5 ffordd mae Wrecsam wedi elwa o ddyfodiad sêr Hollywood

Dyw Rob McElhenney a Ryan Reynolds heb guddio'r ffaith mai eu nod yn y pendraw yw i Wrecsam gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi bod yn bum mlynedd o bartïon a dathlu i gefnogwyr Wrecsam. Ond wrth nodi pen-blwydd ers dyfodiad y perchnogion byd-enwog o America, Ryan Reynolds a Rob McElhenney - mae'n gyfle hefyd i weld sut mae'r fenter pêl-droed o Hollywood wedi buddio'r ddinas a'r gymuned leol.
Yn ogystal â llwyddiant penigamp ar y cae gan godi o'r Gynghrair Genedlaethol i'r Bencampwriaeth dyma nodi pump o newidiadau trawiadol arall i'r ddinas a'r ardal ehangach.
1. Busnesau lleol

Y torfeydd y tu allan i Saith Seren yn croesawu bws y 'Pencampwyr' wrth i'r tîm sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Pêl-droed Lloegr
Heb os, mae llwyddiant y clwb wedi gweld tro byd ar lewyrch i fusnesau fel gwestai, llefydd bwyta a thafarndai'r dre wrth i filoedd ymweld â chanol y dref.
Yn dyst i hyn mae clwb Cymraeg Saith Seren. Cafodd y fenter ei sefydlu yn 2012 ac mae wedi gweld newid mawr yn y niferoedd sy'n dod drwy'r drysau ar benwythnosau wrth i'r peldroedwyr sicrhau dyrchafiad flwyddyn ar ôl blwyddyn o'r Cynghrair Cenedlaethol i'r Bencampwriaeth.

Dywed Chris Evans fod nifer fawr o gefnogwyr timau eraill y Bencampwriaeth wedi mwynhau croeso cynnes Cymraeg y Saith Seren
Meddai Chris Evans, cadeirydd bwrdd y fenter gymunedol yng nghanol y ddinas, mae llwyddiant y tîm wedi gweld mwy yn mynychu'r dafarn sy'n adnabyddus fel lleoliad lleol ar gyfer gigiau a gweithgareddau Cymraeg.
"Mae eleni wedi gweld hyd yn oed mwy yn dod drwy'r drysau, mae'r timau yn fwy yn y Bencampwriaeth a mwy o gefnogwyr yn ymweld â'r dre.
"Yn erbyn Norwich yn ddiweddar roedd tua 20 o gefnogwyr wedi dod yma ar ôl y gêm a mwynhau y profiad.
"Mae cefnogwyr eraill wedi clywed fod yma yn le diogel i fynd, cerddoriaeth fyw a chroeso cynnes. Ma' mwy a mwy yn dod i Wrecsam a mwy trwy ein drysau, ond mae llwyddiant y clwb hefyd yn golygu fod yna dafarndai newydd yn y dre ac felly mwy o gystadleuaeth.
"Mae gan Saith Seren gysylltiadau agos gyda'r tîm pêl-droed. Adeg Covid o'n ni'n darlledu gemau'n fyw fel bod cefnogwyr yn gallu gwylio gemau'r clwb.
"Mae'r clwb hefyd wedi bod yn fwy na pharod i'n helpu ni - y diweddar Joey Jones, un o enwau mawr Wrecsam, yn arwyddo lluniau prints i'w gwerthu pan oedd arian yn brin a rhai yn poeni am ein dyfodol.
"Un o'r pethau mwyaf cofiadwy yw ar ôl dychwelyd i'r gynghrair ar ôl curo Borham Wood. Roedd yna orymdaith fawr drwy'r dre a Rob a Ryan ar y bws. Fe ddaru'r bws stopio rhyw 20 llath o flaen y Saith a gafodd rhywun o rywle'r syniad o ganu o Hen Wlad fy Nhadau; bydd hynny o hyd yn aros yn y cof."
2. Y Gymraeg

Mae agwedd positif staff y clwb tuag at ddysgu Cymraeg wedi bod yn galonogol iawn, medd Huw Birkhead
Mae'r clwb hefyd wedi gwneud mwy i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Ers dyfodiad yr Americanwyr maen nhw wedi bod yn meithrin cysylltiad gyda Coleg Cambria, sydd dan adain y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gyda'r bwriad o wella defnydd o'r iaith.
Dywed Huw Birkhead sy'n diwtor Cymraeg ac yn gefnogwr i'r tîm, ei fod â pherthynas agos wrth sicrhau arwyddion dwyieithog, deunydd dwyieithog a chyhoeddiadau dwyieithog yn ystod y gemau.
"Dwi'n rhan o'r podlediad Cymraeg Y Chwiban Ola sy'n dilyn y gemau. Mae yna frwdfrydedd o ran y clwb; arwyddion, y rhaglen a rhaglen arlein, ma' nhw am weld cynnwys Cymraeg.
"O bosib y peth mwyaf positif hefyd yw'r elfen o ddysgu yn y gweithlu; mae gymaint o'r staff erbyn hyn yn cymryd rhan mewn gwersi dysgu Cymraeg gwirfoddol," meddai Huw sydd wedi bod yn cydweithio gyda'r clwb ers 2023.
Ychwanegodd fod y clwb a'r coleg ar y cyd wedi ennill y wobr Gymraeg yn noson Gwobrau Busnes a Chymuned Wrecsam 2025.
3. Gwerth ariannol

Dylan Griffiths: 'Mae tocyn y dyddiau yma i wylio Wrecsam fel aur'
Mae'n hen hanes ond bu bron i'r clwb fynd yn fethdal ar un adeg a bu'n rhaid dibynnu ar arian y cefnogwyr i brynu'r clwb a'i achub rhag mynd i ebargofiant. Yna yn 2021 daeth y newyddion fod Reynolds a McElhenney wedi perswadio'r cefnogwyr i werthu'r clwb a buddsoddi £2m.
Erbyn hyn yr amcangyfrif yw bod y clwb werth £350m.
Un o'r lleisiau adnabyddus sy'n gysylltiedig â llwyddiannau Wrecsam ar y cae yw'r sylwebydd Dylan Griffiths.
"Mae 'na dros chwarter canrif bellach ers i mi fod yn dilyn Wrecsam ac mae'r newid dros y pum mlynedd diwethaf wedi bod yn aruthrol.
"Un o gryfderau'r perchnogion ydy'r cysylltiadau sydd ganddynt ac mae hyn yn amlwg wrth edrych ar rai o noddwyr y clwb – United Airlines, Meta Quest a M&S i enwi dim ond tri.
"Mae apêl y clwb yn aruthrol, ac os bydd y clwb yn sicrhau dyrchafiad mi fydd 'na fwy o gwmnïau mawr yn fodlon bod yn rhan o'r fenter gyffrous hon.
"Ond mae tocyn y dyddiau yma i wylio Wrecsam yn y Bencampwriaeth fel aur, yn enwedig gyda'r Dreigiau yn brwydro am le yn y gemau ail-gyfle.
"Mi oedd 'na wario sylweddol yn yr haf i gryfhau'r garfan – dros £30m gyda 13 chwaraewr newydd yn ymuno. I roi hyn yn ei gyd-destun mae 40% o glybiau yn Ligue 1 [Ffrainc], y Bundesliga [yr Almaen] Serie A [Eidal] a La Liga [Sbaen] wedi gwario llai na £10m."

Fe gafodd Nathan Broadhead o Ipswich ddechrau'r tymor hwn am ffi gydag ychwanegiadau a allai godi i £10m – record i'r clwb
4. Uwchraddio Stadiwm

Y Cae Ras yw'r stadiwm rhyngwladol hynaf sy'n dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer gemau pêl-droed
Cartref y clwb yw'r STōK Cae Ras. Hwn yw'r maes pêl-droed rhyngwladol hynaf sy'n parhau i gael ei ddefnyddio. Yn 2023, cafodd y cop eiconig ei ddymchwel gan nad oedd yn ddiogel.
Yn ei le bydd eisteddle newydd gyda lle i 7,500 o gefnogwyr yn cael ei godi. Mae disgwyl i'r gwaith fydd yn cynyddu maint y dorf i 18,000 gael ei gwblhau yn gynnar yn 2027 gan ganiatáu i'r stadiwm gynnal gemau cystadleuaeth cynghrair y Pencampwyr.
Mae'r cyngor sir a Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £18m yn y fenter sy'n cael ei weld fel modd o wella a hybu rhan o'r ddinas o amgylch y brif orsaf rheilffordd.
Meddai Dylan Griffiths: "Mae seiliau cadarn yn eu lle a phan mae rhywun yn meddwl mai ychydig flynyddoedd yn ôl timau fel Dover a Solihull Moors oedd y timau oedd yn ymweld â'r Cae Ras – mae'n anodd credu efallai y bydd Manchester City, Arsenal ac eraill yn ymwelwyr cyson yn Wrecsam."
Rhoi £18m i'r Cae Ras yn 'allweddol i Wrecsam' - gweinidog
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2025

Mae disgwyl i'r eisteddle newydd gael ei agor yn 2027
5. Merched yn anelu at y brig

Mae tîm merched Wrecsam yn cystadlu ar frig Uwch Gynghrair Cymru
Yn ogystal â thîm y dynion mae sêr Hollywood wedi bod yn rhoi sylw i dîm y merched hefyd.
Roedd y tîm yn Adran Gogledd ond erbyn hyn maen nhw yn cystadlu am y prif safle yn uwch gynghrair Cymru. Byddai llwyddiant yno yn golygu mynediad i gystadlaethau Ewrop.
Ar 22 Chwefror byddant yn wynebu Caerdydd yn ffeinal Tlws Adran.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Chwefror

- Cyhoeddwyd3 Awst 2025

- Cyhoeddwyd3 Chwefror
