigwyr, o anwybyddu mapio amgylcheddol yn arwain at effaith drychinebus.

    I goffáu'r digwyddiad, comisiynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru y bardd Grug Muse i ysgrifennu ymateb i fapiau Aberfan.

    Disgrifiad,

    Grug Muse yn darllen ei cherdd - cerdd a gafodd ei chomisiynu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru i nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan

    ‘Triptych Mapiau Aberfan’ yw enw cerdd Grug.

    Darn o gelf yw triptych wedi’i rannu’n dri, ac mae’r tair rhan yn cydweithio i adrodd un stori neu gwmpasu un thema.

    Yr hyn a drawodd Grug gyntaf wrth iddi weld y mapiau, dolen allanol oedd eu maint enfawr, a’r ffaith bod na dair taflen wahanol yn rhannu’r mapiau’n dair stori.

  16. Y Frenhines Elizabeth II yn edifar na ddaeth hi i Aberfan ynghyntwedi ei gyhoeddi 11:49 GMT+1

    Aberfan brenhinesFfynhonnell y llun, PA Media

    Mae'r teulu brenhinol wedi ymweld yn gyson ag Aberfan.

    Ni ddaeth y Frenhines - y ddiweddar Elizabeth II - i Aberfan yn 1966 tan wyth diwrnod wedi'r digwyddiad.

    Dywedodd ei chyn-ysgrifennydd, y diweddar Arglwydd Charteris, ei fod yn teimlo ei fod wedi rhoi cyngor gwael iddi ac roedd yn benderfyniad yr oedd ganddi gywilydd ohono gydol ei theyrnasiad.

    Fe ymwelodd hi bedair gwaith ag Aberfan tra'n frenhines - yn 2012 fe ddaeth hi i agor Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen.

    Fe wnaeth y Tywysog Philip, yr Arglwydd Snowdon a Phrif Weinidog y DU ar y pryd, Harold Wilson, ymweld ag Aberfan ddydd Sadwrn 22 Hydref 1966 - drannoeth y drychineb.

  17. 'Capel Bethania yn dŷ galar go iawn'wedi ei gyhoeddi 11:42 GMT+1

    D Ben ReesFfynhonnell y llun, Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru

    Yn 1966 bu'r Parchedig D Ben Rees yn helpu i groesawu teuluoedd oedd wedi colli eu plant i Gapel Bethania.

    Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedden ni'n ei wneud," meddai'r Parchedig Ben Rees, wrth gofio cyrraedd Aberfan a chael rhaw gan löwr i helpu i chwilio drwy'r rwbel gwlyb.

    "O fewn ryw awr ges i fy ngalw i fynd i Gapel Bethania i groesawu teuluoedd a chyfeillion y rhai oedd wedi colli bywydau rhieni - yno hefyd yr athrawon.

    "Roedd Bethania fel tŷ galar go iawn.

    "Yno weles i sefyllfa na weles i erioed o'r blaen, a dwi'm yn meddwl welai e byth eto, gweld yr holl deuluoedd yn dod a wedyn yn dweud, 'Dyma mhlentyn i a dyma'm mhlentyn i'."

    Disgrifiodd y profiad fel "bedydd tân mewn gwirionedd, bedydd sydd wedi aros gyda fi ar hyd fy oes".

    Disgrifiad,

    Aberfan: Atgofion y Parchedig D Ben Rees a Bodfan Jenkins - y naill yn weinidog yn yr ardal yn 1966 a'r llall yn ddisgybl chweched dosbarth

    Dywed y Parchedig Ben Rees fod y profiad wedi newid ei agwedd at bobl sy'n wynebu sefyllfaoedd enbyd.

    "Mae'n gwneud i fi deimlo bod yna nerth i gael a bod yna obaith i gael, a bod yna bobl yn gwneud eu gorau glas i'ch helpu chi," meddai.

  18. Llyfr Cofio Aberfan: ‘Ma’ hwn yn llawer mwy na llyfr’wedi ei gyhoeddi 11:35 GMT+1

    Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Llyfr Cofio AberfanFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Llyfr Cofio Aberfan

    Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ail-greu Llyfr Cofio Aberfan i nodi 60 mlynedd ers y drychineb, gan sicrhau bod holl enwau’r plant a’r staff a fu farw yn cael eu cofnodi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

    Yn ôl Dilwyn Williams, Rheolwr Cadwraeth y Llyfrgell Genedlaethol, roedd angen gofal mawr wrth baratoi’r gyfrol, gan fod y gwaith yn cynnwys crefftau arbenigol fel caligraffeg a rhwymo llyfrau.

    Dilwyn Williams a David Davies, Cadeirydd Elusen Goffa AberfanFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Dilwyn Williams a David Davies, Cadeirydd Elusen Goffa Aberfan

    Cafodd fersiwn gynharach o’r llyfr ei chreu yn y 1990au, ond darganfuwyd yn ddiweddarach fod rhai enwau wedi’u camsillafu a bod enwau eraill ar goll. O ganlyniad, roedd yn hanfodol gwirio’r holl fanylion wrth greu’r fersiwn newydd.

    “Oedd hi’n 60 mlynedd 'leni, felly oedd rhaid neud yn siŵr tro hyn bo’ pob enw a phob dyddiad a phopeth yn gywir.”

    Wrth drafod arwyddocâd y gwaith i deuluoedd y rhai a fu farw ac i gymuned Aberfan, dywedodd Dilwyn fod y gyfrol yn llawer mwy na chasgliad o enwau ar dudalennau.

    “Ma’ hwn yn llawer mwy na llyfr, dydi?”

    Ychwanegodd fod gweithio ar y gyfrol wedi bod yn brofiad personol iddo yntau, gan iddo gael ei eni ym mis Ebrill 1966 sef blwyddyn y drychineb.

  19. Y glaw yn cilio cyn ymweliad y teulu brenhinolwedi ei gyhoeddi 11:32 GMT+1

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Aberfan

    Mae rhai cannoedd yn y dorf tu allan i’r ardd goffa bellach.

    Mae'r glaw mân hefyd wedi cilio rywfaint.

    Y disgwyl yw y bydd y teulu brenhinol yn cyrraedd o fewn yr hanner awr nesaf.

    y dorf
  20. Andy Burnham eisoes wedi ymweld ag Aberfanwedi ei gyhoeddi 11:29 GMT+1

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Aberfan

    Un ffigwr gwleidyddol sydd ddim yma heddiw ydi’r Prif Weinidog Andy Burnham, ond mae hynny oherwydd iddo ymweld ag Aberfan ddydd Llun.

    Fe gymerodd ei amser i siarad â phobl pan oedd o yma hefyd, gan gynnwys plant ysgol oedd wedi dod i ymweld â’r ardd goffa heb wybod ei fod o yno.

    Dywedodd fod hanes trychineb Aberfan yn rhywbeth roedd o’n ymwybodol ohono ers yn blentyn, rhywbeth roedd ei rieni yn sôn amdano.

    Fe fuodd o’n sgwrsio hefyd â rhai o oroeswyr y trychineb, oedd yn blant ar y pryd, yn ogystal â Marilyn Brown, a gollodd ei merch Janette ar y diwrnod hwnnw yn 1966.

    Mae diogelwch tomenni glo yn bwnc trafod hyd heddiw wrth gwrs, ac mi wnaeth y Prif Weinidog sôn rywfaint am arian ychwanegol fydd yn mynd tuag at hynny.

    Ond, nid dyna’r ffocws heddiw wrth gwrs, canolbwyntio ar goffáu’r trychineb mae pawb.

    Andy BurnhamFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Mr Burnham yw Prif Weinidog cynta’r DU i ymweld â safle’r drychineb ers Harold Wilson