Kenner Jones a fi: Priodi'r 'twyllwr gorau erioed'

- Cyhoeddwyd
"Roedd e'n greulon ofnadwy. Dyna oedd mor anodd i dderbyn – oeddet ti'n meddwl, pwy fyddai'n gwneud y fath beth? Do'n i ddim yn adnabod unrhyw sociopath na seicopath yn fy mywyd i – doedd gen i ddim ffordd o adnabod un."
Lee McKenzie o Ganada oedd gwraig gyntaf y Cymro Cymraeg Kenner Elias Jones o Gaernarfon, sy' wedi cael ei ddisgrifio fel 'y twyllwr gorau erioed' gan uwch-swyddog mewnfudo yn America.
Bellach yn byw mewn cartref gofal ym Munich, mae e wedi twyllo degau o unigolion ar dri chyfandir dros 40 mlynedd, gan dargedu elusennau a sefydliadau crefyddol. Cafodd ei garcharu ar nifer o achlysuron.
Ond pan wnaeth Lee McKenzie gyfarfod y gŵr ifanc yn Llandudno yn 1979 mae'n cofio cael ei swyno ganddo.
Bu Lee, sy' newydd rannu ei stori ar raglen Con Jones: Twyllwr Gorau'r Byd ar S4C, yn trafod eu perthynas a'i thorcalon wedi iddo ei thwyllo hi gyda BBC Cymru Fyw.

Priodas Lee a Kenner yn 1982
Mae hi'n disgrifio'r Kenner wnaeth hi gyfarfod ar ddiwedd y 1970au fel 'ffrind hyfryd': "Cyfeillgarwch oedd y berthynas i gychwyn pan o'n i'n aros gyda fe a'i fam yng Nghaernarfon ac yn ymweld â'r eisteddfod.
"Roedd e'n ddoniol ac yn ddymunol. Ro'wn i'n gallu eistedd a siarad gyda fe am unrhyw beth. Roedd e'n coginio'n dda ac yn gwybod lot am hanes. Ac oedd e'n gwrtais a'n garedig i'w fam."
Ond nid dyma oedd y Kenner go iawn, meddai.
Yn ôl Lee, nid oedd un moment penodol pan wnaeth hi sylweddoli'r gwir am ei gŵr: "Mi wnes i sylweddoli'n araf bach – dwi wedi fy magu mewn cymuned fach felly bosib mod i ychydig yn naïf ac ro'wn i wir yn credu mai fy mherthynas gyda Kenner oedd fy nghyfle mawr am hapusrwydd – ac hefyd bach o antur.
"Ro'wn i'n caru'r syniad o dyfu i fyny mewn diwylliant newydd a chael ail iaith. Ac mae rhywun fel Kenner yn gwneud ti yn ganolbwynt eu bywyd nhw. Ac yn sydyn ti'n credu fod dy freuddwyd wedi dod yn wir."
Priododd y ddau yn Vancouver gan fyw yn Surrey am gyfnod ac hefyd yn Canada lle'r oedd Lee yn gweithio fel darlledwr.
Yn ystod y briodas mi aeth Kenner Jones i ddyled mawr, gan ddwyn arian ganddi ac eraill gan gynnwys aelodau o'i theulu ac hefyd gan Blaid Rhyddfrydol Canada le bu'n gwirfoddoli. Bron i Lee gael ei harestio yn ei swyddfa unwaith wedi iddo ffugio ei llofnod ar sieciau.
Roedd yn feistr ar dwyllo pobl, yn ôl Lee: "Roedd e'n edrych mor ddiniwed – dyw e ddim yn edrych fel troseddwr.
"Ond mae 'na rhywbeth arall – doedd dim arwydd fod e'n dweud celwydd achos does ganddo ddim cydwybod. Heb arwydd o'r celwydd dyw e ddim yn teimlo fel fod e'n fygythiad. Ac mae hynny'n bŵer mawr."

Mae Kenner Jones wedi defnyddio'r enwau Kenner Elias Jones, Dr M K Jones, Elias Jones, a Kenner Ngeiwo Hawkins yn ystod ei yrfa droseddol
'Plentyndod negyddol a lletchwith'
Mae Lee yn credu fod ei ymddygiad yn tarddu o'i blentyndod 'negyddol a lletchwith' wnaeth arwain at y bachgen bach yn creu byd mewnol dychmygol.
Ers y briodas mae hi wedi siarad gyda nifer o seicolegwyr am ei gŵr ac wedi gweld y ffeiliau oedd adran mewnfudo Canada yn cadw amdano cyn iddo gael ei wahardd o'r wlad: "Roedd ffeil trwchus amdano gydag adroddiadau o'r holl achosion o dwyll ac maen nhw'n ei ddisgrifio fel sociopath a seicopath, celwyddgi ac hefyd yn dweud fod ganddo 'imposter syndrome'."

'Y peth gwaethaf'
Pan oedd Lee yn feichiog gyda'i blentyn mi wnaeth Kenner Jones ddweud wrthi fod e'n cael ei blacmelio, bod eu bywydau dan fygythiad a'i fod am ladd ei hun.
Roedd y cyfan yn gelwydd ond mi wnaeth y straen arwain at Lee yn colli'r baban: "Y peth gwaethaf iddo wneud oedd y noson 'nes i golli'r baban. Ymhob ffordd posib dyna'r peth mwyaf creulon iddo wneud.
"Dywedodd e fod e am ladd ei hun ac roedd e'n dweud celwydd am y bygythiad i'n bywydau ni. D'on i ddim o bwys o gwbl – roedd pob cariad, cefnogaeth ac ymddiriedaeth o'n i wedi rhoi iddo yn werth dim.
"Mae siarad am golli'r babi 45 mlynedd yn hwyrach dal i frifo."
Ond mi wnaeth Lee faddau iddo a bu'r ddau yn byw yng Nghanada am gyfnod cyn i'r briodas fethu. Mae Lee yn credu y byddai hi wedi marw o dorcalon os fyddai hi wedi aros gyda Kenner: "Roedd fy myd yn cau amdana'i ac o'n i mewn cymaint o boen."
Bu Kenner Jones yn gweld seiciatrydd arall wedi symud i Ganada a chafodd diagnosis o gyflwr personoliaeth sociopath.
Rhybuddiodd y seiciatrydd Lee y byddai ei gŵr yn gallu ei lladd yn emosiynol ac o bosib yn gorfforol gan ddweud wrthi i adael y briodas.
Clip o raglen Con Jones ar S4C
Bron i hanner canrif yn ddiweddarach ac wedi ail-briodi erbyn hyn mae Lee yn edrych yn ôl ar y berthynas ac yn gweld gwreiddiau'r twyllwr: "Dwi'n gweld plentyn gafodd ei niweidio – ond dwi hefyd yn gweld oedolyn galluog oedd o gwmpas ei bethau yn dewis beth oedd e'n mynd i wneud.
"Doedd e ddim allan o reolaeth. Dewisodd e beth oedd e'n mynd i wneud bob cam o'r ffordd."
Fel rhan o'r rhaglen ar S4C mae Lee yn cyfarfod ei cyn ŵr am y tro olaf mewn cartref gofal ym Munich: "Pan oeddwn i yno gyda fe mi drïodd ymddiheuro.
"Oedd e'n difaru? Dwi'n mynd i ddweud fod tua 3% o debygolrwydd ei fod yn difaru.
"Dwi'n derbyn fod y person yma wedi ei fagu mewn amgylchiadau anodd a dwi'n tynnu llinell dan yr holl beth.
"Mae'r berthynas wedi gorffen a dyw e ddim i fi i feio nac i faddau.
"Y person o'n i angen maddau yn yr achos yma oedd fi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2015