Criw yn 'rhoi Pwllheli ar y map' mewn ras hwylio ar draws yr Iwerydd

Llun o Thomas a Nick ar y cwch ar y mor. Mae'r ddau yn gwisgo cot a siaced achub Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Thomas (chwith) a Nick ydy dau o'r tri Chymro sy'n rhan o dîm Jackknife yn y ras hwylio

  • Cyhoeddwyd

Mae criw o Ben Llŷn yn "rhoi Pwllheli ar y map" wedi iddyn nhw gwblhau ras hwylio enwog 3,000 o filltiroedd ar draws môr yr Iwerydd.

Mae Thomas Tudor, Nick Butterworth, Chris Jones a pherchnogion y cwch Andrew a'i fab Sam Hall wedi bod yn teithio i Antigua ar eu cwch Jackknife fel rhan o ras y Royal Ocean Racing Club (RORC).

Mae dau ddyn arall - Mark Bolger o Iwerddon a Fabio Galea o Malta - hefyd yn rhan o dîm Jackknife, wnaeth gychwyn y ras yn Lanzarote ar 11 Ionawr.

Fe wnaeth y criw gyrraedd y llinell derfyn yn Antigua yn oriau mân y bore ddydd Gwener, gan orffen yn drydydd yn y ras ac yn gyntaf yn eu dosbarth ar gyfer y cychod bach.

Disgrifiad,

Criw yn 'rhoi Pwllheli ar y map' mewn ras hwylio ar draws yr Iwerydd

Mae'r ras ar draws yr Iwerydd yn rhan o gyfres y Royal Ocean Racing Club.

Eleni yw'r 12fed tro iddi gael ei chynnal, a dyma'r gyntaf o dros 20 o rasys yn y gyfres eleni.

Mae'r ras yn dipyn o her i'r criw ar y cwch Jackknife, sydd wedi bod ar y môr ers dros 10 diwrnod bellach.

"Cwch fach sydd ganddyn nhw, sy'n 38 troedfedd, o'i gymharu â'r gweddill yn y ras," meddai Stephen Tudor, tad Thomas.

"Mae'r criw yn socian, y tonnau yn torri ar y cwch a dim lle i gysgodi.

"Mae'n fwy nag unrhyw ras maen nhw wedi ei 'neud o'r blaen."

Llun o'r saith o ddynion, criw y cwch Jackknife yn sefyll o flaen y cwch cyn y rasFfynhonnell y llun, RORC
Disgrifiad o’r llun,

Tîm hwylio'r Jackknife yn barod am y ras

Mae'r criw yn "hwylwyr o fri" ac wedi gwneud hynny gyda'i gilydd ers degawdau, meddai Stephen wrth BBC Cymru Fyw.

Ychwanegodd ei fod yn "falch iawn" bod ei fab wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y ras.

"Mae'n bryder fel tad ond dwi'n gwybod fod y criw yn ddawnus, hogia' da, gofalus ac yn deall ble mae'r peryglon a'u goresgyn, a gwybod fod diogelwch yn dod gyntaf i'w cadw yn saff.

"Fasa hi'n anhygoel gweld y tîm ar y podiwm."

Cwch o Ffrainc wnaeth ennill ras ryngwladol y RORC ar ôl cwblhau'r daith mewn wyth diwrnod a hanner.

Llun o Thomas ar y cwch yn barod i gychwyn y rasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Thomas Tudor o Bwllheli yn barod i gychwyn y ras yn Lanzarote

"Maen nhw wedi cael tywydd garw iawn ar brydiau, sydd wedi bod yn sialens hwylio, cysgu a chadw'n sych" meddai Sioned, gwraig Thomas.

Ond ychwanegodd bod "hwyliau da iawn arnyn nhw".

Mae hwylio yn y gwaed i Thomas gan ei fod yn nai i'r diweddar Richard Tudor wnaeth gystadlu ddwywaith yn y ras hwylio o gwmpas y byd.

Yn ôl Stephen, tad Thomas: "Roedd Richard, John a fi yn hwylio efo'n tad ers yn ddim o beth ers symud i Bwllheli.

"Roedden ni'n hwylio gyda thair cenhedlaeth yn yr un cwch pan 'naeth Thomas gychwyn hwylio efo ni."

Bu farw Richard Tudor yn 2023.

Llun o Thomas Tudor yn codi bawb tra'n llwyio'r cwch ar y mor yn y ras hwylio ar draws yr IweryddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Thomas wedi gorfod bod yn barod i lywio'r cwch ar y môr ym mhob tywydd

Dywedodd Sioned ei bod hi ac Anna, gwraig Nick "yn hynod o falch o'r hogia'".

"Maen nhw'n sicr wedi codi ymwybyddiaeth o hwylio gan roi Pwllheli ar y map.

"Maen nhw wedi ysbrydoli cymaint o blant wrth gymryd rhan yn her enfawr.

"Mi fydd hwylio yn parhau yn gryf yma ym Mhwllheli."

Ychwanegodd fod "Thomas yn falch iawn o gael y cyfle i gymryd rhan mewn ras mor arwyddocaol, gan gyflawni ei freuddwyd o hwylio ers yn blentyn bach gyda'i Daid, ei Dad a'i ewythr, ac sydd erbyn hyn yn hwylio gyda Iago ei gefnder a'i ferch Awel, sydd yn 13 oed ac hefyd yn hwylio gyda'r criw."

Mae Awel yn dilyn ôl troed ei thad hefyd, ac wedi llwyddo i fod yr ieuengaf i hwylio o Bwllheli i Iwerddon.

Llun o fachlud haul ar y mor wrth i'r criw Jackknife hwylio ar draws mor yr IweryddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y criw yn hwylio yng nghwch Jackknife ar draws yr Iwerydd

Gan fod technoleg wedi datblygu gymaint, roedd teulu a chefnogwyr y criw wedi bod yn dilyn y ras ar y tracker,sy'n cael ei ddiweddaru ar y wefan.

Mae'n rhoi'r wybodaeth am leoliad y cwch, y cyflymder ac i ba gyfeiriad mae'n teithio.

"Dwi wedi bod yn gwylio bob eiliad o'r ras," meddai Stephen, sydd hefyd yn gadeirydd Plas Heli ym Mhwllheli a'r Academi Hwylio Genedlaethol.

Llun o ddau o'r tim hwylio yn ystod y ras hwylio ar draws yr Iwerydd. Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm yn hwylio yn y ras

Ychwanegodd Sioned: "Ma' hi'n anodd peidio gallu ffonio Thomas.

"Er bod o wedi bod i ffwrdd yn rasio o'r blaen, dyma'r hiraf fydd o wedi bod i ffwrdd o'i deulu. Mae wedi bod yn gyfnod hir iawn heb gyswllt.

"Mae'r plant a finna' yn hynod falch ohono ac yn edrych ymlaen i'w gael adra yn llawn hanesion. Mae hi wedi bod yn fis hir iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig