Rocky Marciano, a ddechreuodd ei yrfa focsio yng Nghymru

- Cyhoeddwyd
Mae Rocky Marciano'n cael ei ystyried fel un o'r bocswyr gorau erioed. Ef oedd pencampwr pwysau trwm y byd o 1952 i 1956, ac fe enillodd pob un o'i 49 gornest broffesiynol.
Ganwyd Rocco Francis Marchegiano yn Brockton, Massachusetts, yn 1923, gyda'i rieni'n mewnfudo i'r Unol Daleithiau o dde'r Eidal rhai blynyddoedd ynghynt.
Yn ei arddegau roedd Marciano'n ymddiddori mewn cadw'n heini, gan chwarae pêl-fâs a phêl-droed Americanaidd. Roedd hefyd wedi dechrau dangos diddordeb mewn bocsio, gan ddyrnu bag post mawr wedi ei stwffio a oedd yn hongian o goeden yn ei ardd gefn.
Symud i Gymru
Pan oedd yn 19 mlwydd oed, ag America wedi ymuno â'r Ail Ryfel Byd, cafodd Marciano ei alw i'r fyddin, gan ymuno â'r 150th Combat Engineers.
Cafodd Marciano a'i uned eu lleoli yn ne Cymru yn 1943, gan dreulio'r rhan fwyaf o'r amser yn ardal Abertawe, y Mwmblws a'r Gŵyr. Roeddent yn yr ardal tan ddiwedd y rhyfel.
Roedd Marciano'n rhan o'r ymdrech i fynd â nwyddau dros y sianel cyn y glanio a'r ymosodiadau enwog yn Normandy.

Rocky Marciano yn Abertawe gyda dau o'i gyd-filwyr
Yn ôl y sôn fe ddechreuodd Marciano focsio yn ne Cymru er mwyn osgoi gorfod gweithio yng ngegin y safle milwrol ble roedd yn aros.
Dechreuodd hyfforddi mewn campfeydd lleol, gan gynnwys campfa'r bocsiwr pwysau trwm, Jim Wilde, ger gorsaf drên Abertawe - (dim i'w gymysgu â Jimmy Wilde, y bocsiwr pwysau pry o Ferthyr).
Ymladd mewn tafarn yn Abertawe
Mae sawl stori am gyfnod Rocky Marciano yn Abertawe, ond efallai'r enwocaf yw digwyddiad yn un o dafarndai hynaf y ddinas sydd bellach wedi cau - Yr Adelphi.
Roedd Marciano yn y dafarn gyda grŵp o ffrindiau pan ofynnodd am wydraid o lefrith. Wrth y bar ar y pryd roedd milwyr o Awstralia, gan fod nhw hefyd wedi eu lleoli yn Abertawe.
Trodd un o'r milwyr o Awstralia at Marciano gan ofyn "hey kid, is milk strong enough for ya?"
Roedd Marciano'n dechrau gwylltio gan fod y milwr o Awstralia'n gwneud hwyl am ei ben, ac yn gweld hyn fe gymrodd ei ffrindiau gam neu ddau yn ôl, yn rhagweld beth oedd am ddigwydd.
Camodd Marciano ymlaen gan daflu un dyrnaid i ên y milwr o Awstralia, a'i lorio'n syth.
Yn siarad gyda newyddiadurwr flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd Marciano: "The Aussie finished up in his warm beer. The pub was called The Adelphi. I wrote the name down, just in case the Aussie had anything to say about the matter."

Yfed llefrith; rhan ganolog o baratoadau Marciano cyn ei ornestau
Gornest yn erbyn Jack Matthews
Dechreuodd Marciano ei yrfa amatur yn ne Cymru, gydag un ornest nodedig yn erbyn Cymro a ddaeth i enwogrwydd mewn camp arall.
Ym mis Mawrth 1943 cafodd Marciano ornest yn erbyn Dr Jack Matthews yn safle RAF Sain Tathan.
Aeth Matthews, o Ben-y-bont ar Ogwr, ymlaen i fod yn ganolwr dros dîm rygbi Caerdydd a Chymru, gan ennill 17 o gapiau a'r Gamp Lawn yn 1950. Cafodd chwe chap dros Y Llewod ar y daith i Seland Newydd ac Awstralia yn 1950.

Dr Jack Matthews, y chwaraewr rygbi rhyngwladol a wynebodd Marciano yn 1943
Ar adeg yr ornest yn erbyn Marciano, roedd Matthews yn rhan o dîm bocsio Ysgol Feddygol Cymru. Dywedodd bocsiwr arall o'i dîm wrth Matthews; "Rocky has knocked out his last six opponents", ac yn ôl y sôn fe atebodd Matthews drwy ddweud, "well, he won't make it seven".
Cafodd yr ornest ei dyfarnu fel un cyfartal, a oedd yn dipyn o gamp gan Jack Matthews o ystyried i Marciano fynd ymlaen i ennill pencampwriaeth y byd a phob un o'i 49 gornest broffesiynol yn erbyn rhai o'r bocswyr gorau erioed.
Wedi iddo ymddeol o chwarae rygbi parhaodd Matthews i weithio fel doctor - ef oedd swyddog meddygol Cymdeithas Focsio Cymru, ac roedd hefyd yn feddyg ar daith Y Llewod i Dde Affrica yn 1980.

Y 'Brockton Bomber' yn ymarfer ar y bag trwm
Dychwelyd i'r Unol Daleithau
Cafodd gatrawd Rocky Marciano ei anrhydeddu gyda gwobr arbennig gan Arlywydd UDA yn dilyn brwydro ar yr Afonydd Sauer ac Our yn Lwcsembwrg a'r Almaen.
Wedi i'r rhyfel ddod i ben fe gwblhaodd Marciano ei yrfa filwrol ar safle Fort Lewis yn nhalaith Washington, ac fe adawodd y fyddin ym Mawrth 1946.
Cafodd ei ornest broffesiynol gyntaf ym mis Mawrth 1947, ac yn ei yrfa fe gurodd rhai o'r bocswyr pwysau trwm gorau erioed, gan gynnwys Ezzard Charles, Joe Louis, ac Archie Moore.
Enillodd Bencampwriaeth y Byd drwy guro Jersey Joe Walcott ar 23 Medi, 1952.

Gornest Rocky Marciano yn erbyn Jersey Joe Walcott am bencampwriaeth y byd, 1952
Cymru yn ysbrydoliaeth
Yn hwyrach yn ei yrfa, tra'n hel atgofion am Gymru dywedodd Marciano ei fod wedi mwynhau bwyd Cymru, yn enwedig y cwrw, bara lawr, y cocos a'r cregyn gleision, a'r pwdin bara Cymreig o Farchnad Abertawe.
Dywedodd ei fod yn cofio'r arfordir oddi ar Abertawe a'i fod wedi ei ysbrydoli gan Gymru.
Wedi iddo ymddeol yn 32 mlwydd oed fe fentrodd rhywfaint i'r byd actio ac roedd yn ffrindiau gyda rhai o sêr Hollywood y cyfnod, fel Frank Sinatra a Dean Martin.

Marciano'n llorio'r enwog Joe Louis mewn gornest yn Madison Square Garden, New York, yn 1951
Ym mis Awst 1969 roedd Marciano'n teithio mewn awyren fach (Cessna 172) pan drodd y tywydd yn ddifrifol.
Roedd y peilot yn ifanc ac yn ddibrofiad ac o ganlyniad fe aeth yr awyren i lawr yn nhalaith Iowa gan ladd y tri oedd ar awyren, gan gynnwys y bocsiwr byd-enwog.
Dim ond 45 mlwydd oed oedd Rocky Marciano pan fu farw, wedi bywyd a gyrfa arbennig; gyrfa a ddechreuodd ym Mae Abertawe.

Rocky Marciano wedi iddo ymddeol
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2025

- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2023
