Murlun newydd yn dathlu 150 mlynedd o'r gymdeithas bêl-droed

Mae'r murlun newydd wedi'i leoli gyferbyn ag Amgueddfa Bêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae murlun newydd wedi cael ei ddadorchuddio yn Wrecsam fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed.
Mae wedi'i leoli gyferbyn ag Amgueddfa Bêl-droed Cymru.
Dywedodd y gymdeithas fod y murlun yn "cynrychioli crys Cymru fel rhan ganolog o DNA pêl-droed Cymru".
"Mae'r dyluniad yn dechrau gyda chynffon y ddraig eiconig, symbol pwerus o Gymru, cyn trawsnewid yn helics DNA wedi'i ffurfio o batrymau citiau hanesyddol Cymru."
Ychwanegodd y datganiad ei fod yn "symboleiddio esblygiad timau cenedlaethol Cymru ar draws cenedlaethau".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror

- Cyhoeddwyd1 Chwefror

- Cyhoeddwyd31 Ionawr
