Crynodeb

  1. Y Brenin: 'Diwrnod mor drist a thrasig'wedi ei gyhoeddi 13:48 GMT+1

    breninFfynhonnell y llun, PA Media

    "Mae wedi bod yn ddigwyddiad arbennig iawn i'r Frenhines, Tywysog Cymru a minnau fod yn ôl gyda chi yma yn Aberfan," meddai'r Brenin wrth drigolion y pentref.

    Mewn anerchiad i'r rhai yn y ganolfan gymunedol, dywedodd ei fod "wedi bod, ac y bydd bob amser, yn ddiwrnod mor drist a thrasig".

    Ychwanegodd y Brenin: "Dros y blynyddoedd, ac eto heddiw, mae wedi bod yn brofiad sy'n peri gostyngeiddrwydd dwys - clywed tystiolaethau gan oroeswyr, gan berthnasau a gollodd eu hanwyliaid, a chan y rhai a ymdrechodd mor galed i achub eraill yn ystod y drychineb ofnadwy hon."

  2. Y negeseuon ar y torchauwedi ei gyhoeddi 13:44 GMT+1

    Roedd y dorch a gafodd ei gosod gan y Brenin Charles yn llawn pabi coch ac arni y geiriau yn Saesneg "in special remembrance".

    Ar dorch y Tywysog William roedd yna neges ddwyieithog.

    Fe osododd y Frenhines Camilla dusw o flodau ger torch y Brenin.

    torchFfynhonnell y llun, PA Media
    torchFfynhonnell y llun, PA Media
    torchFfynhonnell y llun, PA Media
  3. Digwyddiadau cofio 'yn anodd ond yn gorfod digwydd'wedi ei gyhoeddi 13:39 GMT+1

    Dywedodd Irene Hollet - oedd yn ddisgybl yn Ysgol Pantglas pan ddigwyddodd y trychineb - ei bod hi'n anodd trafod yr hanes, ond ei bod yn deall pwysigrwydd sicrhau nad yw'n mynd yn angof.

    "Mae llwyth o bethau'n dod 'nol. Chi'n falch eich bod chi dal o gwmpas, ond wedyn chi'n methu'r ffrindiau a theulu gafodd eu colli," meddai wrth drafod y sylw sy'n cael ei roi i'r digwyddiad yr wythnos hon.

    "Mae'n hawdd teimlo'n euog eich bod chi dal yma weithiau.

    "Mae'n amser anodd, ond mae'n gorfod digwydd. Mae'n gorfod digwydd fel nad yw'n cael ei anghofio."

    Irene Hollet
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe wnaeth Irene gyfarfod â'r Prif Weinidog, Andy Burnham ddydd Llun

  4. Côr Ysgol Rhyd y Grug yn canu i groesawu'r teulu brenhinolwedi ei gyhoeddi 13:33 GMT+1

    Côr Ysgol Rhyd y Grug
    Disgrifiad o’r llun,

    Côr Ysgol Rhyd y Grug

    Roedd côr Ysgol Rhyd y Grug yn y ganolfan gymunedol i ganu wrth i’r Brenin a’r Frenhines ddod i mewn er mwyn cyfarfod pobl leol.

    Fe berfformion nhw ran o requiem sydd wedi ei chyfansoddi’n arbennig ar gyfer cofio’r 60 mlwyddiant eleni.

  5. 'Roeddwn i fod yn Ysgol Pantglas y diwrnod hwnnw'wedi ei gyhoeddi 13:26 GMT+1

    Val
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Val Hopkin yn byw ochr draw i'r cwm yn 1966

    Roedd Val Hopkin yn byw yr ochr draw i'r cwm yn Ynysowen ac yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Merthyr Vale.

    Roedd hi i fod yn Ysgol Pantglas ar 21 Hydref 1966 gan bod ei mam, oedd yn feichiog, ar fin rhoi genedigaeth i'w chwaer.

    "Ro'dd Mam i fod yn yr ysbyty, ac ro'n i fod i fynd i aros gyda'n Mam-gu" meddai, gan ychwanegu: "Roedd trefniadau wedi'u gneud i fi fod yn Ysgol Pantglas.

    "Ond diolch i Dduw, roedd fy chwaer yn hwyr yn cael ei geni, felly yn Ysgol Merthyr Vale yr oeddwn i.

    "Ond fe roedden ni'n clywed swn yr ambiwlansys ac fe ddes i i ddeall fy mod inne wedi colli ffrind annwyl iawn i mi, Annette druan."

  6. 'Cyffro ond tristwch hefyd yn Aberfan heddiw'wedi ei gyhoeddi 13:23 GMT+1

    Roedd Tania Merrick yn Aberfan gyda’i merch Samara a’i mab Dylan.

    “Roedd e’n eitha cyffrous cyfarfod y teulu brenhinol, ond ar yr un pryd mae’n achlysur trist hefyd, felly mae e ychydig yn rhyfedd,” meddai.

    aberfan
  7. 'Cyffrous' bod y teulu brenhinol wedi dod ymawedi ei gyhoeddi 13:18 GMT+1

    Roedd Tilly Evans, 15, yn eistedd ar wal y tu allan i’w thŷ ar Moy Road i weld y teulu brenhinol yn dod heibio, a stopio i siarad gyda phobl tu allan.

    Disgrifiad,

    'Cyffrous' i weld y teulu brenhinol yn Aberfan

  8. Dim ond pedwar o'r staff oroesodd- atgofion un ohonyn nhwwedi ei gyhoeddi 13:15 GMT+1

    Er bod ei disgyblion ifanc wedi llwyddo i ddianc nid oedd rhai o'r teuluoedd yn y tai cyfagos mor ffodus, ychwanegodd Mair Morgan oedd yn athrawes 25 oed yn yr ysgol ar y pryd.

    "Collodd bachgen bach yn fy nosbarth ei fam a'i chwaer," meddai Mair Morgan. .

    Mae Mair yn cofio hefyd am athro o ysgol arall, Bill Evans, a oedd yn byw drws nesaf i Ysgol Gynradd Pantglas.

    "Collodd ei wraig, ei fabi, a'i fab – fe ddylai fod yn yr ysgol, ond roedd ganddo tonsilitis felly roedd e gartref. Felly collodd y teulu cyfan."

    Dim ond wedyn y daeth gwir faint y drychineb yn amlwg. O'r staff i gyd, dim ond pedwar oroesodd.

    Cafodd yr athro addysg gorfforol, Howell Williams, ei gasglu yn sydyn gan ei deulu. Ond fe arhosodd Mair Morgan ynghyd â'r ddwy athrawes arall i oroesi, Hetty Williams a Reenee Williams.

    "Roedden ni'n teimlo ein bod ni gorfod bod yno," meddai. "Roedd angen gwneud rhywbeth."

    Hettie Williams, Howell Williams, Rennie Williams a Mair Morgan oedd yr unig athrawon i oroesi'r drychinebFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Hettie Williams, Howell Williams, Rennie Williams a Mair Morgan oedd yr unig athrawon i oroesi'r drychineb

    Yn ystod y diwrnodau yn syth ar ôl y drychineb, gyda'r pentref dan reolaeth yr heddlu a'r gwasanaethau brys, aeth y tair athrawes yn ôl ac ymlaen i Aberfan.

    Doedd neb wedi cynnig cwnsela neu gymorth ffurfiol i'r rhai wnaeth oroesi. I'r gwrthwyneb, roedd galw ar yr athrawon i berfformio'r dasg anodd a thrasig.

    Yn yr iard, o dan cwt bach oedd yn cadw plant rhag y glaw, cafodd y cyrff cyntaf a gafodd eu tynnu o'r ysgol eu gosod.

    "Gofynnon nhw i ni adnabod y plant cyn eu glanhau nhw er mwyn i'r rhieni eu gweld.

    "Roeddwn i'n ei chael hi'n anodd iawn delio â hynny," meddai Mair.

    "Rwy'n cofio un ferch fach, dwi dal yn gallu gweld ei hwyneb - ei gwallt du a'i chyrls hardd."

    Daeth yn amlwg bod maint y golled yn rhy fawr i'r athrawon barhau â'r dasg o adnabod y cyrff. Ond fe wnaeth Mair, yng nghwmni Hettie a Reenie, barhau i gynnig cysur a chefnogaeth.

    "Fe aethom i ymweld â rhieni'r plant fu farw, ac roedd hynny'n hynod o drist, ond roedd angen i ni wneud pethau felly," meddai Mair.

    Mae hi'n credu bod y tair athrawes, heb unrhyw gefnogaeth ffurfiol ar eu cyfer, wedi rhoi cefnogaeth emosiynol i'w gilydd.

    Fe gadwodd yr athrawon gysylltiad agos gydol eu hoes.

  9. Athrawes oedd yn Ysgol Pantglas yn cofio'r sŵn ofnadwywedi ei gyhoeddi 13:07 GMT+1

    "Er bod pawb yn dweud ei bod hi'n bwrw glaw, beth rwy'n ei gofio yw rhyw law mân niwlog," meddai Mair Morgan.

    Ar 21 Hydref 1966, hi oedd ar ddyletswydd canu'r gloch i alw plant Aberfan i mewn i'r ysgol gynradd.

    "Roeddwn i wrth fy modd yno. Roedd yr ysgol yn un hapus iawn," meddai.

    Mewn cymuned lle mae'r cof yn aml yn brifo mae Mair ymhlith y rhai olaf i allu tystio'n uniongyrchol i'r hyn a ddigwyddodd.

    Yn 1966 pan lithrodd tomen o wastraff lo i lawr ochr y bryn athrawes ifanc 25 oed oedd hi - roedd hi wedi bod yn dysgu yn Aberfan ers blwyddyn.

    Roedd Mair Morgan yn athrawes 25 oed yn Ysgol Pant-glas yn 1966
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Mair Morgan yn athrawes 25 oed yn Ysgol Pant-glas yn 1966

    Wrth i'r plant ddechrau ar eu gwersi, daeth y domen i darfu ar y tawelwch.

    "Clywais sŵn ofnadwy," meddai Mair Morgan.

    Plant iau oedd yng ngofal Mair mewn dosbarth wedi'i leoli mewn adeilad ar wahân.

    Pan edrychodd allan drwy'r ffenest gwelodd fod wal rhwng y maes chwarae a'r prif adeilad wedi syrthio.

    Heb oedi, casglodd ei phlant bach ac aeth â nhw i lawr y grisiau o flaen yr ysgol.

    Fe lwyddodd ei disgyblion i ddianc.

  10. Gosod torchau yng nghwmni y gyn-athraweswedi ei gyhoeddi 13:05 GMT+1

    Fe wnaeth y Brenin a'r Frenhines osod torchau yn yr ardd goffa yng nghwmni Mair Morgan.

    Hi yw'r unig athrawes, a oedd yn yr ysgol yn 1966, sydd yn parhau yn fyw.

    Roedd hi'n 25 adeg y drychineb.

    MairFfynhonnell y llun, PA Media
  11. Nofel graffeg yn adrodd yr hanes o safbwynt un teulu yn y pentrefwedi ei gyhoeddi 13:01 GMT+1

    Mae'r artist ifanc o Ferthyr Tudful, Jack Lewis wedi cyhoeddi nofel graffeg yn y Gymraeg a'r Saesneg o'r enw Aberfan: Stori un teulu.

    Esboniodd fod sawl aelod o'i deulu wedi bod yn dyst i'r trychineb a bod y cynnwys yn seiliedig ar brofiadau personol y perthnasau hynny.

    "Mae'r llyfr yn sôn am beth ddigwyddodd ym mywyd fy hen ewythr Wyndham, sydd wedi marw nawr. Roedd o'n un o'r glowyr ac yn un o'r bobl gyntaf i weld y trychineb," meddai ar raglen Llwyfan BBC Radio Cymru.

    "Wedyn mae fy modryb Alisson sy'n un o'r bobl sydd wedi goroesi'r trychineb - un o'r plant yn Ysgol Pantglas wnaeth dod mas.

    "Ac yna mae fy modryb Ann, chwaer hynaf y teulu sy'n gallu cofio bob dim ddigwyddodd y diwrnod hwnnw. Mae hi'n cofio beth oedd e fel i edrych ar ôl Alisson, achos roedd hi'n byw gyda'r guilt o'r trychineb ac roedd yn meddwl am e bob dydd, roedd e'n rhywbeth rili galed i'r teulu mynd trwy."

    cyfrol

    Ychwanegodd ei fod wedi cael ei ysbrydoli i greu'r nofel ar ôl gweld llun o'i fodryb rai dyddiau wedi'r trychineb.

    "Doedd pobl ddim rili yn siarad am y trychineb, roedd pobl yn gwybod bod e wedi digwydd, sut, pam a phryd, ond doedd neb yn sôn am be oedd y teulu wedi mynd trwy, y stori llawn.

    "Ges i lun o fy modryb Ann ac roedd hi gyda'r Brenin a'r Frenhines... nes i weld y llun 'ma a meddwl mae 'na stori yma, raid i mi weld lle mae'n mynd' a 'naeth e just mynd a mynd o fan'na.

    "O'n i'n meddwl bod rhaid i bobl glywed am hyn." Soniodd hefyd bod ei deulu wedi bod yn gefnogol iawn drwy'r broses: "Roedden nhw eisiau siarad am e, ond doedd neb wedi gofyn o'r blaen, a dyna oedd y broblem.

    "Roedden nhw eisiau i bobl wybod fel bod e ddim yn digwydd eto."

  12. Cannoedd wedi ymgasglu i gofio ac yn cael eu cyfarchwedi ei gyhoeddi 12:58 GMT+1

    Y Prif Weinidog a'r Brenin yn cyfarch y dorf

    rhun
    breninFfynhonnell y llun, bbc
  13. Cywiro ynganiad y Tywysog o Aberfanwedi ei gyhoeddi 12:57 GMT+1

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Aberfan

    tywysog

    Fe stopiodd y Tywysog William i siarad â nifer o aelodau’r cyhoedd oedd wedi ymgynnull y tu allan.

    Yn eu plith roedd disgyblion o Ysgol Rhydywaun, a ddywedodd wrth y Tywysog eu bod nhw wedi dysgu am y trychineb yn yr ysgol.

    Fe wnaeth un ddynes hefyd bwyso draw i gywiro William ar ei ynganiad o Aberfan - ‘f’ galed, nid ‘ff’!

  14. Y teulu brenhinol yn cyfarch y dorf ger yr ardd goffawedi ei gyhoeddi 12:54 GMT+1

    Brenin
    tywysog
  15. Ymateb y Bwrdd Glo a'r llywodraeth yn gwbl warthuswedi ei gyhoeddi 12:46 GMT+1

    Roedd 21 Hydref yn ddiwrnod olaf cyn gwyliau hanner tymor.

    Ychydig cyn 09:15 y bore, ar ôl dyddiau o law trwm, dymchwelodd tomen lo rhif 7 oedd wedi ei lleoli ar lethrau'r mynydd uwchben Aberfan.

    Llithrodd mwy na 100,000 tunnell o wastraff glo, mwd a dŵr lawr y rhiw yn gyflym.

    Nododd tribiwnlys, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Ustus Edmund Davies, bod y Bwrdd Glo ar fai a chafodd orchymyn i dalu iawndal o £500 am bob plentyn i deuluoedd y meirw.

    Darganfuwyd fod y domen lo wedi bod yn suddo ers misoedd ond ni wnaethwyd dim am y mater.

    Roedd rheolwyr y pwll glo wedi cael rhybuddion am y peryglon cyn Hydref 1966.

    Disgrifiad,

    Adroddiad Owen Edwards - un o'r gohebwyr yn Aberfan yn 1966

    Roedd y cyn-farnwr, Bodfan Jenkins, yn ddisgybl chweched dosbarth mewn ysgol gerllaw pan sylweddolodd fod rhywbeth difrifol wedi digwydd.

    Aeth yno i helpu.

    Ddydd Sul ar raglen Bwrw Golwg dywedodd bod agwedd y Bwrdd Glo a sut y deliodd y llywodraeth ar y pryd gyda'r gronfa a gasglwyd er budd y teuluoedd yn gwbl warthus.

  16. Y Tywysog William yn gosod torch yn Aberfanwedi ei gyhoeddi 12:44 GMT+1

    WilliamFfynhonnell y llun, PA Media
  17. Y Brenin a'r Frenhines wedi cyrraeddwedi ei gyhoeddi 12:35 GMT+1

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Aberfan

    Y teulu Brenhinol

    Mae’r Brenin Charles a’r Frenhines Camilla bellach wedi cyrraedd hefyd.

    Fe arhosodd y Tywysog William amdanynt y tu allan i’r ardd goffa, cyn cerdded i mewn gyda nhw ar gyfer y digwyddiad cofio.

    Yn yr ardd, mae’r Tywysog yn stopio i gael gair bach ag ambell un, gan gynnwys Rhun ap Iorwerth a Stephen Kinnock.

