Pen-blwydd hapus Mistar Urdd yn 50!

Mistar Urdd flynyddoedd yn ôl gyda phlant ifanc
- Cyhoeddwyd
Cafodd mudiad Yr Urdd ei sefydlu ar 25 Ionawr, 1922, ond dim tan yr 1940au y cafodd y logo triongl coch, gwyn a gwyrdd ei chreu.
Roedd yn rhaid aros tan y 1970au i roi wyneb, breichiau a choesau ar y dyluniad, gan greu cymeriad bythgofiadwy.

Mistar Urdd yn 1977
Mis yma mae un o eiconau amlycaf Cymru, Mistar Urdd, yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed.
Ar 20 Chwefror, 1976, y daeth y cymeriad bach coch, gwyn a gwyrdd i fodolaeth, ac mae nawr wedi bod yn ffefryn gyda phlant Cymru ers hanner canrif.

Mistar Urdd yn 1979
Cafodd Mistar Urdd ei greu gan Wynne Melville Jones (Wyn Mel), a oedd yn gweithio fel Swyddog Cyhoeddusrwydd Yr Urdd ar y pryd.
Wrth geisio dod â'r mudiad yn nes at bobl ifanc ac adnewyddu ei delwedd, ychwanegodd Wyn wyneb, breichiau a choesau at logo trionglog yr Urdd, gan roi bywyd i gymeriad a fyddai'n dod yn symbol o falchder ieuenctid Cymru.

Mistar Urdd a'r dyn a'i greodd - Wynne Melville Jones
Dros y blynyddoedd, mae Mistar Urdd wedi ymddangos ar bopeth o sanau a phyjamas i gasys ffôn a rhaglenni teledu. Mae wedi bod yn amlwg yn ystod digwyddiadau chwaraeon, ac wrth gwrs, mewn Eisteddfodau.
Yn 1998 fe deithiodd Mistar Urdd i'r gofod, ac fe helpodd Yr Urdd i dorri Record Byd ar achlysur canmlwyddiant y mudiad.
Yn ddiweddar cafodd cerbyd trên newydd ei enwi ar ei ôl gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan.

Y Prif Weinidog Eluned Morgan gyda phlant ysgol yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd, yn enwi cerbyd trên newydd yn 'Mistar Urdd'
Yn trafod ei greadigaeth, dywed Wyn Mel:
"Cefais y cyfle i ddatblygu syniadau newydd i'r Urdd er mwyn apelio at genhedlaeth newydd o ieuenctid, a 50 mlynedd yn ddiweddarach mae Mistar Urdd yn dal i fod yn ffefryn gan blant a phobl ifanc y wlad."

Wyn Mel a Mistar Urdd o flaen y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth
Aeth Wyn Mel ymlaen i ddweud:
"Gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon i'r holl waith caled dalu ar ei ganfed, ac erbyn heddiw mae'r Urdd yn cael ei gydnabod fel un o fudiadau ieuenctid gorau'r byd."

Llun cynnar arall o Mistar Urdd
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: "Mae Mistar Urdd wedi aros yn agos at galon y Cymry ers 50 mlynedd, ac mae hynny'n rhywbeth i ymfalchïo ynddo.
"Mae'r cymeriad wedi datblygu i fod yn symbol o obaith ac yn cynrychioli'r cyfeillgarwch, hwyl a balchder rydym ni fel mudiad ieuenctid mwyaf Cymru yn ei rannu gyda phlant a phobl ifanc ledled y wlad."

Ffatri Mistar Urdd
Dywed Yr Urdd hefyd bod Mistar Urdd yn symbol o groeso cynnes a chynhwysiant, i siaradwyr Cymraeg ac i'r rheiny sy'n dysgu.
"Mae hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn agor drysau i'r Gymraeg a dangos fod yr Urdd yn perthyn i bawb," medd Siân Lewis. "Drwy estyn croeso cynnes i gynulleidfaoedd newydd, siaradwyr newydd, a theuluoedd o bob cefndir."

Mistar Urdd ar lwyfan yn yr 1980au
Fel rhan o ddathliadau 50 mlwyddiant Mistar Urdd, bydd y mudiad yn cyflwyno cyfres o brosiectau, gan gynnwys rhyddhau fersiwn newydd o'r anthem Hei Mistar Urdd!.
Cafodd y gân wreiddiol ei chyfansoddi gan Geraint Davies yn 1977 a'i chanu gan Emyr Wyn, ond mae'r fersiwn newydd yn cael ei lleisio gan Aleighcia Scott.

Mistar Urdd yn mynd i'r gofod gyda'r gofodwr o Ganada sydd o dras Gymreig, Dafydd Rhys Williams, yn 1998
Bydd hefyd murlun cyhoeddus newydd yn Aberystwyth mewn partneriaeth â'r artist Pete Fowler, ac mi fydd 'na ddigwyddiad arbennig fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni.
"Mae cydweithio â thalentau creadigol Cymru ar fersiwn newydd o Hei Mistar Urdd!, ynghyd â murlun newydd, yn ddechrau gwych i flwyddyn o ddathlu'r garreg filltir hon," meddai Siân Lewis.

Mistar Urdd gyda Rapsgaliwn yn 2011
Mae Mistar Urdd yn ffigwr amlwg yn y byd chwaraeon yng Nghymru hefyd, gyda thimau Yr Urdd mewn rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd a champau eraill yn cystadlu a chael llwyddiant yn rhyngwladol.

Mistar Urdd gyda Sage Todz yn Stadiwm Dinas Caerdydd
Roedd 2022 yn flwyddyn fawr i'r Urdd, gan fod y mudiad yn dathlu ei 100 mlwyddiant. O ganlyniad fe gafodd Mistar Urdd ran flaengar yn y dathliadau drwy gydol y flwyddyn.

Mistar Urdd gyda phlant ar droed Yr Wyddfa yn 2022
Gyda llwyddiannau diweddar timau pêl-droed cenedlaethol Cymru, mae Mistar Urdd wedi bod yng nghanol y dathliadau.
Fe gyrhaeddodd tîm dynion Cymru Euro 2016, Euro 2020, a Chwpan y Byd 2022, ac fe gyrhaeddodd tîm y merched bencampwriaethau Euro 2025. Roedd Mistar Urdd yno yn cefnogi pob cic.

Dathlu Cymru yn Euro 2025
Mae hi wedi bod yn 50 mlynedd llwyddiannus o wasanaethu'r genedl i Mistar Urdd... a phob dymuniad da iddo i'r 50 mlynedd nesaf!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd25 Mai 2025

- Cyhoeddwyd5 Awst 2022
- Cyhoeddwyd24 Mai 2015