Bwncath yn ysbrydoli eu 'superfan' Phill Jones i ryddhau sengl

Mae Phill Jones, yma mewn gig diweddar gydag Elidyr Glyn, yn gobeithio wnaiff ei sengl ysbrydoli pobl eraill sydd efo nam golwg
- Cyhoeddwyd
Mae pob cerddor yn cael eu hysbrydoli gan eu hoff artistiaid ond anaml mae'r dylanwad yn cynnwys dygymod efo heriau dechrau ysgol newydd. Ond dyna'r sefyllfa i Phill Jones, sydd wedi gweld Bwncath "cannoedd os nad miloedd" o weithiau gan mai Elidyr Glyn oedd ei gymhorthydd oherwydd ei nam golwg.
Yn ogystal â'i gael i ddechrau mwynhau ysgol, fe wnaeth prif ganwr y grŵp gwerin ei annog i chwarae'r gitâr a rhoi'r hyder iddo sgwennu ei ganeuon ei hun - ac mae o newydd ryddhau ei sengl gyntaf.
Mae'r stori yn mynd nôl i 2015 a Phill Jones o Gaernarfon newydd ddechrau yn yr ysgol uwchradd. Dyma gyfnod heriol i nifer fawr o blant ond yn ôl Phill roedd sialensiau ychwanegol iddo fel plentyn 11 oed gyda nam golwg mewn ysgol prif ffrwd.

'Mr Glyn' gyda Phill
Ond yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, fe newidiodd ei agwedd tuag at addysg pan wnaeth o gyfarfod ei gymorthydd 'un i un' newydd.
Meddai: "Dwi'n cofio bod yn dosbarth celf a 'nath Elidir gerdded mewn a deud 'Iawn Phill'. Neshi ofyn 'pwy wyt ti?' a ddudodd o 'Mr Glyn - fi sydd efo chdi un i un rŵan'.
"Roeddan ni'n siarad a neshi deimlo bond syth i ffwrdd ac o'n i'n edrych ymlaen i fynd i ysgol ar ôl hynna.
"Roedd o efo fi fel un i un bob dydd am gwpl o flynyddoedd. Wedyn aeth o i deithio a neshi feddwl 'o na, dwi 'di colli ffrind'."
Roedd hyn yn ystod cyfnod cynnar sefydlu Bwncath, band wnaeth ddathlu 10 mlynedd gyda'i gilydd llynedd.
Ar ôl cyfnod yn teithio, daeth Elidyr Glyn yn ei ôl a dechrau gweithio yn yr ysgol fel athro llanw.
"Dim yn aml ti'n cael un i un yn cadw mewn cysylltiad ond wnaeth o, ac mae o wedi bod yn grêt yn cefnogi fi a chefnogi'r teulu," meddai Phill.

Elidyr Glyn, Phill Jones, gitarydd Bwncath Robin Llwyd a'r drymiwr Twm Ellis
Wrth i Bwncath gigio'n amlach a dod yn fwy poblogaidd, roedd Phill wedi dod yn un o'u prif ffans ac yn eu dilyn o un gig i'r llall. Fe gafodd o hefyd fod yn westai arbennig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2019 pan enillodd Elidyr Glyn gyda Fel Hyn 'Da Ni Fod, gan roi hwb enfawr i'r band.
"O'n i yna o'r cychwyn un," meddai Phill. "Dwi'n cofio pan doedd ganddyn nhw ddim tracs allan - mond caneuon ar SoundCloud, a dim albyms.
"Dwi dal i fynd i bob gig - dwi'm yn methu dim un ac wedi teithio efo nhw. Os 'di nhw'n mynd lawr i Gaerdydd a ma' nhw'n deud 'tisho dod efo ni?' dwi'n mynd achos dwi methu dreifio oherwydd nam golwg.
"Dwi 'di bod mewn cannoedd os nad miloedd o'u gigs nhw."
Fe gafodd ei gitâr gyntaf ar ei ben-blwydd yn 18 yn anrheg gan Elidyr, wnaeth hefyd ddysgu ambell i gord iddo. Ers tua dwy flynedd mae o wedi bod wrthi o ddifri yn dysgu'r offeryn ac yn gigio'n gyson yn perfformio fersiynau o ganeuon gwerin gan artistiaid fel Bwncath, Bryn Fôn a Gwilym Bowen Rhys.

Mae Phill wedi bod yn 'gigio'n solad' ers dwy flynedd bellach. Mae ganddo fand ac mae'n perfformio setiau acwstig ar ben ei hun
Ond llynedd fe ddechreuodd gyfansoddi am y tro cyntaf.
Meddai: "Roedd Lids (Elidyr Glyn) 'di deud 'Phill, wyt ti wedi meddwl am sgwennu stwff dy hun?'
"Neshi ddeud bod fi ddim yn meddwl bod fi'n ddigon dawnus i neud o a 'nath o ddeud bod fi. Ddudodd o 'dwi bob tro 'di deud bod gen ti glust am fiwsig - heb drio ti ddim yn gwybod'.
"Felly o'n i'n eistedd yn y tŷ un noson - a neshi bigo'r gitâr i fyny a dechrau. Neshi jest feddwl 'ti'n gwbod be' mae 'na rwbath yn fanna, mae 'na alaw yn fana'. Ddaeth o'n syth ar ôl chwarae cwpwl o chords a neshi feddwl 'rhaid i fi roi geiriau i hwn'.
"Neshi feddwl y peth gorau alla i sgwennu amdano fo ydi amdan fy mhrofiad i efo nam golwg ac i ddiolch am y gefnogaeth gan ffrindiau a theulu dros y blynyddoedd ac i ddiolch i Elidyr a Bwncath hefyd."

Fe gafodd Diolch i Chdi ei ryddhau Ionawr 2026
Fis Hydref aeth i'w recordio yn Stiwdio Sain, Llandwrog, gyda gitarydd Bwncath Robin Llwyd yn cynhyrchu, ac mae Diolch i Chdi bellach wedi cael ei ryddhau.
Gyda gigs wedi eu trefnu yn Sarn Mellteyrn, Pwllheli a Thalsarnau yn ystod mis Chwefror mae Phill, sydd bellach yn 22, yn bwriadu parhau i berfformio a sgwennu mwy, gyda'i fryd ar recordio albwm yn y dyfodol.
Mae'n dweud bod ei ddyled yn fawr i aelodau Bwncath am eu cefnogaeth a'u hysbrydoliaeth ond bod y ffaith ei fod o'n cael ei adnabod fel ffan enfawr o'r grŵp - efo tatŵ ar hyd un fraich sy'n profi hynny - yn creu sialens wrth iddo gamu allan i berfformio ar ben ei hun.

Robin Llwyd, ar y chwith, sydd wedi cynhyrchu Diolch i Chdi
"Superfan neu number one fan - fi ydi o, dwi 'di cael y teitl ond dyna sy'n anodd rŵan achos mae pobl wedi arfer gweld fi fel 'Bwncath number one fan' mae'n anodd torri drwodd fel Phill Jones," meddai.
"Mae rhyddhau'r gân wedi bod yn brofiad surreal. I feddwl ddwy flynedd yn ôl neshi bigo fyny'r gitâr i ddechrau chwarae go iawn a dwi 'di cyflawni rwbath faswn i byth wedi meddwl faswn i'n gallu neud.
"Mae sgwennu hefyd yn ffordd i fi rannu fy nheimladau ac emosiwn. A hefyd gobeithio bod o'n ysbrydoli pobl eraill sydd efo nam golwg.
"Tydi bod efo nam golwg ddim yn rhwystr - yndi ma'n her ond tydi o ddim yn rhwystr."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023

- Cyhoeddwyd2 Mai 2023

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
