Pum munud gyda Bardd y Mis: Robin Farrar

Robin FarrarFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Robin Farrar yn ôl yng Nghymru - ond gyda'i het Fasgaidd

  • Cyhoeddwyd

Mae Robin Farrar newydd ddychwelyd i Gymru ar ôl cyfnod yn byw yng Ngwlad y Basg.

Fel cyn-gadeirydd ac ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith mae ganddo ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth y wlad a'r iaith Fasgeg.

Bellach wedi ymgartrefu yn Nebo, Dyffryn Nantlle ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg yng nghanolfan Nant Gwrtheyrn, drwy gydol fis Chwefror, fo ydi Bardd y Mis ar BBC Radio Cymru.

Pam aethoch chi i fyw i Wlad y Basg?

Ro'n i wedi bod yn dysgu'r iaith ers dipyn o amser ac eisiau symud yno i ymarfer a gwella.

Mae'r chwilfrydedd am yr iaith yn mynd yn ôl i pan o'n i'n gweithio efo'r Gymdeithas, ac mae rhywun yn clywed am sut mae pethau yng Ngwlad y Basg efo'r iaith a'i statws.

Ro'n i'n byw yng ngogledd Gwlad y Basg i fyny yn y mynyddoedd ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg, ar-lein.

Murlun yng Ngwlad y BasgFfynhonnell y llun, RAFA RIVAS/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tebygrwydd rhwng sefylla wleidyddol a ieithyddol Cymru a Gwlad y Basg

Mae sefyllfa'r ddwy iaith yn reit debyg, efo'r canrannau sy'n ei siarad - tua 19% yng Nghymru, a 'chydig mwy yng Ngwlad y Basg, ella o gyfrif bob man tua 30%. Hefyd mae'r ddwy iaith yn wahanol iawn i'r brif iaith sydd o'u cwmpas nhw.

Mae'r profiad o'i siarad yn debyg weithiau - fel pan mae pobl yng Nghymru yn troi i'r Saesneg mewn sefyllfaoedd gwahanol.

Ges i'r un profiad draw yno, yn enwedig yn y gogledd, y rhan sy'n dod o dan lywodraeth Ffrainc, lle mae 'na grŵp o bump neu chwech o bobl yn cael sgwrs Basgeg ac wedyn mae un dyn bach sydd ddim yn siarad yr iaith yn ymuno ac mae bob dim yn newid.

Beth all Cymru ei ddysgu o Wlad y Basg?

Ym mhob rhan o Wlad y Basg mae pobl yn dda iawn am gynnal gwyliau.

Mae pob tref a phentref efo gŵyl ac os mae'n digwydd mewn pentref lle mae hanner y bobl yn siarad Basgeg mae'r cyfan yn digwydd trwy'r iaith Fasgeg achos y bobl sy'n siarad yr iaith sy'n trefnu.

Sut yda ni'n cael yr lefel yna o fwrlwm yng Nghymru?

Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fydden nhw a pham?

Baswn i wrth fy modd yn cael bod yn un o feirdd y bertso, traddodiad canu byrfyfyr Gwlad y Basg.

Tra bo beirdd Cymru'n gweithio am fisoedd i geisio ennill cadair, dim ond ychydig funudau mae'r bertsolari yn eu cael, a'r buddugol yn ennill het. Dach chi'n cael gweld y bertsolari yn chwysu ar lwyfan o'ch blaen wrth droi pwnc yn gerdd a dechrau canu.

Maialen LujanbioFfynhonnell y llun, Creative Commons
Disgrifiad o’r llun,

Maialen Lujanbio

Un o'r goreuon yw Maialen Lujanbio - nid yn unig ei bod hi'n fyw, dw i wedi cael y wefr o'i gweld hi'n perfformio, yn un o'r dorf o 13,000 wrth iddi ennill yr het genedlaethol yn 2022; ac eto mewn pentref bach ychydig filltiroedd o ble'r o'n i'n byw yng ngogledd y wlad.

Yn ogystal â themâu dwys, bydd y bertsolari yn cyfarch ac yn gwneud hwyl ar ben y gynulleidfa mewn digwyddiadau o'r fath, ac mi gafodd y Cymro barfog oedd yn eistedd ar lawr yn gwrando'n astud mensh yn un o'i phenillion!

Roeddech chi'n ymgyrchydd gyda Chymdeithas yr Iaith am flynyddoedd. Pa gerdd neu eiriau cân wleidyddol fyddech chi wedi hoffi ei sgwennu?

Gerallt Lloyd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Geralt Lloyd Owen

Cwestiwn anodd, gan fod gymaint o gerddi yn troi yn fy mhen, ac mae'r rhai da i gyd yn cyffwrdd ar rywbeth gwleidyddol yn y pen draw. Gan fod rhaid dewis, pwy gwell na Gerallt Lloyd Owen.

Ond nid clasuron anfarwol fel Cilmeri neu Etifeddiaeth - mae rhywbeth digon dynol am hiwmor Trafferth Mewn Siop.

Er nad oes neb yn talu efo siec erbyn hyn, mae'r sefyllfa'n un boenus o gyfoes: pawb a phopeth yn ein gwthio tua'r Saesneg oni bai bod rhywun yn fodlon ystyfnigo a mynnu ei hawl i'r Gymraeg.

Pryd dechreuoch chi farddoni?

Mae diddordeb gen i mewn barddoniaeth erioed, ond dw i'n dal i deimlo fy mod i ar ddechrau'r daith o ran barddoni.

Mae cryn wahaniaeth rhwng mwynhau cerddi ar y naill law a chreu barddoniaeth eich hun ar y llall.

Er fy mod i wedi ysgrifennu ambell beth pan o'n i'n iau, ac wedi mynd ati i ddysgu cynganeddu yn fy ugeiniau, tua dwy flynedd yn ôl dechreuais i ysgrifennu cerddi'n amlach. Ers hynny dw i wedi bod ar y cwrs cynganeddu yn Nhŷ Newydd, ac wedi ymuno â chlwb cynganeddu Caernarfon.

Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?

Cerddi bardd y mis - roedd ambell beth yn barod gen i cyn i'r mis ddechrau, ond dw i dal wrthi'n ychwanegu a thwtio'r gwaith.

A hel syniadau newydd er mwyn peidio dod i stop pan ddaw'r mis i ben!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: