Merched y Môr hanner ffordd i Antigua

Ras Rhwyfo Anoddaf y Byd Ffynhonnell y llun, Ras Rhwyfo Anoddaf y Byd
Disgrifiad o’r llun,

Merched y Môr

  • Cyhoeddwyd

Er gwaethaf wynebu tonnau 20 troedfedd, gorflinder a salwch y môr, mae tîm rhwyfo Merched y Môr wedi cyrraedd hanner ffordd yn Ras Rhwyfo Anoddaf y Byd ar draws Cefnfor yr Iwerydd.

Ar ôl dechrau o Tenerife bron i fis yn ôl, mae'r criw benywaidd cyntaf erioed o Gymru wedi rhwyfo dros 1,400 o filltiroedd yn eu cwch, Cariad, ar y ffordd i Antigua.

Mae'r tîm o bedair menyw o Sir Benfro - Denise Leonard, Helen Heaton, Heledd Williams a Liz Collyer - wedi bod yn rhwyfo yn ddi-baid mewn 'shifftiau' o ddwy awr yn rhwyfo, dwy awr yn gorffwys am 24 awr bob dydd, a hynny heb unrhyw gymorth.

Ond mae Heledd Williams o Drefdraeth yn bositif iawn am siwrne'r criw wrth iddi siarad gyda'r BBC hanner ffordd drwy'r daith:

"Mae popeth yn mynd yn grêt. Mae'r coesau a'r breichiau'n iawn, mae ambell i beth yn dechrau bod yn boenus, ond ni'n gwneud yn dda."

Y criw'n rhwyfo mewn hetiau NadoligaiddFfynhonnell y llun, Merched y Môr
Disgrifiad o’r llun,

Y criw'n rhwyfo mewn hetiau Nadoligaidd

Mae'r criw wedi bod ar y môr ers bron i fis bellach, meddai Heledd, sy'n weithiwr cymdeithasol o ran swydd.

"Mae wedi bod yn anodd. Y peth anoddaf, dwi'n credu, oedd ar ddechrau'r daith.

"Mae'r salwch môr wedi bwrw ni gyd, diffyg cwsg yn amlwg ac mae wedi hala sbel fach i'r corff dod i ymarfer a bod ar ddihun. Ni'n rhwyfo 12 awr y dydd."

Dywedodd un arall o'r criw, Helen Heaton, pa mor anodd yw'r rhwyfo yn y nos:

"Dydyn ni ddim yn gallu gweld unrhyw beth. Ni'n gallu teimlo'r môr yn codi ac yn clywed y tonnau'n rhuo ond ni'n methu gweld ble maen nhw, nes iddi nhw dorri dros y cwch a gwlychu ni."

Uchafbwyntiau

Ond mae digon o fywyd gwyllt i godi calon ar hyd y ffordd, fel mae Heledd yn esbonio: "Ni wedi cael sawl pod o dolffiniaid yn dilyn ni, yn aros gyda ni.

"Un uchafbwynt oedd morfil yn dod a oedd e gyda ni am siŵr o fod 2-3 awr. Mae aderyn bach, stone petrel, wedi bod gyda ni ers yr ail ddiwrnod a ni wedi galw fe'n Tegwyn.

"Mae'n dod rhyw dri i bedwar gwaith y dydd."

Agor anrhegion Nadolig Ffynhonnell y llun, Merched y Môr
Disgrifiad o’r llun,

Agor anrhegion Nadolig

Nadolig unigryw

Mae'r criw wedi bod ar y môr dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd gan ddathlu drwy fwyta cacen Nadolig ac agor anrhegion gan eu teuluoedd adref.

Ond roedd hi'n ddiwrnod gwahanol iawn i'r ŵyl arferol, yn ôl Heledd: "Roedd Nadolig 'ma yn wahanol iawn - ond mae mor brydferth yma a'r awyr mor glir. Oedd anrhegion hyfryd gan deulu a playlist Nadoligaidd i gael ni mewn i'r mŵd!

"O'n ni'n amlwg yn gweld eisiau teulu, o'n ni'n meddwl, beth sy mlaen gyda nhw nawr? Ody nhw'n bwyta twrci neu'n eistedd o flaen tân? Roedd e'n anodd ond 'nathon ni'r gorau ohoni allen ni."

Mae yna 43 o griwiau yn y ras gyda naw criw benywaidd ac mae'r gwynt yn hwyliau Merched y Môr wrth iddyn nhw godi i'r pumed safle yn eu grŵp yr wythnos yma.

Dywedodd Heledd: "Mae'r safleoedd yn newid bob dydd. Ambell waith ni'n chweched, ni'n bumed, ond mae'r cwrs ni'n cymryd yn cael effaith mawr ar y safle.

"Ni wedi mynd lawr am y de, a nawr ni'n mynd am y gorllewin. Mae lot o'r timoedd eraill wedi mynd am y gorllewin, ac wedyn yn newid cwrs. Felly it's anyone's game, fel maen nhw'n dweud."

Ambell i hosan Nadolig ar y cwchFfynhonnell y llun, Merched y Môr
Disgrifiad o’r llun,

Ambell i hosan Nadolig ar y cwch

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig