O'r Cymru Premier i greu hanes yng Nghwpan yr FA

Emlyn Lewis fydd capten Weston-super-Mare yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA
- Cyhoeddwyd
Mae Emlyn Lewis eisoes wedi bod yn rhan o ddigwyddiad hanesyddol yn y byd pêl-droed.
Yn 2019 roedd yn chwarae i MET Caerdydd pan lwyddon nhw i fod y tîm prifysgol cyntaf erioed i gyrraedd Cynghrair Europa.
Ond y penwythnos yma mi fydd yn gapten ar Weston-super-Mare pan fydden nhw'n chwarae yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA am y tro cyntaf yn eu hanes yn erbyn Grimsby.
"Dwi'n cofio'r cadeirydd yn dweud wrthai 'ti ydi'r capten cyntaf i arwain y clwb i'r drydedd rownd' ac mae'n rhywbeth dwi'n falch iawn ohono.
"Mae 'na gymaint o gynnwrf o amgylch y clwb ac mae'n deimlad arbennig.
"Fel grŵp o chwaraewyr mae'n bwysig ein bod ni yn ceisio perfformio'n dda yn Grimsby, a cheisio ennill y gêm."

Stadiwm Optima yw cartref clwb Weston-super-Mare
Mae Weston-super-Mare yn chwarae yng Nghyngres y De - sef y chweched haen ym mhyramid pêl-droed Lloegr.
Fe enillon nhw o 2-0 yn erbyn Chelmsford - clwb arall o Gyngres y De - yn yr ail rownd.
Roedden nhw wedi gobeithio am gêm yn erbyn un o gewri Uwch Gynghrair Lloegr yn y drydedd rownd, ond yn hytrach na hynny mi fydden nhw oddi cartref yn erbyn Grimsby o'r Ail Adran.
Mae' daith bedair awr a hanner i Sir Lincoln wedi cael ei disgrifio fel "y gêm waethaf bosibl" gan rai o gefnogwyr Weston, ond mae Emlyn yn mynnu bod chwarae'n erbyn tîm sydd ddwy adran yn uwch yn mynd i fod yn achlysur cyffrous.
"Yn naturiol roedd pawb ishie Lerpwl, Manchester United neu Chelsea - ond yn y pen draw 'da ni'n hapus ein bod ni wedi cael Grimsby.
"Ella fod taith i Grimsby ddim yn rhwybeth 'sa chi'n ei gysylltu gyda rhamant y gwpan, ond mi rydyn ni'n edrych ymlaen i fynd yno."

Fe enillodd Grimsby yn erbyn Manchester United yng Nghwpan y Gynghrair
Mae Grimsby wedi bod yn y penawdau yn barod y tymor yma wedi iddyn nhw guro Manchester United ar giciau o'r smotyn yng Nghwpan y Gynghrair.
Ac mae Elfyn yn cyfaddef iddo fwynhau gwylio'r gêm gan gofio pwy mae o'n ei gefnogi.
"Fel cefnogwr Lerpwl mi o'n i'n chwerthin ar y pryd! Doeddwn i byth yn meddwl ar y pryd y byswn i wedyn yn cael y cyfle i chwarae yn erbyn Grimsby.
"Maen nhw'n cael tymor da - maen nhw yng nghanol y tabl yn yr Ail Adran. Gobeithio y gallwn ni achosi sioc achos dyna sy'n gwneud Cwpan yr FA mor arbennig"

Tacl bwysig gan Emlyn Lewis yn erbyn Chelmsford yn ail rownd Cwpan yr FA
Ar ôl ymuno â'r clwb ym mis Mehefin 2024 mi gafodd yr amddiffynnwr canol 29 oed ei benodi'n gapten ar y clwb.
Fe orffenodd Weston-super-Mare y tymor diwethaf un safle tu allan i safleoedd y gemau ail-gyfle.
Ond y tymor yma mae ganddyn nhw siawns gwych o ennill dyrchafiad i Gynghrair Genedlaethol Lloegr gan eu bod nhw'n yr ail safle ar y funud, un pwynt yn unig tu ôl i Worthing sydd ar y brig.
"Mi o'n i eisiau her newydd, dyna pan nes i ymuno â'r clwb. A 18 mis yn ddiweddarach dwi dal yma ac yn mwynhau fy hun.
"'Dan ni'n gwneud yn wych yn y gynghrair ac mae'r rhediad yn y cwpan wedi bod yn anhygoel."
Antur Ewropeaidd

Emlyn Lewis yn chwarae i MET Caerdydd yng Nghynghrair Europa
Fe ddechreuodd gyrfa bêl-droed Emlyn yn ngorllewin Cymru.
Fe ddechreuodd chwarae i'w glwb lleol, Aberaeron, cyn ymuno ag academi Aberystwyth.
Fe aeth i Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2014 a dechreuodd chwarae i'r tîm pêl-droed sy'n chwarae yn y Cymru Premier.
Yn 2019 fe enillon nhw ar giciau ar smotyn yn erbyn Y Bala mewn gêm ail-gyfle i sicrhau lle yng Nghynghrair Europa. Nhw oedd y tîm cyntaf o fyfyrwyr i lwyddo i wneud hyn.
Er iddyn nhw golli'n erbyn Progres Niederkorn o Lwcsembwrg yn y rowndiau rhagbrofol, mae Emlyn yn falch ei fod wedi cael y cyfle i chwarae mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.
"Mi oedd yn dipyn o beth cyrraedd Cynghrair Europa. Mae'n rhywbeth y byddai'n ei gofio am byth.
"Yr unig siom oedd ein bod ddim wedi mynd yn bellach. Fe gawson ni ddigon o gyfleoedd i fynd drwodd i'r rownd nesaf.
"Gobeithio y bydd chwarae yng Nghwpan yr FA yn rhoi mwy o atgofion gwych i fi."
Cynrhychioli Cymru

Dathlu buddugoliaeth Cymru C o 4-0 yn erbyn Lloegr yn 2022
Yn ystod ei amser gyda MET Caerdydd fe gafodd y cyfle hefyd i chwarae dros dîm C Cymru - sef tîm o chwaraewyr o'r Cymru Premier.
Fe enillodd bedwar cap ac fe roedd yn gapten yn y fuddugoliaeth 2-0 yn erbyn Lloegr yng Nghaernarfon yn 2022.
"Dwi mor ddiolchgar fy mod i wedi cael y cyfle yna. Mae'n rhywbeth arall dwi'n falch fy mod i wedi cael cyfle i'w wneud yn ystod fy ngyrfa,.
"Mae 'na dal bethau dwi eisiau eu cyflawni yn fy ngyrfa, gan gynnwys bod yn rhan o dîm buddugol yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA.
"Dwi'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd y penwythnos yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
