Robert Plant yn cefnogi cais diwylliannol Machynlleth

Robert PlantFfynhonnell y llun, Dan Jones
GanAlun Gaffey
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Robert Plant, un o gantorion mwyaf eiconig hanes cerddoriaeth roc, wedi datgan ei gefnogaeth benderfynol i gais Machynlleth i ddod yn Dref Diwylliant y DU yn 2028.

Mewn cyfweliad diweddar, mae prif leisydd Led Zeppelin wedi edrych yn ôl ar ddegawdau o gysylltiad agos â'r ardal - perthynas a ddechreuodd yn ei blentyndod ac a arweiniodd at lunio peth o gerddoriaeth fwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif yn y bryniau cyfagos.

I ddiffinio pwysigrwydd y fro i'w fywyd, mae Plant yn cyfaddef i'w gariad at Gymru ddechrau pan oedd yn ddim ond pump oed, gan deithio yno gyda'i rieni i fforio cyfoeth hanesyddol y Mers.

"Roeddwn i eisoes hanner ffordd yno, yn meddwl pam nad oeddwn i'n ystyried fy hun yn Gelt yn hytrach na beth bynnag ddes i fod yn y diwedd," meddai.

Led Zeppelin yn perfformio yn Earl's Court yn eu hanterth yn 1975Ffynhonnell y llun, Michael Putland / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Led Zeppelin yn perfformio yn Earl's Court yn eu hanterth yn 1975

Bron-yr-Aur yn ysbrydoli

Ymhlith yr holl lecynnau sydd wedi dylanwadu arno, yr un mwyaf adnabyddus yn fyd-eang yw tyddyn anghysbell Bron-yr-Aur, sydd wedi'i guddio uwchben Dyfi. Wedi iddo ymweld â'r lle fel plentyn, dychwelodd Plant yno yn 1971 yng nghwmni gitarydd y band, Jimmy Page, gan ddod â'u teuluoedd gyda nhw.

Roedd y bywyd syml, "oddi ar y grid" - heb drydan na dŵr tap - yn ddihangfa perffaith rhag teithiau blinedig Led Zeppelin yn yr Unol Daleithiau. "Roeddwn i wir eisiau ffoi rhag yr holl intensity hwnnw," meddai Plant.

Yno, yng nghanol harddwch naturiol Bro Dyfi, y ganed asgwrn cefn yr albwm chwyldroadol Led Zeppelin III. Cafodd y cysylltiad hwn ei anfarwoli ymhellach yn y ffilm The Song Remains the Same o 1976; ble mae Robert Plant i'w weld yn hwylio cwch gan chwifio'r Ddraig Goch yn Aberdyfi.

Yn y bwthyn hwn cyfansoddodd Plant a Page ganeuon fel 'Friends', 'That's the Way' a 'Bron-yr-Aur Stomp' ar yr albym Led Zeppelin III ac 'Over the Hills and Far Away' o'r albym Houses of the Holy.Ffynhonnell y llun, andy / Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Yn y bwthyn hwn cyfansoddodd Plant a Page ganeuon fel Friends, That's the Way a Bron-yr-Aur Stomp ar yr albym Led Zeppelin III ac Over the Hills and Far Away o'r albym Houses of the Holy

Er gwaethaf yr ysbrydoliaeth hon, nid oedd popeth yn hawdd i ddechrau. Mae Plant yn cofio'r her o gael ei ystyried yn "Jac Sais" mewn cyfnod lle roedd tensiynau gwleidyddol a diwylliannol yn rhedeg yn uchel.

Ond dros y blynyddoedd, mae wedi gweld y dref yn newid ac yn datblygu cymeriad unigryw.

Cyn i'r Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) gael ei sefydlu, roedd gan Fachynlleth gymuned lenyddol a chelfyddydol fywiog iawn a ddenai bob math o greadigwyr, o gerddorion mandolin yr Incredible String Band i gorau o Fwlgaria yn canu yn y dref.

"Roedd yn syfrdanol i raddau, oherwydd dyma le oedd yn tynnu pawb yma," meddai Plant, gan ddisgrifio Machynlleth ar y pryd fel dechrau ar "arbrawf ddigon rhyfeddol" sydd erbyn heddiw yn le amlddiwylliannol ac agored.

Plethu hanes a diwylliant modern

Nid mater o rhyw seren roc a rôl cyfoethog yn prynu ail dŷ yng nghefn gwlad Cymru yw hyn - mae gan Plant berthynas glós gyda'r dref ac ymrwymiad dwfn i'w hanes gwleidyddol.

Fel aelod gweithgar o Gymdeithas Owain Glyndŵr, mae wedi bod yn ffigwr allweddol wrth hyrwyddo treftadaeth prifddinas hynafol Cymru. Bu Plant yn flaenllaw wrth godi arian ar gyfer y cofgolofn hanesyddol ym Machynlleth i nodi 600 mlynedd ers senedd gyntaf Glyndŵr yn 1404, gan gysylltu ag eiconau o ddiwylliant poblogaidd Cymru fel Tom Jones i helpu.

Gan ddwyn i gof y dadorchuddio dramatig yn 2004, dywedodd: "O ystyried yr ymdrechion i wthio'r iaith, y farddoniaeth a'r caneuon allan o'r diwylliant, roedd yn wych gweld dechrau rhyw fath o adferiad... Roeddwn i'n falch o fod yn rhan o hynny."

Mae'n parhau i edmygu strategaeth Glyndŵr wrth uno tywysogaethau gogledd a de Cymru yn y 15fed ganrif, gan bontio perthynas sydd wedi bod yn anodd ar adegau dros y canrifoedd.

Robert yn sefyll o flaen y llythrennau gwyn trawiadol sydd wedi cael eu gosod ar fryn sy'n edrych dros y dref Ffynhonnell y llun, Dan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Robert yn sefyll o flaen y llythrennau gwyn trawiadol sydd wedi cael eu gosod ar fryn sy'n edrych dros y dref

Mae'r dref sydd wrth odre Eryri bellach yn cyfuno'r dreftadaeth hanesyddol honno ag arloesedd modern, gan gynnal Gŵyl Gomedi fwyaf blaenllaw'r DU yn ogystal â Gŵyl Machynlleth sy'n dathlu'r celfyddydau clasurol a Chymreig.

Gan fod mwy na chwarter y boblogaeth eisoes wedi nodi eu parodrwydd i helpu gyda'r ymgyrch bresennol, mae gan Fachynlleth sail gadarn iawn i hawlio'r teitl.

Wrth i Fachynlleth baratoi ei chais ar gyfer 2028, mae cael cyn-ganwr un o fandiau mwyaf y byd yn datgan "I pledge thee my troth" yn brawf pellach o swyn hudolus y dref hon.

Mae ei gefnogaeth yn dangos nad tref ar ffiniau daearyddol yn unig yw Machynlleth, ond calon ddiwylliannol sy'n parhau i ysbrydoli cenedlaethau o artistiaid ac ymwelwyr o bedwar ban byd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol