'Y berthynas arbennig rhwng Cymru a Gwlad y Basg'

- Cyhoeddwyd
O chwaraeon i farddoniaeth i'r iaith mae cysylltiad arbennig wedi bod rhwng Cymru a Gwlad y Basg ers canrifoedd.
Mewn cyfres deithio newydd ar S4C mae'r cerddor Gwilym Bowen Rhys o Fethel, ger Caernarfon, yn ymweld â Gwlad y Basg ac yn dysgu am yr hanes, yr iaith, y gerddoriaeth a'r diwylliant.
Mae Gwilym wedi bod yn teithio yno ers 10 mlynedd ac, mewn darn arbennig i BBC Cymru Fyw, mae'n rhannu'r pethau sy'n uno y ddwy wlad.
Adfywiad i'r iaith a'r diwylliant wedi degawdau o orthrwm
Mae Gwlad y Basg wedi dioddef lot mwy diweddar na ni o ran pwysau ar eu diwylliant a'u hiaith nhw gan y llywodraeth.
Tan y 1970au roedd Sbaen yn cael ei rheoli gan yr unben Franco – dim ond un iaith oedd yn bwysig sef Sbaeneg.
Roedd pob un diwylliant leiafrifol o fewn y wlad yn cael ei sathru. Ar ôl marwolaeth Franco mae'r gwthio yn ôl wedi bod yn gryf oherwydd y degawdau yma o bwysau.
Mae'r diwylliant wedi profi rhyw fath o adfywiad achos bod nhw'n gwthio yn ôl yn erbyn gorthrwm hanesyddol gan y llywodraeth.
Barddoniaeth byrfyfyr
Mae barddoniaeth byrfyfyr yn cymryd lle amlwg iawn yn y diwylliant yno.
Un o'r pethau sy'n ddiddorol yw bod eu traddodiad barddol nhw yn beth pwysig iawn yn y diwylliant ac yn yr iaith.
Mae'r traddodiad barddol yn y iaith Fasgeg yn fwy byrfyfyr na'n traddodiad barddol ni.
Yn hanesyddol roedd gyda ni lot mwy o draddodiad byrfyfyr fel canu pwnc – ond mae ganddyn nhw y traddodiad yma o ganu byrfyfyr sy'n gystadleuol iawn ac yn anodd iawn. Maen nhw'n gorfod ymateb i thema ar y sbot ac mae'n gorfod ffitio mewn i strwythur penodol iawn.
Mae ffeinal cenedlaethol barddoniaeth byrfyfyr Gwlad y Basg yn digwydd bob pedair mlynedd ac maen nhw'n llenwi theatrau efo miloedd o bobl.

Bardd yn perfformio ar lwyfan yn ffeinal cenedlaethol barddoniaeth byrfyfyr Gwlad y Basg
Yr iaith yw canolbwynt y diwylliant
Beth sy' gyda ni yn gyffredin fel dwy wlad yw mai'r iaith yw canolbwynt y diwylliant. Yn Iwerddon, er enghraifft, mae gyda nhw ddiwylliant amrywiol a diddorol ond fyddai'r rhan fwya' o'r wlad ddim yn dweud mai'r iaith ydy prif golofn y diwylliant yno.
Yng Ngwlad y Basg yn ddiamheuaeth hynny yw'r canolbwynt a fuaswn i'n dadlau fod Cymru yr un peth.
Chwaraeon brodorol
Roedd ganddon ni chwaraeon brodorol fel cnapan yng Nghymru ond yng Ngwlad y Basg maen nhw wedi gallu cynnal nifer o'r chwaraeon brodorol yno – chwaraeon fel pêl yn erbyn wal, tebyg i squash.
Mae ganddyn nhw un o'r gemau mwyaf cyflym yn y byd, cesta punta, fel squash ond gyda maneg sy'n debyg i sgŵp plastig sy'n taflu pêl i'r ci ond wedi ei wneud o wiail plethiedig ac yn cael ei strapio i'r fraich.

Cesta punta
Hefyd mae chwaraeon gwledig fel codi pwysau ond yn lle dumbells maen nhw'n defnyddio cerrig anferth ac yn torri coed.
Maen nhw wedi gallu cadw lot o'r dawnsfeydd traddodiadol. Mae gen i ffrind sy'n cymryd rhan mewn grŵp dawnsio gwerin. Maen nhw wedi casglu y dawnsfeydd traddodiadol yma ac yn mynd rownd yn holi hen bobl amdanynt.
Yn Navarra maen nhw wedi casglu dros 800 o ddawnsfeydd traddodiadol drwy ffilmio enghraifft ohono a recordio'r sain. Mae fel bod pob pentref efo dawns ei hun.
Falle mewn rhyw bentref maen nhw wedi bod yn gwneud y ddawns yma erioed ond rŵan mae gyda nhw gofnod gweledol ohono fo.

Yn ddaearyddol mae'n wlad debyg i Gymru
Mae Gwlad y Basg tua'r un maint â Chymru. O ran poblogaeth mae yr un maint â Chymru – tair miliwn. O ran canran sy'n siarad yr iaith mae tua yr un faint, sef 20% ond mae 'na ardaloedd lle mae 80% o bobl yn siarad yr iaith.
Mae'n debyg iawn o ran tirwedd – mae'n fynyddig ac yn wyrdd a'n gallu bod yn lawiog iawn.
Mae bwyd a diwylliant bwyd Gwlad y Basg yn anhygoel. Mae pawb yn mynd allan i'r sgwâr, mae rhieni yn eistedd ar y sgwâr yn ymlacio efo gwin bach tra fod eu plant yn chwarae. Mae'n ddiwylliant bod allan a bod yn gymdeithasol.
Mae 'na gysylltiad arbennig efo Casnewydd
Mae 'na bont cable car yn nhref Portugalete ac un yng Nghasnewydd a does dim llawer ohonyn nhw yn y byd.
Daeth lot o blant Basgaidd fel ffoaduriaid i Gymru yn ystod rhyfel cartref Sbaen, i ardal Casnewydd ac Abertawe ac roedd y bechgyn yma wedi ffurfio clwb pêl-droed o'r enw y Basque Boys.
I gofio am hynny mae clwb pêl-droed Casnewydd wedi creu crys i gofio'r cysylltiad rhwng y ddau le.
Tua 20 mlynedd yn ôl pan oedden nhw'n gwneud gwaith adeiladu yng Nghasnewydd daethon nhw o hyd i weddillion llong – llong Fasgaidd oedd o, oedd wedi llongddryllio yn y 15fed ganrif. Roedd o wedi mynd o dan y mwd ac mi wnaethon nhw ddod o hyd iddo yn ddiweddar.
Mae masnach wedi bod rhwng y ddau le ers canrifoedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd21 Awst 2025