    Bydd y teulu brenhinol yn gosod torch ac yn dweud gweddi.

    Disgrifiad,

    Aelodau o'r teulu brenhinol yn cyrraedd Aberfan

  18. Blodau cyfarwydd 1966 yn nhorch y Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 12:28 GMT+1

    Mae'r dorch y mae'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yn gosod yn Aberfan heddiw wedi'i chynllunio gan athrawes sydd wedi rhoi sylw penodol i gymuned alarus Aberfan yn 1966.

    Ymhith y blodau mae blodau y byddai plant Ysgol Pantglas yn gyfarwydd â nhw sef botwm (scabious), grug, dahlias, carnasiwns a phlanhigion 'hebe' - roedd Hebe yn dduwies ieuenctid ym mytholeg Groeg.

    Mae 144 o fonynnau (stems) yn y dorch sy'n cynrychioli'r 144 o fywydau a gollwyd.

    Mae'r dail a'r blodau wedi dod o ddwy fferm gyfagos sef Fferm Flodau Coalfield yn Nhonyrefail - menter gymdeithasol sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl yn y cymoedd a Fferm Flodau Riverview yng Ngwenfô - fferm sy'n cael ei rhedeg gan athrawes.

    RhunFfynhonnell y llun, Athena
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yn Aberfan ddydd Mercher

  19. Brwydro yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol yn eu hawr dywyllafwedi ei gyhoeddi 12:22 GMT+1

    Yn dilyn y drychineb dangosodd y cyhoedd eu cydymdeimlad drwy gyfrannu'n ariannol, heb wybod i ble y byddai'r arian yn mynd.

    O fewn ychydig fisoedd roedd yna'n agos at 90,000 o gyfraniadau ac roedd y swm terfynol yn £1,606,929.

    Mae'r modd y cafodd y swm hwn ei reoli wedi bod yn destun dadlau dros y blynyddoedd.

    Cafodd yr arian ei ddefnyddio i glirio'r difrod a achoswyd gan y drychineb. Roedd yna deimladau cryfion mai'r Bwrdd Glo Cenedlaethol ddylai fod wedi gwneud hyn.

    Ad-dalodd llywodraeth y Blaid Lafur £150,000 i'r gronfa yn 1997 ac ym mis Chwefror 2007 cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad (yr enw ar y pryd) gyfraniad o £2 filiwn i Gronfa Goffa Trychineb Aberfan.

    Disgrifiad,

    Rhaglen sy'n portreadu brwydr cymuned Aberfan am gyfiawnder wedi'r drychineb

    I nodi 60 mlynedd ers y trychineb, mae rhaglen Aberfan: The Village That Fought Back yn datgelu stori’r ymgyrch eithriadol a ddatblygodd yn dilyn y trychineb: sut y cododd pentref drylliedig o alar na ellir ei ddychmygu i fynnu cyfiawnder, herio’r sefydliadau mwyaf pwerus ym Mhrydain, a gorfodi cael gwared ar y tomenni glo a oedd yn dal i lechu uwch ben eu cartrefi.

    Yn eu geiriau eu hunain, mae goroeswyr a pherthnasau’r rhai sydd ar flaen y gad yn yr ymgyrch i gael gwared ar domenni, rhai ohonynt yn siarad yn agored am y tro cyntaf erioed, yn cofio sut, yn ystod eu hawr dywyllaf, y bu pobl Aberfan yn brwydro yn erbyn y Bwrdd Glo Cenedlaethol a llywodraeth y cyfnod.

    Mae’n stori am anghyfiawnder cymdeithasol, brad sefydliadol, a thrawma sy’n parhau’n fyw yn y pentref heddiw, medd y cynhyrchwyr.

    Mae Aberfan: The Village That Fought Back wedi ei gynhyrchu gan Gynyrchiadau Ffeithiol Arbenigol BBC Studios.

    Cafodd ei darlledu nos Lun 19 Hydref ar BBC Two, BBC One Wales ac mae i'w gweld ar BBC iPlayer.

  20. Tywysog William yn cyrraedd Aberfanwedi ei gyhoeddi 12:20 GMT+1

    Tywysog Cymru yw'r cyntaf o'r teulu brenhinol i'w weld yn cyrraedd Aberfan.

    Tywysog William yn cyrraedd Aberfan
    Disgrifiad o’r llun,

    Tywysog William yn cyrraedd Aberfan