Steffan yn anelu i'r brig gyda'r gwynt yn ei hwyliau

Steffan yr hwyliwrFfynhonnell y llun, Steffan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Steffan hwylio yn wyth oed gyda Chlwb Hwylio Cei Newydd

GanArwel Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymro ifanc o Geredigion yn anelu at gynrychioli Prydain yn y gemau Olympaidd yn 2032 ar ôl blasu buddugoliaeth hwylio yn yr Alban.

Roedd Steffan Williams o Gei Newydd yn cystadlu yn ras cychod ILCA, gan sicrhau'r safle cyntaf i dîm Cymru yng nghystadleuaeth y Cwpan Celtaidd yn Yr Alban.

"Roedd eitha lot o wynt a'r amodau yn anodd. 'Oedd chwech o bob gwlad felly oedd yna eitha lot o gychod ar y dŵr," meddai Steffan sy'n 17 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Bro Teifi.

Steffan yn y Cwpan CeltaiddFfynhonnell y llun, Steffan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Yn y dosbarth cychod ILCA I ieuenctid, Steffan ddaeth gyntaf o blith hwylwyr Cymru yn y Cwpan Celtaidd

Mae Steffan wedi bod yn hwylio ers yn wyth oed ac erbyn hyn yn hyfforddi yn gyson drwy'r flwyddyn. Ei nod nawr yw cystadlu yn Brisbane yn y Gemau Olympaidd yn Awstralia ymhen chwe blynedd.

"Rwy'n ymarfer bron pob penwythnos lawr yn Weymouth neu lan ym Mhwllheli. Mae lot yn digwydd lawr yn Weymouth gan mai dyna lle mae'r National Sailing Academy, a lot yn digwydd lan y Pwllheli gan mai dyna lle mae Academi Cymru.

"Ni dros y Deyrnas Unedig i gyd bron bob penwythnos," meddai Steffan gan ddiolch yn arbennig i ddyletswyddau 'tacsi Dad a Mam'.

Disgrifiad,

Steffan yn hyfforddi oddi ar arfordir gogledd Cymru

Ar hyn o bryd mae'r disgybl blwyddyn 12 hefyd yn astudio ar gyfer ei Lefel A, gan geisio sicrhau cydbwysedd rhwng ei waith ysgol a'i uchelgais Olympaidd.

"Mae angen lot o gryfder. Dwi'n gwneud yn siŵr bod fi yn y gym a nofio hefyd bron pob dydd, trwy'r wythnos. Mae'n rhaid cadw yn ffit iawn.

"Mae'n rhaid trio cael balans rhwng y gwaith ysgol a chwaraeon. Mae'n anodd, mae'n rhaid gwneud gyd o'r gwaith yn yr wythnos ac wedyn gallu canolbwyntio ar yr hwylio ar y penwythnos.

"Mae'r ysgol yn cefnogi fi lot - ma' nhw'n reali dda i ddweud y gwir."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig