Beth yw gweledigaeth Michael Sheen ar gyfer y theatr yng Nghymru?

Disgrifiad,

Manon Steffan Ros yn holi'r actor, Michael Sheen

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Dros y misoedd diwethaf mae'r actor byd enwog, Michael Sheen wedi bod ar daith ar draws theatrau Cymru ac gyda drama Our Town, sydd yn cael ei galw gan rai y ddrama orau i gael ei hysgrifennu erioed.

Mae'r ddrama wedi gwerthu allan ym mhob theatr hyd yma, ac yn fwriadol roedd Michael Sheen wedi llenwi'r cast gydag actorion Cymraeg mewn drama Americanaidd.

Mewn cyfweliad gyda Manon Steffan Ros ar gyfer rhaglen Llwyfan ar BBC Radio Cymru, fe eglurodd Michael Sheen ei weledigaeth ar gyfer ei gwmni newydd Welsh National Theatre a sut roedd wedi ceisio cael cynulleidfa mewn cymunedau yng Nghymru i uniaethu gyda negeseuon pwysig un o ddramâu enwocaf y byd.

'Teimlad gwych'

Roedd Manon wedi mynd draw i Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug i gael sgwrs â chast Our Town, sy'n cynnwys actorion fel Aisha-May Hunte, Jâms Thomas, Nia Roberts, Sian Reese-Williams a Rhodri Meilir.

Mae Michael Sheen yn chwarae rhan y rheolwr llwyfan, ac fe ddywedodd yn Saesneg yn ei gyfweliad gyda Manon:

"O'r holl gynyrchiadau dwi erioed wedi eu gwneud, dyma'r un sydd yn rhoi'r pleser mwyaf i mi, mae'n rhoi'r teimlad byw 'na i chi, i allu adrodd stori fel hyn, sydd wedi effeithio pobl ar draws cenedlaethau i gynulleidfa yng Nghymru, mae'n deimlad gwych," meddai.

Cafodd Our Town ei ysgrifennu yn wreiddiol gan Thornton Wilder yn 1938.

Mae'r ddrama wedi'i seilio yn nhref dychmygol Grover's Corners yn America rhwng 1901 ac 1913 ac yn adrodd straeon bywydau pob dydd y bobl sy'n byw yno.

Pan sefydlodd Michael Sheen Welsh National Theatre y llynedd, roedd dewis y ddrama lawn aml-gast gyntaf un iddo ei lwyfannu yn ddewis mawr.

Ond pam dewis Our Town? Mae'n debyg iddo gael ei gyffwrdd gan y ddrama pan oedd allan yn Efrog Newydd.

"Nes i ddod i gysylltiad cyntaf ag Our Town pan o'n i yn America. Ro'n i newydd orffen Frost/Nixon ar Broadway ac aeth un o'r actorion â fi i berfformiad o Our Town.

"Fe ges i fy nghyfareddu, ac ers hynny dwi wedi darllen y ddrama fwy nag unwaith a dwi wastad yn dod i ffwrdd ar ôl ei ddarllen neu gweld perfformiad byw ohono ac yn meddwl fy mod eisiau ffonio fy mam a bod yn agos at y bobl yna rydych yn eu caru."

Mae'r teimlad o gymuned yn thema bwysig iawn yn y ddrama, ac mae hynny wrth wraidd syniad Michael o geisio cael y gynulleidfa i uniaethu gyda'r cymeriadau sydd ar y llwyfan.

Jâms Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Jâms Thomas sy'n chware rhan Cwnstabl Warren yn Our Town

Er mai drama Americanaidd yw hi roedd ceisio Cymreigio drama o'r fath yn heriol.

Mae stâd Thornton Wilder wedi bod yn warchodol iawn, ac nid oedd ysgrifennwyr Welsh National Theatre yn cael newid gormod ar y stori wreiddiol.

Ond, mae'r cast o Gymru a'r emynau sy'n cael eu canu yn y Gymraeg ar y llwyfan yn helpu i wireddu nod Michael Sheen.

Mae Jâms Thomas yn chwarae rhan Cwnstabl Warren yn y ddrama ac fe ddywedodd wrth Manon Steffan Ros am y briodas rhwng drama sydd wedi'i lleoli yn America a'r Cymreictod sydd wedi'i rhoi ynddi:

"Fe gafon ni ganiatâd i newid enwau ychydig o lefydd yn y script, cael gwared o references i'r Civil War a baseball, fe wnaethon ni newid hwnna i bêl rygbi.

"Am ei fod yn ddrama am ddynoliaeth yn hytrach na lle specific, mae'r ffaith fod 'na acenion Cymraeg a rhai enwau yn Gymraeg, ma' hwnna yn gweithio i fi.

"Dwi'n credu pan 'naeth Thornton Wilder ei sgwennu fe, roedd e eisiau sgwennu rhywbeth oedd yn gallu apelio at unrhyw un sydd wedi dod o dref fach unrhyw le yn y byd," meddai.

Dyna o bosib dynnodd Michael Sheen i mewn hefyd.

"Pan weles i'r ddrama roeddwn yn gallu uniaethu a'r hyn o'n i yn ei wylio. Dwi'n gwybod mai drama Americanaidd yw hi gyda actorion o America, ond yn y bôn ro'n i'n gallu uniaethu â'r cyfan, drwy fy mhrofiadau, drwy fy nghymuned a fy nheulu.

"Felly roedd e wastad yn teimlo'n Gymreig i mi yn hynny o beth ac roeddwn yn credu y base'n gallu gweithio'n dda a'i fod wedi'i drosglwyddo i gymuned Gymreig.

"Dwi wedi dod ag actorion o Gymru at ei gilydd, ac mae clywed y sgript wreiddiol yn cael ei siarad drwyddyn nhw, mae'n dod â'r cyfan yn fyw, a sut beth yw byw mewn tref fach a'r teimlad o gymuned a theulu... mae'n teimlo'n gyfarwydd iawn i mi ac i nifer iawn o bobl yng Nghymru a'r gynulleidfa sydd wedi'i gwylio hi hyd yma.

"Pan wnaethon ni ei pherfformio hi gyntaf yn Abertawe, ro'n i eisiau iddi deimlo ein bod ni yn gwneud drama am Abertawe a'r gymuned yno," meddai.

Thornton WilderFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Thornton Wilder yw dramodydd Our Town

Fe soniodd Michael Sheen hefyd am gyfnod trist yn ei fywyd llynedd pan collodd ei dad a sut mae drama fel hyn yn atgoffa rhai pobl am fywyd yn gyffredinol.

"Y neges fawr yw, gwnewch y mwyaf o fywyd. 'Nes i golli fy nhad y llynedd ac mae'n eich atgoffa fod bywyd yn fyr a'r pethau rydych yn gymryd yn ganiatâol. Dwi'n gwneud y ddrama yma pob dydd ar y foment gyda'r teimlad amrwd dal yno o golli fy nhad.

"Mae colli fy nhad a pherfformio'r ddrama yma wedi cael effaith debyg iawn arna i achos mae e yn eich deffro chi, mae'n gwneud i chi feddwl cymaint sydd 'na i'w golli a'r hyn sydd angen i chi ei wneud i wneud y mwyaf o bethau," meddai.

Presenoldeb Michael Sheen

Mae sefydlu cwmni Welsh National Theatre a phresenoldeb Michael Sheen ar lwyfan yng Nghymru wedi sicrhau fod tocynnau ar gyfer y daith wedi gwerthu allan.

Fe lwyddodd cynhyrchiad cyntaf y cwmni i wneud yr un peth, gyda Matthew Rhys yn chwarae rhan Richard Burton.

Dros 10 diwrnod ym mis Tachwedd fe berfformiodd Matthew y sioe un dyn, Playing Burton, bymtheg o weithiau ar draws Cymru a hynny i adolygiadau clodiwiw.

Felly ydi hynny yn rhoi pwysau ychwanegol ar ddisgwyliadau pobl o ddramâu'r Welsh National Theatre yn y dyfodol?

Dywedodd un wnaeth adolygu'r drama Our Town, yr awdur a'r cynhyrchydd, Branwen Cennard fod apêl Sheen yn denu cynulleidfa wahanol.

"Dwi'n meddwl mai enw Michael Sheen sydd yn denu pobol. Prin o'n i'n 'nabod neb oedd yn Theatr y Grand, Abertawe. Fel arfer, pan mae rhywun yn mynd i weld drama yn Nghymru, chi'n 'nabod rhan fwyaf o'r bobl sy'n eistedd o'ch cwmpas chi a doedd hynny ddim yn wir.

"Felly mae e'n amlwg yn denu cynulleidfa wahanol, mae e'n denu niferoedd mawr. Fe gerddodd ar y llwyfan ac roedd y gynulleidfa yng nghledr ei law e cyn iddo agor ei geg.

"Felly mae ei apêl yn wirioneddol enfawr, sydd yn beth gwych, ond wrth gwrs yn bwysau mawr byddwn i'n meddwl arno fe, achos os yw pobl yn dod i weld e, mae hwnna yn cyfyngu i raddau ar yr hyn mae e'n mynd i fod yn gallu gwneud yn y dyfodol," meddai.

Rhodri Meilir a Manon Steffan Ros
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Meilir yn cael ei holi gan Manon Steffan Ros

Mae Rhodri Meilir, sy'n chwarae rhan Charles Webb yn Our Town yn dweud ei bod hi'n beth da fod rhywun fel Michael Sheen â gweledigaeth a'r gallu ariannol i ddechre rhywbeth newydd.

"Mae yna draddodiad theatrig wedi bod yng Nghymru erioed. Beth sy'n bwysig i ni yng Nghymru ydi fod hwn ddim yn boddi pob dim arall, mae'n gyfnod anodd i bawb yn y byd yma rŵan.

"Efo sioeau theatr yng Nghymru, fel rheol aros yng Nghymru mae nhw a rwan mae gyno ni rhywun sydd efo gweledigaeth a sy'n cydnabod y ffaith bod y straeon yma yng Nghymru ac mae Mr Sheen eisiau mynd â'r straeon yma nid yn unig dros y ffin ond hefyd dramor, sy'n wych.

"Mae'n bwysig bod ni'n cofio bod gyda ni gynulleidfa yng Nghymru hefyd a bod ni'n eu bwydo nhw, felly gobeithio cawn ni'r gorau o'r ddau hefyd," meddai.

Wrth edrych at y dyfodol pwysleisiodd Michael Sheen fod y daith yn mynd i fod yn u wyllt.

"Mae'n mynd i fod yn rollercoaster i ni. Dyma'r cynhyrchiad cyntaf; diolch byth mae wedi mynd yn dda iawn ac wedi cyflawni'r hyn o'n i'n obeithio.

"Dwi'n gobeithio y bydd pobl yn sylweddoli hefyd fod hwn yn rhywbeth hirdymor ac nid am un cynhyrchiad yn unig," meddai.

Neges glir felly o bosib y bydd Michael Sheen i'w weld yn amlach ar lwyfannau Cymru yn y dyfodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig